Ystyriaethau Iechyd Sylfaenol
Thrombosis y Gwythiennau Dwfn (DVT)
- Peidiwch â gwisgo dillad tynn ar deithiau hir.
- Gwnewch ymarferion ac ystwytho'n rheolaidd a cheisiwch gerdded o amgylch yr awyren yn rheolaidd.
- Yfwch ddigon o hylifau e.e. dŵr yn ystod y siwrnai.
- Peidiwch ag yfed diodydd sy'n cynnwys alcohol neu gaffein.
- Peidiwch â chroesi'ch coesau wrth eistedd.
Sioc Ddiwylliannol
Mae rhai gwledydd yn wahanol iawn o ran y ffordd y maent yn trin anifeiliaid a hyd yn oed pobl. Gall hynny achosi anesmwythyd neu drallod. Os ydych chi'n ymweld ag ardaloedd anghyfarwydd darllenwch amdanynt er mwyn paratoi.
Bwyta ac Yfed
Bydd ansawdd dŵr yfed a safonau bwyd a hylendid cyffredinol yn amrywio ledled y byd. Dyma'r rhagofalon cyffredinol i'w dilyn:
- Golchwch eich dwylo'n drylwyr cyn mynd i'r toiled ac wedyn a chyn bwyta, yfed neu ysmygu bob amser.
- Cariwch gel llaw gwrthfacterol gyda chi rhag ofn.
- Yfwch ddŵr potel, sicrhewch fod y sêl heb ei dorri.
- Berwch ddŵr neu'i hidlo gyda phurwr dŵr.
- Peidiwch â chael rhew mewn diodydd os ydych chi'n ansicr beth oedd ffynhonnell y dŵr.
- Peidiwch â bwyta bwyd sydd heb ei orchuddio a bwyta mewn llefydd os ydych chi'n ansicr o'u harferion hylendid e.e. gwerthwr y stryd, ciosgau.
Dolur Rhydd y Teithiwr
Gall gael ei achosi gan newid mewn diet a'r hinsawdd. Os cewch eich taro ganddo yfwch ddiodydd electrolytau rhag i chi ddadhydradu ac er bod cynhyrchion fel Imodiwm yn gweithio yn y tymor byr, gallant ymestyn amser y dolur rhydd. Cariwch ychydig o bapur tŷ bach sbâr gyda chi bob amser!
Yr Haul a Thymheredd Uchel
Gyda lwc byddwch chi'n ymweld â mannau cynhesach na'r wlad hon! Felly:
- Defnyddiwch eli haul gyda ffactor amddiffyn uchel (SPF). Rhowch fwy o eli haul bob dwy awr, a'i roi ar y clustiau, y gwefusau, rhaniad y gwallt a blaen y trwyn.
- Arhoswch yn y cysgod rhwng 11am a 3pm pan fydd yr haul ar ei anterth.
- Gwisgwch het lydan a dillad llac.
- Dewiswch sbectol haul gyda hidlwyr UV i amddiffyn eich llygaid.
- Peidiwch â gwneud dim byd egnïol yn ystod rhan boethaf y dydd.
- Yfwch ddigon o ddiodydd di-alcohol i gadw'n hydradol.
Eira, Rhew ac Oerni
Hyd yn oed yn yr oerfel gall yr haul eich llosgi, yn enwedig wrth adlewyrchu oddi ar yr eira. Defnyddiwch eli haul SPF15 neu uwch bob amser a gwisgwch sbectol haul neu gogls, hyd yn oed os yw'r tywydd yn gymylog.
Gall hypothermia ddigwydd os yw tymheredd y corff yn disgyn o dan 35°C (95°F). Gall llosg eira ddigwydd os yw tymheredd yr eithafion (y bysedd, y bochau, y clustiau, y trwyn a bysedd y traed) yn disgyn o dan y rhewbwynt.
Dyma'r camau syml i'w cymryd: gwisgo het, dillad a menig gyda digon o inswleiddiad, digon o haenau (rhag y gwynt a'r glaw) a gwisgwch esgidiau cynnes sy'n dal dŵr sydd hefyd â gafael da rhag i chi lithro fel sy'n anochel os ydych chi'n cerdded ar rew ac eira.
Os ydych chi'n credu bod gan rywun hypothermia neu losg eira, stopiwch ar unwaith. Cadwch nhw'n gynnes a sicrhewch eu bod yn osgoi gweithgaredd corfforol, yfed ac ysmygu sy'n gwaethygu'r symptomau.
Salwch Uchder
Ar uchderau, mae'r aer yn deneuach a gall achosi blinder eithafol. Er mwyn helpu lleihau'r effeithiau, ewch ati i ennill ffitrwydd cyn teithio o leiaf chwe wythnos cyn gadael a cheisiwch ymgyfarwyddo trwy weithio ar y llethrau isaf cyn symud ymlaen i'r uchelderau.
Mae salwch mynyddoedd acÃwt (AMS) yn achosi pendro, cyfog, cur pen cynddeiriog a newid dirfawr mewn personoliaeth neu ymddygiad. Os bydd symptomau'n codi, rhowch wybod i rywun e.e. Arweinydd Grŵp, Achubwyr Mynydd a cheisiwch ddod i lawr ar unwaith.
Pryfed (gan gynnwys Malaria)
Mae brathiadau pryfed yn bethau digon cyffredin a gallant beri adwaith annymunol, a hyd yn oed afiechyd. Gofynnwch am sylw meddygol os yw brathiad pryfyn yn achosi chwyddo, cleisio neu boen parhaus. Hefyd:
- Gofynnwch i'r meddyg teulu cyn teithio a oes angen meddyginiaeth e.e. tabledi malaria.
- Defnyddiwch hylif rhag pryfed sy'n cynnwys DEET (gwell gwarchod rhag crynodiadau uchel). Dylai menywod sy'n feichiog neu'n bwydo ar y fron ffonio eu meddyg teulu oherwydd mae'n rhaid osgoi rhai cynhyrchion
- Gwisgwch ddillad addas fel trowsus hir, topiau llewys hir ac esgidiau caeedig.
- Defnyddiwch rwydi mosgito wrth gysgu, yn enwedig mewn ardaloedd lle mae malaria.
- Cadwch eich coesau dan gêl ar ôl machlud haul.
- Ceisiwch beidio â defnyddio cynhyrchion persawrus fel persawr neu ddiaroglydd sy'n denu'r pryfetach.
- Gofynnwch am gymorth meddygol ar unwaith os cewch eich brathu gan rywbeth anarferol e.e. pry cop.
Anifeiliaid
Gall anifeiliaid eich anafu a gallant drosglwyddo heintiau hefyd. Mae'n well osgoi cyswllt uniongyrchol ag anifeiliaid, hyd yn oed anifeiliaid anwes domestig. Fodd bynnag, os bydd eich gwaith yn cynnwys cyswllt uniongyrchol neu gyswllt posibl ag anifeiliaid (yn enwedig cŵn, mwncïod, cathod ac ystlumod) efallai y bydd angen Brechlyn y Gynddaredd arnoch (gall ddigwydd yn Ewrop, Gogledd Affrica a'r byd sy'n datblygu) cyn teithio. Os cewch eich brathu, eich llyfu neu eich crafu gan anifail.
- Golchwch y rhan honno o'r corff gyda sebon / glanedydd o dan dap dŵr sy'n rhedeg am o leiaf 5 munud.
- Gofynnwch am gyngor meddygol ar unwaith. Rhaid cychwyn Brechlyn y Gynddaredd ar unwaith.
- Gwnewch gofnod o fanylion y digwyddiad a'r anifail. Os yw'n anifail domestig, ceisiwch ddod o hyd i'r perchennog a gofyn a oes gan yr anifail frechlyn y gynddaredd a hwnnw'n un cyfredol.
- Rhowch wybod i'r Heddlu - bydd angen adroddiad ffurfiol arnoch at ddibenion Yswiriant.
- Ewch i weld y meddyg teulu ar ôl i chi dychwelyd i'r Deyrnas Unedig.
Mwy o Risgiau Anarferol
Holwch eich cysylltiadau tramor cyn gadael am unrhyw risgiau 'anarferol' fel pryfed cop, nadroedd, ymlusgiaid y gallai fod angen eu hystyried a hyd yn oed eu cynnwys mewn Asesiad Risg Gweithgareddau wrth ymweld â rhai ardaloedd.