Yn hyblyg ac ymhobman- ac eto gall fod y bab诺n wrth risg
Er ei fod mor gyffredin i rai ardaloedd yn Affrica Is-Sahara fel eu bod yn cael ei ystyried yn boendod i rai cymunedau, mae ymchwil newydd yn dangos y gall hanner y chwe rhywogaeth o fab诺n sydd yn bresennol yn y rhanbarth fod mewn peryg o beidio ag oroesi erbyn canol y ganrif.
Er bod y rhan fwyaf o rywogaethau o fab诺n yng nghategori 鈥榦 Bryder Lleiaf鈥 n 么l Rhestr Goch yr IUCN o Rywogaethau wrth Risg, mae papur diweddar yn y Journal of Biogeography yn datgelu y gallent brofi ymdrech i fodoli o dan amodau hinsawdd y dyfodol.
Daw鈥檙 risg i鈥檞 goroesiad o ystyried dim ond y ffactorau newid hinsawdd sydd wedi ei gyflyru gan ddynoliaeth. Os yw primat mawr hyblyg dan risg mewn cyfnod o amser mor fyr. A ddylai cadwraethwyr ail feddwl y modd y maent yn dosbarthu categor茂au risg i gynnwys effeithiau newid hinsawdd sydd eisoes dan gychwyn?
Yn 么l Izzy Winder o Ysgol Gwyddorau Naturiol Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 a fu鈥檔 arwain yr ymchwil:
鈥淵r hyn sydd yn ein synnu am ein canfyddiadau yw, nid yn unig nad yw鈥檙 rhan helaeth o fab诺ns dan fygythiad ar hyn o bryd, heblaw am un math, bab诺n Guinea, sydd yn cystadlu am dir efo bab诺ns cyfagos ac yng nghategori鈥 Agos at Fygythiad (Near Threatened), ond eu bod yn cael eu hystyried yn hyblyg, o safbwynt ecolegol. Ni fyddai neb wedi rhagweld eu bod mewn perygl- maent yn medru gwneud y gorau o gyfleoedd, maent yn ysbeilio cnydau ac yn dwyn pethau oddi ar dwristiaid. Fodd bynnag, yr hyn yr ydym wedi ei ddarganfod yw y bydd rhai rhywogaethau鈥檔 dioddef colli tir lle allant ffynnu o dan amgylchiadau posib yn 2050 a 2070.鈥
鈥淥s mae risg wrth rywogaethau fel hyn, yna gall llawer mwy o rywogaethau fod wrth risg anuniongyrchol cyffredinol, o effeithiau dynol sydd yn lledaenu ymhobman wrth i ni fynd ymhellach i oes yr Anthropos卯n.鈥
Meddai Dr Kimberley Hockings, Darlithydd mewn Gwyddorau Cadwraeth ym Mhrifysgol Exeter ac aelod o Gr诺p Arbenigwyr Primat yr IUCN:
"Hyd yn hyn mae ymchwil wedi canolbwyntio ar fygythiadau uniongyrchol i brimatiaid, fel colli cynefin neu鈥檙 fasnach mewn cig anifeiliaid gwyllt. Mae鈥檙 astudiaeth yma鈥檔 tanlinellu鈥檙 pwysigrwydd o ddeall yr effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol a ddaw yn sgil ddynoliaeth, ar ymddygiad a gwasgariad, ac yn awgrymu y dylid cynnwys newidiadau hinsawdd i鈥檙 dyfodol yn ein strategaeth cadwraeth. Mae tuedd i gymryd y bydd primat sydd yn medru byw mewn sawl cynefin ac amgylchiadau, fel y bab诺n a macac, am oroesi鈥檔 eithaf da yng ngolwg pwysau dynnol, ond mae鈥檙 ymchwil newydd hwn o bwys o ran herio鈥檙 honiad. Dyma obeithio y bydd eu deallusrwydd a鈥檜 hyblygrwydd yn ei darparu gyda鈥檙 modd i oroesi mewn byd sydd yn newid."
O dan oruchwyliaeth Izzy, fe gwblhawyd yr ymchwil newydd gan Sarah Hill, fel rhan o鈥檌 gradd Meistr MZool gydag Ymddygiad Anifeiliaid. Bu Sarah鈥檔 asesu lle fyddai鈥檔 bosib i鈥檙 bab诺ns fyw o dan 12 rhagamcaniad hinsawdd gwahanol ar gyfer pob rhywogaeth o fab诺n. Canfuwyd y byddai tri o鈥檙 chwe rhywogaeth o fab诺n mewn perygl.
Esboniodd Sarah mwy am eu canlyniadau: 鈥淓drychom ar gynhesu gan 2.6 gradd a 6 gradd, ar amgylchiadau gwlypach a mwy sych ac roedd yr hyn a ganfyddom yn peri syndod. Roedd bab诺n Chacma neu fynydd mewn perygl dim ots beth oedd y rhagamcaniad newid hinsawdd- bydd eu poblogaeth yn gostwng wrth iddynt golli tua chwarter eu tir. Mae bab诺n Guinea wrth risg nodedig os yw鈥檙 newid hinsawdd yn dod ag amgylchiadau cras yn ei sgil, a ni fydd y bab诺n Kinda yn ffynnu o dan ragamcaniadau hinsawdd i鈥檙 dyfodol, ond mae bygythiad arbennig iddynt os fydd y tywydd yn gynhesach ac yn wlypach. Mae鈥檔 bosib y bydd dwy rywogaeth yn ymestyn, ac nid oedd un rhywogaeth i鈥檞 weld am gael ei effeithio gan newid hinsawdd.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 16 Mai 2019