DATGANIAD HYGYRCHEDD PRIFYSGOL BANGOR
COVID-19 – Diweddariad Datganiad Hygyrchedd Tachwedd 2020
Yn ystod pandemig Covid-19 mae Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ yn cydnabod pwysigrwydd parhau i annog arferion da o ran creu adnoddau hygyrch a darparu dulliau cyfathrebu hygyrch i bawb. Mae Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ yn defnyddio Microsoft Teams er mwyn i’r staff a’r myfyrwyr fedru cyfathrebu â’i gilydd. Mae gan Microsoft Teams nodweddion hygyrchedd integredig gan gynnwys Immersive Reader a gosod penawdau caeedig byw (Saesneg yn unig). Am wybodaeth bellach gweler
Fe fyddwn hefyd yn defnyddio Blackboard Collaborate ar gyfer dysgu ar-lein yn ystod y flwyddyn academaidd 2020/21. Mae’n bosib (yn ôl yr angen) i uwchlwytho unrhyw sesiwn Collaborate sydd wedi’i recordio, i Panopto, fydd yn creu is-deitlau’n awtomatig.
Yn ystod y cyfnod hwn rydym hefyd yn argymell adnoddau ar gyfer cefnogaeth ac arweiniad pellach. ar hyn o bryd yn cynnig gweminarau a fydd yn ddefnyddiol i’r Staff a’r Myfyrwyr.
Datganiad hygyrchedd Gwefannau Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i wefan Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ ac .
Mae Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ wedi ymrwymo i sicrhau bod ei gwefannau'n hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018.
Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ sy'n rhedeg y gwefannau hyn. Rydym eisiau i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r gwefannau hyn. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech chi allu:
- newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau;
- chwyddo hyd at 300% heb i'r testun fynd oddi ar y sgrin;
- gwe-lywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig;
- gwe-lywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd;
- gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver).
Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall.
Mae yn cynnig cyngor ar wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os ydych yn anabl.
Pa mor hygyrch yw ein gwefannau?
Gwyddom nad yw rhannau o'r wefan hon yn gwbl hygyrch:
- ni fydd y testun yn ail-lifo mewn un golofn pan fyddwch yn newid maint ffenestr y porwr;
- ni allwch addasu uchder llinell na'r bylchau rhwng y testun;
- nid yw'r rhan fwyaf o ddogfennau PDF hÅ·n yn gwbl hygyrch i raglenni meddalwedd darllen sgrin;
- nid oes gan ffrydiau fideo byw yn Collaborate gapsiynau;
- mae’n anodd gwe-lywio ar rai o'n ffurflenni ar-lein gyda bysellfwrdd yn unig.
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Os oes angen gwybodaeth arnoch am y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddeall, recordiad sain neu Braille:
- e-bostiwch: ;
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu yn ôl â chi o fewn 10 diwrnod gwaith.
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r wefan hon
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn cwrdd â gofynion hygyrchedd, cysylltwch â Desg Gymorth TG (Technoleg Gwybodaeth), gweler uchod.
Gweithdrefn orfodi
Os rhoesoch wybod am broblem gyda'r wefan neu os gofynnoch am fformat amgen, ond nad ydych yn fodlon â'r ymateb a gawsoch, cewch ddefnyddio trefn gwyno'r Brifysgol i gofrestru eich anhawster; gwnaiff hynny ein helpu i wella ein systemau. I wneud cwyn, ysgrifennwch at Swyddfa Llywodraethu a Chydymffurfio'r Brifysgol yn y lle cyntaf (info-compliance@bangor.ac.uk) ac egluro sail eich cwyn.
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych yn hapus â'n hymateb i'ch cwyn, .
Cysylltu â ni
Gallwch gysylltu â ni trwy e-bost. Oherwydd y pandemig coronafirws cyfredol, os ydych yn dymuno ymweld yn bersonol, e-bostiwch yn gyntaf;Â
- Â anfonwch e-bost atom yn helpdesk@bangor.ac.uk;
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ wedi ymrwymo i sicrhau bod ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018.
Rydym yn gweithio at gyflawni a chynnal safonau AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) 2.1. Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â safon AA fersiwn 2.1 Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, yn sgil yr enghreifftiau o beidio â chydymffurfio a restrir isod.
Cynnwys nad yw'n hygyrch
Nid yw'r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.
Diffyg cydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd
- Trwy ddefnyddio ategion porwr gall defnyddwyr addasu uchder llinell testun ar rai o'n tudalennau, ond nid ar bob un ohonynt;
- Nid yw dogfennau PDF hÅ·n yn gwbl hygyrch i raglenni meddalwedd darllen sgrin; Ym mis Gorffennaf 2020 ychwanegwyd teclyn Ally at Blackboard sy'n ei gwneud hi'n haws i fyfyrwyr ofyn am fersiynau hygyrch o ddogfennau PDF hÅ·n sydd ar Blackboard;
- Nid yw'r testun disgrifiadol mewn rhai cysylltiadau hyperdestun yn rhoi gwybodaeth lawn;
- Nid oes gan bob delwedd yn ein cynnwys ddisgrifiad testun amgen;
- Ni allwn gynnig gosod capsiynau yn awtomatig ar gyfer ein fideos Cymraeg gan nad yw'r dechnoleg i gyflawni'r broses hon ar gael hyd yma. I osod capsiwn ar bob fideo Cymraeg byddai'n rhaid i gyfieithydd osod y capsiynau ar bob fideo'n unigol a byddai hynny'n drech na'r gwasanaethau cyfredol.
- Nid oes capsiynau wedi'u cynnwys ar rai o'n fideos hyrwyddo ac addysgu hÅ·n;
- Nid oes capsiynau ar ffrydiau fideo byw Blackboard Collaborate;
- Mae’n anodd gwe-lywio ar rai o'n ffurflenni ar-lein gyda bysellfwrdd yn unig; mae'r holl ffurflenni ar-lein yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd.
Os ydym wedi methu â nodi rhwystr, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Baich anghymesur
Ni allwn gynnig gosod capsiynau yn awtomatig ar gyfer ein fideos Cymraeg gan nad yw'r dechnoleg i gyflawni'r broses hon ar gael hyd yma. I osod capsiwn ar bob fideo Cymraeg byddai'n rhaid i gyfieithydd osod y capsiynau ar bob fideo'n unigol a byddai hynny'n ar y gwasanaethau cyfredol.
Byddwn yn asesu'r sefyllfa hon yn rheolaidd ac yn anelu at ddarparu capsiynau awtomatig ar gyfer fideos Cymraeg cyn gynted ag y bydd y dechnoleg ar gael.
Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd
PDFs a dogfennau eraill
Nid yw'r rheoliadau hygyrchedd os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Bydd unrhyw PDFs neu ddogfennau Word newydd a gyhoeddwn yn cwrdd â'r safonau hygyrchedd.
Fideo byw
Ym Mangor rydym yn defnyddio naill ai Teams neu Collaborate ar gyfer ffrydiau fideo byw. Nid yw Collaborate yn cynnig capsiynau ar gyfer fideo byw. Mae fideo byw . Dylid llwytho recordiadau a wneir o sesiynau Collaborate a fydd yn cael eu cadw am fwy na 14 diwrnod i Panopto a fydd yn cymhwyso capsiynau awtomatig.
Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd
Er mwyn mynd i’r afael â hen gynnwys ein system Blackboard sydd o bosib yn anodd ei gyrchu rydym wedi buddsoddi yn y teclyn . Bydd hynny'n fodd i gyflwyno cynnwys Blackboard ar sawl fformat hygyrch.
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i sicrhau bod offer ar gael i gynorthwyo gyda hygyrchedd digidol. Rydym yn darparu hyfforddiant i staff ar ddefnyddio offer Microsoft Office 365 a all wirio dogfennau am safonau hygyrchedd. Mae gan feddalwedd Office 365 hefyd nodweddion mewnol i gynorthwyo gyda hygyrchedd gan gynnwys rhaglenni darllen sgrin. Mae'r yn darparu cysylltiadau at wybodaeth bellach am offer hygyrchedd Office 365.
Rydym yn tanysgrifio i declyn SensusAccess er mwyn i staff a myfyrwyr allu trosi dogfennau nad ydynt yn hygyrch ar hyn o bryd i fformatau hygyrch.
Rydym wedi gosod ein holl fideos sydd wedi'u huwchlwytho i Panopto i gael eu capsiynu'n awtomatig. Bydd capsiynau'n cael eu hychwanegu'n awtomatig i bob recordiad a wnaed ers mis Medi 2017.Â
Mae trwydded Microsoft y brifysgol hefyd yn caniatáu i'n defnyddwyr gael mynediad at MS-Stream. Bydd y gwasanaeth ar-lein hwn yn a gaiff eu llwytho iddo.
Bydd Modiwlau Blackboard o fis Medi 2020 ymlaen yn defnyddio gwedd cwrs Blackboard Ultra. Mae hynny'n diddymu'r gallu i greu strwythurau cwrs cymhleth a bydd yn symleiddio trefn cyrsiau i'r myfyrwyr.
Mae'r Brifysgol yn datblygu Strategaeth Technoleg Ddigidol ar hyn o bryd a “bwriad yr holl nodau yw darparu gwasanaeth sy'n hygyrch i'r gynulleidfa ehangaf posibl, beth bynnag fo'r dechnoleg neu'u gallu."
Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn
Diweddarwyd y datganiad hwn ddiwethaf ar 20 Ionawr 2021 mewn ymgynghoriad â'r Grŵp Hygyrchedd Digidol gyda rhanddeiliaid o bob rhan o'r Brifysgol. Rydym yn diweddaru'r datganiad hwn yn rheolaidd ac rydym yng nghannol y broses o'i adolygu hyn o bryd.