Cofnodion Dros Dro
COFNODION DROS DRO
Nid oes gan y mathau hyn o gofnodion unrhyw werth arwyddocaol, gweithredol, gwybodaethol na thystiolaethol. Dylid eu harchifo felly a’u dinistrio gynted ag y maent wedi ateb eu diben cychwynnol:
- Cofnodion sy’n cynnwys cyhoeddiadau a hysbysiadau am gyfarfodydd a digwyddiadau eraill, ynghyd 芒 hysbysiadau o dderbyn neu ymddiheuriadau.
- Ceisiadau am fapiau, gwybodaeth am leoliad, cyfarwyddiadau teithio a llyfrynnau.
- Dogfennau wedi’u dyblygu, megis drafftiau heb newidiadau, dogfennau ‘er gwybodaeth’ a ‘cc’.
- Dogfennau trosglwyddo sy’n cyd-fynd 芒 dogfennau ond nad ydynt yn ychwanegu unrhyw werth atynt, megis tudalennau blaen ffacs, e-byst, a slipiau cyfarch.
- Hen restrau cyfeiriadau, rhestrau dosbarthu etc.
- Dyddiaduron, llyfrau cyfeiriadau personol, etc.
- Deunyddiau cyhoeddedig neu ddeunyddiau cyfeirio a dderbyniwyd gan werthwyr neu sefydliadau allanol eraill e.e. cylchgronau masnach, catalogau gwerthwyr, taflenni, newyddlenni.