Pobl Ifanc a Phlant yn y Gwaith
At ddibenion deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch, person ifanc yw unrhyw un sy’n hŷn na’r oedran swyddogol ar gyfer gadael ysgol ac o dan 18 oed, ac fel arfer cyfeirir at blentyn fel unrhyw un o dan yr oedran swyddogol ar gyfer gadael ysgol. Sylwch fod terminoleg iechyd a diogelwch yn wahanol i ddiffiniadau 'diogelu'.
DiogeluMae Polisi Diogelu’r Brifysgol yn berthnasol i weithgareddau a chyfleusterau'r Brifysgol sy'n ymwneud â phlant a phobl ifanc. Mae'r Polisi a’i threfniadau’n ymdrin â holl weithgareddau a digwyddiadau’r Brifysgol a gynhelir ar dir y Brifysgol, a’r rhai a gynhelir oddi ar y campws ar safleoedd nad ydynt yn eiddo i’r Brifysgol. Mae hefyd yn cynnwys gweithgareddau a gynhelir ar-lein ar lwyfannau megis Microsoft Teams neu Zoom Byddwch yn ymwybodol y gall rhai sefyllfaoedd olygu bod angen i’r goruchwyliwr gael Gwiriad Manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd CYN y gellir gwneud trefniant gyda'r person ifanc. . |
Cyfrifoldebau am Iechyd a Diogelwch
Myfyriwr Cofrestredig
Os yw person ifanc yn fyfyriwr cofrestredig, mae gan y Brifysgol yr un cyfrifoldeb iddyn nhw o ran iechyd a diogelwch ag sydd ganddi i bob myfyriwr arall, gan ystyried risgiau posibl a allai godi oherwydd diffyg profiad y person ifanc, eu hymwybyddiaeth o risgiau presennol neu bosibl a/neu ddiffyg aeddfedrwydd (corfforol a meddyliol). Bydd materion Diogelu ychwanegol hefyd yn berthnasol.
Ymweld
Pan fydd plentyn neu berson ifanc yn ymweld â'r Brifysgol, dylai'r Coleg neu'r Gwasanaeth sydd wedi eu gwahodd ystyried y risgiau uwch i'r plentyn hwnnw o gymryd rhan mewn gweithgareddau. Bydd y Brifysgol, trwy’r Gwasanaethau Campws, yn gwneud popeth sy'n rhesymol i sicrhau bod y mannau hyn yn addas i’r diben ac nad ydynt yn peri risg. Gwelwch dudalennau gwe’r Gwasanaeth Iechyd a Diogelwch (bangor.ac.uk) am ragor o wybodaeth am iechyd a diogelwch.
Gweithiwr a Phrofiad Gwaith - Gwelwch hefyd yr adran nesaf am Asesu Risg a Pheryglon
Pan fo’r person ifanc neu’r plentyn yn mynychu’r Brifysgol ar gyfer profiad gwaith neu fel gweithiwr, mae gan y Brifysgol yr un cyfrifoldebau a dyletswyddau iddyn nhw ag sydd ganddi i’r holl staff eraill, a bydd yn gwneud popeth sy’n rhesymol ymarferol i sicrhau eu diogelwch tra byddant ar eiddo’r Brifysgol a thra byddant yn cymryd rhan mewn gweithgareddau a arweinir gan y Brifysgol.
Pan fydd person ifanc yn dymuno cael profiad gwaith yn y Brifysgol, mae'n rhaid i'r Coleg neu'r Gwasanaeth Proffesiynol sy'n eu croesawu ddilyn gweithdrefnau penodol ar ddiogelu plant. , fel arfer o leiaf 8 wythnos cyn y lleoliad.
Yng nghyd-destun camau rheoli iechyd a diogelwch, nodir y bydd person ifanc sy’n cael profiad gwaith yn y Brifysgol yn cael eu trin fel gweithiwr ‘dibrofiad’. Defnyddir camau rheoli a goruchwylio addas o ran iechyd a diogelwch , sy’n ystyried y risgiau ychwanegol oherwydd eu hanaeddfedrwydd.
Mae gan y Brifysgol yr un cyfrifoldebau a dyletswyddau i bobl ifanc ag sydd ganddi i’r holl staff eraill. Hynny yw, gwneud popeth sy'n rhesymol ymarferol i sicrhau eu diogelwch tra byddant ar eiddo'r brifysgol a thra byddant yn cymryd rhan mewn gweithgareddau a arweinir gan y Brifysgol.
Asesu Risg a Pheryglon
Rhaid i'r Coleg/Gwasanaeth ystyried asesiadau risg presennol o ran iechyd a diogelwch i gadarnhau eu bod yn addas ac yn rhoi ystyriaeth briodol i’r agweddau pwysig canlynol a all fod yn berthnasol i lawer o blant a phobl ifanc:
- diffyg profiad neu ddiffyg aeddfedrwydd posibl
- efallai nad ydynt wedi cyrraedd aeddfedrwydd corfforol ac nad oes ganddynt y cryfder i wneud rhai tasgau
- gallant fod yn rhy awyddus i wneud argraff neu i blesio’r bobl y maent yn gweithio gyda nhw
- efallai nad ydynt yn ymwybodol o sut i godi pryderon
- efallai nad ydynt yn ymwybodol o risgiau presennol neu risgiau posibl ac efallai na fyddant yn canfod risg yn yr un ffordd â chydweithwyr
- efallai bod ganddynt gyflyrau iechyd neu anawsterau dysgu
Os yw’r person ifanc yn gweithio mewn amgylchedd risg uwch, mae’n rhaid i chi ystyried y gallant ddod i gysylltiad â’r risgiau canlynol, ac mae’n rhaid i chi asesu’r mesurau rheoli presennol ac i ba raddau y byddant yn dod i gysylltiad â’r risgiau hynny. Gall enghreifftiau gynnwys dod i gysylltiad ag ymbelydredd, sylweddau gwenwynig, sŵn, dirgryniad, neu dymereddau eithafol.
Cyfyngiadau Penodol: Mae'r cyfyngiadau penodol canlynol, a ddaw o ddeddfwriaeth a Pholisïau'r Brifysgol, yn berthnasol i'r gwaith y gall pobl ifanc o dan 18 ac o dan 16 ei wneud tra byddant ar leoliad profiad gwaith yn y Brifysgol.
Perygl | O dan 16 oed | 16 – 17 oed |
Y tu hwnt i'w gallu corfforol / seicolegol | Gwaharddedig | Rhaid i'r gwaith: • Fod yn angenrheidiol ar gyfer eu hyfforddiant • Wedi'i oruchwylio'n briodol gan Berson Cymwys • Leihau’r risgiau i'r lefel ymarferol isaf posibl |
Risg o ddirgryniad / sŵn / gwres / oerfel eithriadol | Gwaharddedig | |
Risg o ddamweiniau nad ydynt yn amlwg nac yn hawdd eu hosgoi | Gwaharddedig | |
Gweithio gyda systemau trydan sefydlog / gwifredig | Gwaharddedig | |
Gweithio gydag offer gwaith metel, offer gwaith coed, offer codi | Gwaharddedig | |
Gwaith adeiladu | Gwaharddedig | |
Gweithdai | Dim ond os yw'n rhan o ddigwyddiad e.e. Ysgol Haf | |
Teratogenau, mwtagenau, carsinogenau | Gwaharddedig | Fel uchod, yn ogystal â’r canlynol: Rhaid i'r gwaith fod yn rhan o gwrs gradd achrededig Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ |
Ymbelydredd ïoneiddio | Gwaharddedig | |
Cyfryngau Biolegol – Grŵp Perygl 2 ac uwch | Gwaharddedig | |
Ardaloedd anifeiliaid | Gwaharddedig |
Byddwch yn ymwybodol o’r peryglon hyn a'r terfynau oedran cyfreithiol ar gyfer defnyddio rhai peiriannau, deunyddiau ac offer.
Pwysig: Rhaid i asesiadau risg fod ar gael a’u rhannu â rhiant, gofalwr, ysgol neu warcheidwad y person ifanc, fel y bo’n briodol.
Gwybodaeth, Hyfforddiant, a Goruchwyliaeth
Mae cyfarwyddiadau, hyfforddiant a goruchwyliaeth ddigonol yn hanfodol, oherwydd efallai mai dyma'r tro cyntaf i berson ifanc neu blentyn fod mewn lleoliad gwaith. Rhaid i gyfarwyddiadau a hyfforddiant fod yn glir, a rhaid i chi wirio i wneud yn siŵr eu bod yn deall popeth rydych wedi'i ddweud wrthynt, fel eu bod yn gwerthfawrogi pwysigrwydd y peryglon a'r risgiau iechyd a diogelwch ac nad ydynt yn rhoi eu hunain nac eraill mewn perygl. Mae hyn yn cynnwys bod yn ymwybodol o'r hyn y gallant a’r hyn na allant ei wneud, gyda phwy i siarad os oes ganddynt bryderon, a beth i'w wneud mewn argyfwng.
Gan y gallai fod angen mwy o oruchwyliaeth ar bobl ifanc nag ar oedolion profiadol, efallai y byddwch yn ystyried penodi mwy nag un goruchwyliwr. Sicrhewch eu bod yn gwybod sut i godi pryderon os ydynt yn ansicr ynghylch unrhyw gyfarwyddiadau, a gwiriwch gynnydd yn amlach nag y byddech fel arfer. Mewn rhai achosion, efallai y bydd angen cael awdurdodiad i’r goruchwylwyr mewn perthynas â Diogelu.
Cynefino
Yn yr un modd â gyda dechreuwyr newydd, dylid cynnal sesiwn gynefino ar y safle cyn gynted â phosibl i drafod y rheolau a’r gweithdrefnau lleol o ran iechyd, diogelwch a threfniadau amgylcheddol.
- Enghraifft o Restr Wirio Sesiwn Gynefino Iechyd a Diogelwch ar gyfer Staff ac Ymwelwyr
- Enghraifft o Restr Wirio Sesiwn Gynefino Iechyd a Diogelwch ar gyfer Profiad Gwaith
Gwybodaeth Bellach
- Plant ar Eiddo’r Brifysgol
- Taflen Wybodaeth am Iechyd a Diogelwch Plant ar Eiddo’r Brifysgol ac wrth gymryd rhan mewn gweithgareddau a arweinir gan y Brifysgol
- , er enghraifft asesiad risg Profiad Gwaith
- Gwybodaeth gan y Gweithrediaeth Iechyd a Diogelwch am
- : Rheoliad 19 - Amddiffyn pobl ifanc