Yr Athro John Witcombe o Brifysgol 香港六合彩挂牌资料 yn ennill gwobr o fri
Nos Fawrth, derbyniodd yr Athro John Witcombe, Cymrawd-Athro yn yr Ysgol Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth, wobr Amaethwr Datblygu y Flwyddyn ar gyfer 2014 gan y Gymdeithas Amaeth Drofannol.
Roedd y wobr hon, sef un bwysicaf y TAA, yn cydnabod gwaith oes, ac yn benodol cyfraniad John at y gwaith o ddatblygu mathau o reis ac india-corn trwy fridio planhigion, lle bridir mathau i ateb gofynion ffermwyr tlawd mewn ardaloedd ymylol, yn hytrach nag ar gyfer amgylcheddau a reolir yn dda ar safleoedd ymchwil. Bu鈥檙 gwaith hwn o fudd i amaethyddiaeth ar draws y trofannau a chafodd effaith wirioneddol gadarnhaol ar gymdeithas.
Mae ei india-corn ei hun, GM-6, yn aeddfedu鈥檔 gynnar, mae ansawdd a chynnyrch ei rawn yn well, ac mae wedi gwella bywoliaethau 300,000 o鈥檙 ffermydd tlotaf yn Gujarat, India, wrth iddo gael ei dyfu ar gyfanswm arwynebedd o 2 M ha a chyfrif am bron i 100% o鈥檙 cynnyrch ardystiedig o hadau india corn yn y Dalaith. Ni ddewisir nodwedd yr aeddfedrwydd cynnar ar gyfer safleoedd ymchwil, ond mae ffermwyr yn ei gwerthfawrogi fel y gallant osgoi effeithiau sychder ar ddiwedd y tymor.
Yn nwyrain India, roedd bridwyr reis yr ucheldiroedd bob amser yn credu mai reis grawn cwrs oedd ei eisiau ar ffermwyr, er i ymchwil John gael eu bod, mewn gwirionedd, am gael reis grawn main, am fod ei flas yn well ganddynt ac y gallent gael pris uwch pe bai鈥檔 rhaid iddynt werthu grawn. Ashoka 200F ac Ashoka 228 fu鈥檙 mathau mwyaf llwyddiannus o reis ucheldirol yn nwyrain India, gan ddisodli鈥檙 mathau modern eraill a dyfir yno. Trwy gyllid gan DFID, bu modd i 250,000 o ffermwyr yn nwyrain India gael hadau. Erbyn hyn, mae bron y cyfan o鈥檙 ffermwyr hynny鈥檔 parhau i dyfu鈥檙 mathau Ashoka, ac yn rhoi hadau i ffermwyr eraill yn eu pentrefi eu hunain ac mewn pentrefi eraill, a hwythau, yn eu tro, yn dosbarthu grawn. Bellach, c芒nt eu tyfu gan fwy na miliwn o gartrefi yn Nwyrain India, gan roi sicrwydd bwyd hanfodol yn ystod blynyddoedd o sychder a chynyddu hunangynhaliaeth cartrefi o ran bwyd, o chwe mis i naw mis.
Wrth dderbyn y wobr, diolchodd John yn arbennig i ddau gydweithiwr o Fangor, sef Dr Krishna Joshi a鈥檙 Athro Daljit Virk, ac i ddau wyddonydd o India Sri Arun Joshi, a fu鈥檔 eu helpu i ddechrau bridio india-corn GM-6, a鈥檙 Athro JP Yadavendra, a fu鈥檔 helpu i werthuso ei effaith.
Diolchodd John hefyd i DFID am gyllido鈥檙 project, gan dynnu sylw at yr eironi fod cyllid wedi dod i ben oherwydd y dybiaeth o ddiffyg llwyddiant, a鈥檙 wobr wedi鈥檌 hennill oherwydd yr effeithiau arwyddocaol a gafwyd. Dywedodd ei bod yn hynod o anffodus nad oedd gan wyddonwyr o鈥檙 DU gyfle mwyach i gymhwyso gwyddoniaeth yn uniongyrchol i liniaru effeithiau tlodi, ac arian DFID wedi鈥檌 ddarparu trwy鈥檙 BBSRC ac Innovate UK, a鈥檙 naill na鈥檙 llall ohonynt yn rhoi blaenoriaeth i liniaru effeithiau tlodi yn y byd datblygol. Gorffennodd gan ddweud ei fod yn gobeithio y byddai DFID yn newid cyfeiriad, er mwyn rhoi cyfle unwaith eto i wyddonwyr o鈥檙 DU liniaru effeithiau tlodi trwy wyddor amaeth.
Mae鈥檙 TAA yn gymdeithas broffesiynol yn ymwneud 芒 r么l amaethyddiaeth yn y broses o ddatblygu ledled y byd, gan ddod ag unigolion a sefydliadau o bedwar ban y byd ynghyd, fel y gallant gyfrannu at bolis茂au a gweithrediadau rhyngwladol sydd wedi鈥檜 hanelu at leihau tlodi a gwella bywoliaethau. Mae amgylcheddau trofannol ac is-drofannol yn gartref i biliynau o bobl ac yn wynebu llawer o sialensiau o ran cynnal y poblogaethau mawr hyn trwy wyddor amaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Rhagfyr 2014