12 o raddedigion cyntaf Gwyddorau Meddygol o Brifysgol 香港六合彩挂牌资料
Ddydd Gwener 17 Gorffennaf 2015 bydd deuddeg o israddedigion y rhai cyntaf i raddio o鈥檙 cwrs arloesol BMedSci Gwyddorau Meddygol o'r , adran academaidd ieuengaf Prifysgol 香港六合彩挂牌资料.
Mae'r myfyrwyr arloesol hyn ar y cwrs wedi gosod nod hynod uchel i fyfyrwyr y dyfodol gyda dros 50% ohonynt yn derbyn gradd dosbarth cyntaf. Mae'r radd mewn Gwyddorau Meddygol yn rhaglen wyddonol gysylltiedig 芒 meddygaeth sy'n cynnwys elfennau sgiliau proffesiynol/moeseg ac ymchwil cryf ac mae'r graddedigion yn gobeithio dilyn nifer o lwybrau yn cynnwys hyfforddiant parafeddygol a graddau meistr ac mae nifer wedi gwneud cais i gael eu derbyn fel graddedigion ar raglenni meddygol mewn nifer o ysgolion meddygol ym Mhrydain a'r Undeb Ewropeaidd.
Meddai Praise Eguare, myfyriwr trydedd flwyddyn sy'n graddio, "Mae fy mhrofiad yn yr Ysgol Gwyddorau Meddygol wedi bod yn bur heriol yn academaidd ond ar y llaw arall rydw i wedi cael boddhad mawr. Rydw i wedi mwynhau fy nghyfnod yma yn yr Ysgol Gwyddorau Meddygol ac ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料 yn eithriadol ac rwy'n gobeithio mynd ymlaen i astudio meddygaeth. Rwy'n teimlo bod y radd BMedSci yma, a oedd yn cynnwys amrywiaeth o fodiwlau diddorol ym maes meddygaeth, wedi rhoi sylfaen ddelfrydol i mi. Fe wnes i fwynhau'n arbennig yr ymchwil at y traethawd hir yn y flwyddyn olaf."
Bydd y myfyrwyr hyn yn elwa o raddio o Ysgol sy鈥檔 ganolbwynt i addysg feddygol ac ymchwil ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料. Yn ystod y tair blynedd ddiwethaf gwelwyd twf sylweddol ym maint yr Ysgol a bellach mae ganddi 25 o staff a dros 200 o fyfyrwyr yn astudio ar bedair rhaglen israddedig, yn cynnwys y BSc mewn Gwyddoniaeth Biofeddygol, a achredwyd gan IBMS. Daeth hon i'r safle uchaf ym Mhrydain o ran 'boddhad myfyrwyr' yn Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2014. Mae'r Ysgol hefyd yn cynnig cyrsiau 么l-radd mewn Gwyddorau Clinigol a Bioleg Foleciwlaidd Feddygol gyda Geneteg. Mae ganddi sylfaen ymchwil gynyddol sy'n adeiladu ar lwyddiant y Brifysgol yn Fframwaith Ymarfer Ymchwil 2014, gydag ymchwilwyr arloesol mewn pynciau yn cynnwys bioleg celloedd b么n ac atgyweirio DNA, yn cyfnerthu'r arbenigedd clinigol a geir eisoes.
Meddai Mr Dean Williams, Pennaeth yr Ysgol Gwyddorau Meddygol, "Rydym yn falch iawn o'r safonau uchel y mae'r garfan gyntaf hon o israddedigion Gwyddorau Meddygol wedi eu cyrraedd, sy'n tystio i frwdfrydedd a gallu staff a myfyrwyr fel ei gilydd. Rwy'n dymuno'r gorau iddynt yn eu gwahanol yrfaoedd yn y dyfodol." Aeth ymlaen i s么n sut mae ei ysgol yn datblygu, gan ddweud 鈥淢ae hwn yn gyfnod cyffrous i ymwneud ag ymchwil ac ysgolheictod sy鈥檔 gysylltiedig 芒 meddygaeth yng Ngogledd Cymru ac rwy'n hynod falch o fod wrth wraidd gwella a helaethu'r gweithgaredd hwnnw yn y rhanbarth, rhywbeth a ddaw 芒 manteision lleol a chenedlaethol i ni."
Ymhellach, dywedodd yr Athro Nichola Callow, Deon y Coleg Gwyddorau Iechyd ac Ymddygiad: "Mae hyn yn gyflawniad gwych i'r Ysgol ac rydym yn falch iawn o'r myfyrwyr a staff. Mae'n darparu sylfaen ardderchog ar gyfer datblygu a llwyddiant parhaus yn y dyfodol."
Meddai Is-ganghellor Prifysgol 香港六合彩挂牌资料, Yr Athro John G Hughes, 鈥淢ae鈥檙 brifysgol wedi ymrwymo i wella ansawdd a swm addysg ac ymchwil yn ymwneud 芒 meddygaeth. Mae鈥檙 garfan gyntaf o raddedigion Gwyddorau Meddygol yn garreg filltir ar hyd llwybr a fydd yn cael effaith wirioneddol ar ddarpariaeth feddygol yng Ngogledd Cymru.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 17 Gorffennaf 2015