Ymchwilwyr yn datgelu bod siarcod yn defnyddio鈥檜 cynffonau i ddyrnu wrth hela
Mae gwyddonwyr wedi dangos bod llwynogod m么r (siarcod 'thresher'), yn hela heigiau o bysgod trwy chwipio eu cynffonau mor galed fel eu bod yn anafu ac yn lladd llawer o bysgod ar yr un pryd. Dyna a ddywed ymchwil a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn mynediad agored PLOS ONE gan Dr Simon Oliver, Dr John Turner a Tim D鈥橴rban Jackson o Prifysgol 香港六合彩挂牌资料, a Klemens Gann a Medel Silvosa o broject ymchwil a chadwraeth llwynogod m么r yn y Philippines.
Mae'r papur 鈥楾hresher sharks use tail-slaps as a hunting strategy鈥, yn disgrifio arsylwadau cyntaf llwynogod m么r yn hela yn y gwyllt. Mae llwynogod m么r yn byw yn y moroedd agored, ac mae llawer o鈥檙 wybodaeth amdanynt hyd yma wedi鈥檌 seilio ar sgil-ddalfa pysgodfeydd. Mae鈥檙 astudiaeth yn dangos bod llwynogod m么r yn ysgogi 么l sioc ffrwydrol mewn colofn o dd诺r, sy'n farwol i heigiau o bysgod, trwy chwipio eu cynffonau fel catapwlt yn taflu magnelau. Mae鈥檙 canlyniadau鈥檔 rhoi syniad o ecoleg ymddygiadol a bioleg rhywogaeth siarcod, sydd angen eu gwarchod ar frys.
Gwnaed yr ymchwil gan Dr Simon Oliver, sylfaenydd y project ymchwil a chadwraeth llwynogod m么r pan oedd yn Ysgol Gwyddorau Eigion 香港六合彩挂牌资料. Mae erbyn hyn ym Mhrifysgol Lerpwl a chyllidwyd yr ymchwil gan Efrydiaeth NERC o dan oruchwyliaeth Dr John Turner.
Meddai, "Mae'r stori anhygoel hon yn tynnu sylw at yr amrywiaeth o strategaethau hela a ddefnyddir gan siarcod mewn cefnfor lle mae'r prif helwyr yn gorfod addasu i ymddygiad osgoi cymhleth eu prae lle bo鈥檜 niferoedd yn gostwng yn barhaus. Mae鈥檙 astudiaeth yn dangos gwybodaeth newydd am siarcod yn rhyngweithio gyda'u hamgylchedd naturiol ac yn addasu iddo, ac mae'n darparu sylfaen wybodus ar gyfer rheoli cadwraeth i ddiogelu鈥檙 safleoedd yma, sy鈥檔 ffurfio rhan o鈥檜 cynefin.鈥
Cyhoeddwyd y papur yn PLOS One, cyfnodolyn mynediad agored, ac mae wedi ysgogi llawer o ddiddordeb gyda'r stori yn cael sylw'r , Nature, Science, National Geographic, Plant Earth, a'r oriau ar 么l ei gyhoeddi.
Meddai Dr John Turner, "Mae pobl yn rhyfeddu at fywydau anifeiliaid na welir yn aml ac mae'r siarcod hyn yn byw fel arfer yn y moroedd agored lle nad yw pobl bron byth yn dod ar eu traws. Mae cynffonau mawr y siarcod hyn wedi bod yn destun sawl trafodaeth, ac mae ein harsylwadau yn y gwyllt yn dangos y ffordd anhygoel y defnyddir y gynffon i daro鈥檙 pysgod yn anymwybodol. Dangosodd ein hymchwil cynharach bod y siarcod hyn yn mentro at y glannau i'r cwrelau i gael eu glanhau gan barasitiaid, ac roeddem yn bryderus eu bod mewn sefyllfa fregus yn agos at y lan. Trwy ddysgu mwy am eu hecoleg a'u hymddygiad, gallwn gael hyd i ffyrdd gwell o'u hamddiffyn. Mae gwaith Simon eisoes wedi cael effaith fawr yn y Philippines, ac yn dangos beth y gellir ei wneud gyda chymhelliant, arsylwi gofalus, a thechnoleg dan d诺r.
Bu'r ymchwilwyr yn tracio鈥檙 siarcod gyda chamer芒u fideo llaw ac yn dadansoddi 25 achos o'r siarcod yn dyrnu eu cynffonau i daro'r pysgod yn anymwybodol. Roedd y siarcod yn ymddangos fel pe baent yn dechrau鈥檙 ymddygiad trwy dynnu eu hesgyll pectoral i mewn i godi pen 么l eu cyrff yn gyflym, ac yna'n chwipio eu cynffonau gyda digon o rym i daro neu ladd sawl pysgodyn, ac yn achosi nwyon wedi eu hydoddi i godi fel swigod allan o'r d诺r. Ar 么l dyrnu eu cynffonau'n llwyddiannus fel hyn, roedd y llwynogod m么r yn bwyta hyd at saith pysgodyn ar y tro.
Meddai Dr Oliver, "Mae鈥檙 strategaethau hela a ddefnyddir gan siarcod yn wahanol ac yn amrywio rhwng rhywogaethau ac unigolion."
Mae'r ffaith bod helwyr morol mawr yn gallu taro mwy nag un pysgodyn yn anwybodol ar yr un pryd yn debygol o fod yn ffordd fwy effeithlon iddynt hela nag ymlid llawer o bysgod bach mewn haig. Rydym yn gwybod bod dolffiniaid a morfilod danheddog (killer whale) yn chwipio eu cynffonau i reoli neu daro eu prae, a bod morfilod cefngrwm a morfilod sberm yn chwipio eu cynffonau i gyfathrebu ar wyneb y m么r dros bellteroedd maith.
"Rydym wedi amau ers peth amser bod llwynogod m么r yn defnyddio eu cynffonau sydd fel pladur i hela, ond nid ydym wedi deall eu hymddygiad yn iawn, sy'n unigryw i'w rhywogaeth ymysg anifeiliaid," meddai Dr Oliver. "Erbyn hyn mae'r dystiolaeth yn glir; mae llwynogod m么r yn wirioneddol hela gyda'u cynffonau."
Cyllidwyd yr ymchwil gan Gyngor Ymchwil i鈥檙 Amgylchedd Naturiol y DU, a gellir llwytho鈥檙 papur a chlip fideo i lawr ar-lein o http://dx.plos.org/10.1371/journal.pone.0067380
Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2013