Yr Athro Johnson yn ennill gwobr darlith wobrwyol bwysig
Mae'r Athro Barrie Johnson o Goleg y Gwyddorau Naturiol yn ymuno 芒 rhestr glodwiw o wyddonwyr byd-enwog a wahoddwyd i gyflwyno Cymdeithas Fwynegol y DU.
Yr Athro Johnson yw'r unig academydd o Gymru i gyflwyno'r ddarlith yn y 46 mlynedd ers ei sefydlu, a chafod ei enwebu a'i ddewis gan banel ar gyfer yr anrhydedd. Cyhoeddir ei ddarlith yng nghyfnodolyn y gymdeithas maes o law.
Mae gan yr Athro Johnson gefndir mewn biocemeg amgylcheddol, ac mae wedi ennill enw da yn rhyngwladol yn gweithio ar y rhyngwyneb rhwng micro-organebau a mwynoleg. Mae ei d卯m yn cynnal ymchwil i ficro-organebau sy'n byw mewn amgylcheddau eithafol. Mae'r gwaith yn berthnasol i fwyngloddio metel ac i adfer draeniad mwyngloddiau asidig a d诺r gwastraff diwydiannol.
Meddai鈥檙 Athro Johnson: "Roedd yn anrhydedd arbennig i mi gyflwyno fy ymchwil gan nad oedd fy nghefndir na hyfforddiant yn y gwyddorau daearegol. Mae hwn yn arbenigedd rwyf wedi ei godi yn ystod fy nhaith hir mewn ymchwil wyddonol!"
Yn ei ddarlith, 'Redox bio-transformations of inorganic species dictate the dynamics of extremely acidic environments' siaradodd yr Athro Johnson am ei waith, yn dangos bod rhai bacteria arbenigol sy'n byw mewn asid sylffwrig cryf yn gallu defnyddio, yn ei hanfod, ynni wedi'i gloi mewn metelau fel copr a mangan卯s trwy ddefnyddio haearn fel yr allwedd i wneud hyn (hynny yw, ni allant ddefnyddio'r ynni o'r metelau hyn yn uniongyrchol, ond gallant wneud hynny'n anuniongyrchol trwy ddefnyddio haearn). Eglurodd sut mae gan hyn oblygiadau pwysig ar gyfer gweithrediadau biofwyno a phroblemau llygredd cysylltiedig ledled y byd, yn ogystal 芒'r posibilrwydd o chwilio am fywyd y tu hwnt i'n planed ein hunain.
Sefydlwyd Mineralogical Society y DU yn 1876 i hyrwyddo gwybodaeth am wyddor fwynoleg a phynciau cysylltiedig. Hefyd, penodwyd yr Athro Johnson yn ddarlithydd nodedig gan y gymdeithas yn 2014-5.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Awst 2017