Radon
Safon Bolisi Newydd ar gyfer Rheoli Radon
Beth yw radon
Nwy ymbelydrol naturiol yw radio sy’n treiddio i adeiladau o gyfansymiau bychan o wraniwm sy’n bresennol mewn creigiau, priddoedd, brics a choncrit.
Ceir y crynodiadau radon uchaf fel arfer mewn gofod tanddaearol, megis isloriau, ogofeydd, a mwyngloddiau ond weithiau ceir crynodiadau uchel ar lawr gwaelod adeiladau hefyd. Gall lefelau radon amrywio’n ddyddiol ac yn dymhorol o ganlyniad i wahaniaethau tymheredd rhwng lleoedd o dan do a’r awyr agored. Mae lefelau radon yn tueddu i fod yn uwch yn y gaeaf hefyd oherwydd bod llai o awyru ac effeithiau gwres canolog sy’n tynnu aer i fyny o’r ddaear isod.
Effeithiau radon
Mae’r rhan fwyaf o nwy radon a gaiff ei anadlu i mewn yn cael ei anadlu allan yn syth ac nid oes fawr o berygl. Ond gall rhai cynhyrchion dadfeiliad radon lynu wrth lwch a diferion dwr yn yr atmosffer. Pan gaiff y rhain eu hanadlu i mewn, maent yn mynd yn sownd yn yr ysgyfaint a’r llwybrau aer. Mae cysylltiad tymor hir â chrynodiadau radon uchel yn cynyddu’r risg o ganser yr ysgyfaint gydag astudiaethau iechyd yn dangos bod radon yn gyfrifol am 3-5% o holl ganser yr ysgyfaint yn y DU.
Cyfrifoldebau’r Brifysgol
Mae Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle yn ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr amddiffyn staff rhag lefelau radon uchel Lle mae mesuriadau dangosol radon yn fwy na’r lefel weithredu o 400 Bq m-3, rhaid i’r cyflogwr gymryd camau i asesu’r risg a gweithredu rheolaethau i amddiffyn iechyd a diogelwch ei gweithwyr.
Gan fod radon yn effeithio ar rai ardaloedd yng Nghymru a chan fod rhai adeiladau yn y brifysgol yn cynnwys ardaloedd gwaith sydd yn rhannol neu’n llwyr o dan ddaear, roedd Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ yn un o’r prifysgolion cyntaf yn genedlaethol i gynnal arolwg radon i ganfod ardaloedd yr oedd radon yn effeithio arnynt.
Canfod ardaloedd yr oedd radon yn effeithio arnynt
Fel rhan o’r broses hon, i ddechrau cynhaliodd y Brifysgol Arolwg Cod Post, gan ddefnyddio gwasanaeth a ddarparwyd gan yr Asiantaeth Amddiffyn Iechyd, sy’n cysylltu â’u cofnodion ar ardaloedd y gwyddys bod radon yn effeithio arnynt.
Defnyddiwyd y data o’r Arolwg Cod Post ar y cyd â chanfyddiadau astudiaeth fewnol a oedd yn defnyddio gwybodaeth leol i ganfod ardaloedd yn ystad y Brifysgol oedd yn rhannol neu’n llwyr o dan ddaear.
Gosodwyd monitorau radon, a ddarparwyd gan yr Asiantaeth Amddiffyn Iechyd, yn yr ardaloedd hynny am dri mis cyn eu hanfon i’r Asiantaeth i’w dadansoddi. Yna cymharwyd y canlyniadau â’r lefelau gweithredu a nodwyd yn y Rheoliadau Ymbelydredd Ioneiddio a chymerwyd camau gweithredu lle’r oedd angen
Beth a ddarganfuwyd?
Gan fod y lefelau radon ychydig yn uwch mewn nifer fach o ardaloedd rhoddwyd prosesau lleol yn eu lle naill ai i fonitro’r defnydd o’r adeilad neu i wella’r system awyru. Lle darganfuwyd radon, cynhelir arolygon pellach a manylach dros yr wythnosau a’r misoedd i ddod er mwyn sicrhau ein bod yn deall yn llawn y problemau posib a allai godi yn sgil radon.
A ddylwn i boeni?
Bydd effeithiau radon yn amrywio, yn dibynnu ar:
- Lefelau crynodiad radon
- Hyd y cyfnod cyswllt
Er mwyn rhoi hyn mewn cyd-destun, byddai pob awr a dreulid mewn un o’r ardaloedd hyn yn rhoi dogn o ryw 1.5 uSv, sy’n gyfwerth â rhyw chwarter awr mewn awyren neu .05% o’n cysylltiad ag ymbelydredd cefndirol bob blwyddyn. Ond mae’r ardaloedd lle canfuwyd lefelau radon ychydig yn uwch yn cael eu defnyddio’n achlysurol am gyfnodau o awr neu ddwy’r wythnos ar y mwyaf felly mae’r cyfnod cyswllt yn fach iawn.
Beth wnaiff y Brifysgol i amddiffyn staff?
I amddiffyn ei staff a’i myfyrwyr, bydd y Brifysgol yn cymryd y camau canlynol yn yr holl ardaloedd lle canfuwyd lefel radon uwchben y trothwy gweithredu:
- Rhoi gwybod i Arolygwr Arbenigol y Weithrediaeth Iechyd a Diogelwch
- Ceisio cyngor gan yr Asiantaeth Amddiffyn Iechyd ac ymgynghori ag Ymgynghorydd Amddiffyn Ymbelydredd y Brifysgol ar y camau y dylid eu cymryd ee mwy o awyru, mynediad cyfyngedig
- Cynyddu’r awyru i leihau’r lefelau radon neu gyfyngu ar fynediad i leihau’r amser cyswllt
- Rhoi gwybod i’r staff a’r myfyrwyr y mae hyn yn effeithio arnynt
- Cynnal gwaith monitro pellach yn ôl yr angen.
Hefyd mae’r Brifysgol wedi paratoi’r Safon Bolisi Radon ganlynol sy’n amlinellu swyddogaethau a chyfrifoldebau Colegau/Adrannau ac unigolion penodol yn y Brifysgol.
Gwybodaeth bellach
I gael gwybodaeth bellach am radon cysylltwch â’r Gwasanaethau Iechyd a Diogelwch.