Covid-19
Rydym wedi dysgu llawer ers dechrau 2020 a dyfodiad y coronafeirws newydd, Covid-19, a’r pandemig byd-eang, sydd bellach wedi dechrau dod i ben Bydd y gwersi a’r profiadau hynny yn ein rhoi mewn sefyllfa dda at y dyfodol, yn enwedig wrth reoli bygythiadau eraill i iechyd y cyhoedd.
Er bod deddfwriaeth Covid-19 bellach wedi ei diddymu, mae’r brifysgol yn parhau gyda’i dyletswydd i reoli a lliniaru risgiau yn y gwaith.
Mae gofynion penodol yn dal i fod yn berthnasol i'r rhai sy'n gweithio mewn lleoliadau Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac os ydynt yn gweithio gyda phobl agored i niwed ac efallai y bydd angen Asesiad Risg penodol i werthuso a oes angen rheolaethau ychwanegol.
Gofynnir i bawb yn y brifysgol fod yn ystyriol o'u heffaith bosib ar bobl eraill a pheidio â dod ar y campws na chymysgu ag eraill os ydynt yn amau bod ganddynt Covid-19 neu unrhyw glefyd trosglwyddadwy arall.
Covid-19 a Heintiau Anadlol Eraill
Dylai staff, myfyrwyr ac eraill gadw draw o’r Campws os ydynt yn dangos symptomau haint anadlol, fel COVID-19, ac nad ydynt yn teimlo’n ddigon da i fynd i’r gwaith/astudio.
Mae ar beth i’w wneud os oes gennych symptomau haint anadlol, os ydych wedi profi’n bositif neu os ydych mewn cysylltiad agos â rhywun positif ar gyfer COVID-19.
Dylai staff barhau i ddilyn y gweithdrefnau absenoldeb salwch.
Dylai fyfyrwyr sy'n absennol ddilyn y Polisi Ymroddiad Academaidd.
Cyngor Cyffredinol
Er mwyn gofalu amdanoch eich hun ac eraill ac atal lledaeniad haint, gorchuddiwch eich trwyn a'ch ceg bob amser wrth disian a pheswch. Os yn bosibl, dilynwch y dull ‘bagiwch ef a’i roi yn y bin’ drwy ddefnyddio hances bapur i orchuddio’ch trwyn a’ch ceg gyda hwn wedi’i roi mewn bin gwastraff yn syth ar ôl, ac os nad oes gennych hances bapur, eich penelin mewnol (llawes uchaf) yn ddewis arall a dderbynnir. Yn ogystal, defnyddiwch lanweithydd dwylo neu golchwch eich dwylo mewn dŵr cynnes a sebon yn rheolaidd. Mae hylendid dwylo da yn cael ei gydnabod yn eang fel un o'r ffyrdd pwysicaf o reoli lledaeniad heintiau.
Mae hefyd yn dal yn dderbyniol gwisgo gorchudd wyneb os dymunwch.
Brechlynnau
Rydym yn annog pawb i fanteisio ar y rhaglen frechu Covid-19 rad ac am ddim, i helpu i ddiogelu ein prifysgol a chymunedau ehangach. Ewch i wefan i gael rhagor o wybodaeth.
Awyru
Pan fyddwch dan do, dylid gadael awyr iach i mewn. Gall agor ffenestri a drysau helpu i leihau nifer y gronynnau heintus yn yr aer a helpu i leihau lledaeniad y firws. Mae’r Gwasanaethau Campws wedi asesu systemau awyru mecanyddol ac wedi addasu lle bo angen i ddarparu cymaint o awyr iach â phosib. Mae unedau Hidlo Puro Aer (HEPA) wedi eu gosod mewn mannau darlithio ac astudio priodol, i helpu i lanhau gronynnau firaol o’r aer.Dylid agor ffenestri lle bynnag y bo modd i wella ansawdd yr aer ac i leihau'r risg o drosglwyddo firws yn yr aer. Dylai ystafelloedd gael eu hawyru am gyfnod rhwng newid carfannau o fyfyrwyr, i adnewyddu’r aer a chael awyr iach. Gosodir monitorau Co2 yn y rhan fwyaf o ystafelloedd dysgu.Defnyddiwch y rhain i ddangos pryd i agor rhagor o ffenestri. Rhowch wybod am unrhyw broblemau gydag unedau hidlo neu ffenestri i campusservices@bangor.ac.uk / estyniad: 2783. Yn ystod darlithoedd, cyfarfodydd ac mewn swyddfeydd wedi eu rhannu mae llif aer da yn hanfodol:Unedau hidlo HEPA: Gwiriwch fod yr uned ymlaen. Os nad oes un ar gael ac os oes digon o amser, gofynnwch am uned trwy’r Gwasanaethau Campws - gwnewch yn siŵr bod yr uned ymlaen trwy gydol y cyfarfod.
Ffenestri: Cofiwch agor ffenestri (rhowch wybod am unrhyw broblemau trwy’r Gwasanaethau Campws).
Mae hefyd wedi cynhyrchu cyngor ar fonitoriaid mewn addysg.
Teithio Dramor
Ar hyn o bryd nid oes gan y brifysgol unrhyw gyfyngiadau teithio dramor yn ymwneud â Covid-19 ar wahân i'r rhai a weithredir trwy’r canlynol:
- .
- Llywodraeth y DU.
- Y wlad/rhanbarth y mae rhywun yn teithio iddi/iddo.
- Rhaid i staff a myfyrwyr baratoi ar gyfer gofynion teithio lleol Covid a’u monitro’n gyson, gan y gallent newid yn gyflym mewn ymateb i gyfraddau Covid neu amrywiolion newydd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y .
- Rhaid i staff a myfyrwyr lenwi ar-lein y brifysgol.
- Os oes rhaid gwneud profion PCR cyn teithio i wlad benodol, yna bydd yr ysgol/gwasanaeth perthnasol yn eu darparu i chi.
SYLWER: gwneir unrhyw archeb ac ymrwymiadau gan wybod na ellir bob amser yswirio goblygiadau ariannol o ganlyniad i ganslo neu newid amserlen oherwydd Covid-19.