Ystlumod yn defnyddio'r machlud i fudo
Gallai ystlumod sy'n pwyso dim mwy na 6 gram, sy'n mudo dros fil o filltiroedd o'r Baltig i Brydain, fod yn allweddol i ddatgelu sut mae mamaliaid sy'n mudo yn dod o hyd i'w ffordd.
Rydym yn gwybod mwy am sut mae adar ac ymlusgiaid a physgod yn dod o hyd i'w ffordd nag ydym am famaliaid fel morfilod neu gnwod, ond caiff un rhan o'r cwestiwn ei ateb yn rhifyn diweddaraf Current Biology.
Mae Dr Richard Holland o Ysgol Gwyddorau Naturiol Prifysgol 香港六合彩挂牌资料, sydd hefyd wedi astudio'r dulliau a ddefnyddir gan adar i ddod o hyd i'w ffordd, wedi edrych ar y dulliau a ddefnyddir gan ystlumod lleiaf (soprano pipistrelle).
Mae'r ymchwil diweddaraf wedi darganfod bod yr ystlumod hyn yn defnyddio cyfeiriad yr haul yn machlud dros F么r y Baltig i ail-osod eu cwmpawd magnetig mewnol, er mai creaduriaid y nos ydynt. Gan guddio pelydrau'r haul yn y lleoliad a dangos drychddelwedd i hanner yr ystlumod, rhyddhaodd y gwyddonwyr yr ystlumod o flwch rhyddhau arbennig a oedd yn olrhain eu holion traed wrth iddynt adael y cawell. Gan fod cyfeiriad eu hymadawiad yn adlewyrchu'r cyfeiriad hedfan, gwelodd y gwyddonwyr fod yr ystlumod a oedd wedi gweld drychddelwedd y machlud wedi ail-osod eu cwmpawd magnetig mewnol i gyd-fynd 芒'r wybodaeth honno, ac wedi dilyn y trywydd hwnnw ar eu taith. Yn hytrach na mynd tuag at F么r y Baltig, fel gwnaeth yr ystlumod a welodd y machlud, aeth y gweddill tua'r dwyrain
Ond nid yw pob ystlum yn defnyddio'r un system. Roedd ymchwil blaenorol gan y t卯m wedi dangos bod ystlumod dychwel, nad ydynt yn ymfudo'n bell, yn dibynnu ar eu gallu i weld plygiad polar yr haul i ail-osod eu cwmpawd magnetig mewnol.
Ffactor arall a ddatgelwyd gan yr ymchwil yw nad yw ystlumod ifanc sy'n mudo am y tro cyntaf yn gwybod i ba gyfeiriad i hedfan iddo'n reddfol, sy'n golygu mai ymddygiad wedi ei ddysgu yw hwn. Mae hyn yn wahanol i adar, sy'n cael eu geni gyda'r wybodaeth am eu llwybr mudo.
Meddai Richard Holland:
鈥淣id ydym yn gwybod fawr ddim am y dulliau a ddefnyddir gan famaliaid sy'n mudo, ond mae'n haws gweithio gydag ystlumod bach nag yw gyda mamaliaid mwy. Gall astudio ystlumod fel 'model' roi gwell dealltwriaeth i ni o'r gwahanol ddulliau a ddefnyddir gan famaliaid i ddod o hyd i'w ffordd dros bellteroedd mawr.鈥
Ychwanegodd: 鈥淢ae ystlumod eu hunain yn gwneud cyfraniad mor bwysig, mae nifer y pryfaid maent yn ei fwyta'n ddefnyddiol iawn i'r diwydiant ffermio, ac er nad oes modd rhoi gwerth union ar eu cyfraniad, amcangyfrifir ei fod werth tua $1.75 miliwn i'r economi.鈥
Roedd yr astudiaeth yn cynnwys tua 54 o ystlumod, gyda hanner ohonynt mewn gr诺p rheolydd. Cafodd cwmpawd mewnol yr ystlumod yn y gr诺p rheolydd ei ailosod yn ystod y machlud nesaf, er mwyn iddynt allu mynd ymlaen 芒'u taith.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Ebrill 2019