YN EISIAU: egin wyddonwyr i gymryd rhan yn y project 'Capturing our Coast'
Mae pobl sy'n ymddiddori yn arfordir Prydain yn cael eu gwahodd i helpu i greu hanes drwy fod yn rhan o broject unigryw iawn. Hwn fydd y project mwyaf o'i fath erioed lle bydd aelodau o'r cyhoedd yn archwilio bywyd m么r ein harfordir.
Bwriad y project Capturing Our Coast, sy'n costio cyfanswm o 拢1.7m ac a gyllidir drwy Gronfa Treftadaeth y Loteri, yw cynyddu ein dealltwriaeth o helaethrwydd a dosbarthiad bywyd m么r o amgylch gwledydd Prydain.
Nod y project, sy'n cael ei lansio'n swyddogol yr wythnos hon, yw recriwtio a hyfforddi mwy na 3,000 o wirfoddolwyr i helpu i adeiladu darlun mwy cywir o fywyd m么r o amgylch Prydain gyfan.
Gall casglu data ynghylch rhywogaethau allweddol roi gwybodaeth ynghylch y ffordd mae systemau arfordirol yn ymateb i ffactorau, fel cynnydd yn nhymheredd y m么r. Bydd yr ymchwil yn helpu gwyddonwyr i ddeall sut mae amgylchedd y m么r yn ymateb i newid hinsawdd byd-eang a goleuo polisi a strategaethau cadwraeth yn y dyfodol.
Dan arweiniad Phrifysgol Newcastle, mae'r project yn un cenedlaethol sy'n cynnwys prifysgolion Hull, Portsmouth a 香港六合彩挂牌资料, y Scottish Association for Marine Science, The Marine Biological Association a The Marine Conservation Society.
Hefyd mae'n cynnwys nifer o sefydliadau fel Earthwatch Institute, the Natural History Museum, Northumberland Wildlife Trust, the Centre for Environment, Fisheries and Aquaculture Science (Cefas), the Coastal Partnerships Network a'r North West Coastal Forum.
Meddai'r Athro Stuart Jenkins, Prif Ymchwilydd y project ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料:
"Mae hwn yn gyfle ardderchog i'r cyhoedd gymryd rhan mewn gwaith ymchwil ymarferol ar draethau creigiog a darganfod mwy'r un pryd am weithgareddau ymchwil gwyddonwyr m么r ym Mhrydain.
"Ein nod yw adeiladu perthynas faith 芒'r gwirfoddolwyr a fydd, gobeithio, yn fuddiol i bawb ohonom. Mae rhwydwaith o wirfoddolwyr yn gwneud arsylwadau cyson ar draethau creigiog yng Nghymru a, thrwy CoCoast, o amgylch Prydain i gyd, yn gyfrwng ymchwil a all fod yn arbennig o rymus."
Yn 么l Dr Heather Sugden, Cyd Brif Ymchwilydd ym Mhrifysgol Newcastle:
"Hwn ydi'r project cyntaf o'i fath ac mae'n gyfle cyffrous i unrhyw un sy'n ymddiddori ym mywyd y m么r ac sydd eisiau cyfrannu'n wirioneddol at ein dealltwriaeth o'n hamgylchedd arfordir, a'n gwarchodaeth drosti.
"Nod y project yma yw datblygu rhwydwaith o wyddonwyr ymysg y cyhoedd a all ein helpu i adeiladu darlun cywir o fywyd m么r o amgylch Prydain - byddwn yn defnyddio hwn fel man cychwyn i'n galluogi i ddeall yn well effeithiau newid hinsawdd a ffactorau amgylcheddol a dynol eraill.
"Bydd y data y byddwn yn ei gasglu yn llenwi bylchau allweddol mewn gwybodaeth, megis dosbarthiad daearyddol rhywogaethau, symudiad rhywogaethau d诺r cynnes ac achosion o rywogaethau anfrodorol yn dod i mewn."
Bydd gwirfoddolwyr yn cael hyfforddiant a chefnogaeth gyson gan arbenigwyr ym maes gwyddor m么r er mwyn cynnal eu diddordeb a sicrhau y ceir data o ansawdd uchel. Bydd Capturing our Coast ar gael hefyd i rai na all fynd allan i'r arfordir, drwy sefydlu opsiynau gwyddonol ar y we y gall aelodau o'r cyhoedd eu cyflawni.
Bwriedir cyhoeddi nifer o gyhoeddiadau ymchwil yn uniongyrchol gysylltiedig 芒'r project hwn, ar bynciau fel sut mae casgliadau o rywogaethau'n newid o ganlyniad i newid hinsawdd.
Meddai'r Athro Juliet Brodie, o'r Natural History Museum:
"Dwi'n teimlo'n gyffrous iawn ynghylch Capturing Our Coast. Mae cymryd rhan yn gyfle gwych i gymaint o bobl ddod i adnabod amrywiaeth a harddwch yr alg芒u m么r sydd i'w cael ar ein traethau a chaiff pawb gyfle i gyfrannu at ein dealltwriaeth wyddonol o'r organebau yma."
Ychwanegodd Dr Kieran Hyder o Cefas:
"Mae hwn yn gyfle gwirioneddol gyffrous i'r cyhoedd gymryd rhan mewn project a fydd yn helaethu ein dealltwriaeth o fioamrywiaeth a phrosesau ecolegol arfordirol.
"Mae Cefas yn hynod falch o gymryd rhan yn y project arloesol yma i'r cyhoedd a dylai roi data a dealltwriaeth a fydd yn ein helpu i reoli ein systemau m么r a datblygu polisi cadarn i'w cefnogi."
I gymryd rhan, neu i gael mwy o wybodaeth, ewch i'n gwefan
Dyddiad cyhoeddi: 12 Ionawr 2016