A yw'r cyfryngau cymdeithasol yn dylanwadu ar faint o ymarfer corff rydych yn ei wneud?
Yn sgil y pryderon sy'n codi yngl欧n 芒 dylanwad y cyfryngau cymdeithasol ar ganfyddiadau pobl ifanc ynghylch y ddelwedd sydd ganddynt o'u cyrff eu hunain, mae gwyddonwyr chwaraeon ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料 yn gofyn a yw'r cyfryngau cymdeithasol yn effeithio ar ein cyfranogiad mewn ymarfer corff a sut, a phwy a beth yw'r ysgogwyr?
Yn rhyfedd ddigon, ychydig iawn o ymchwil sydd wedi'i gyhoeddi yngl欧n ag effaith y cyfryngau cymdeithasol ar gyfranogiad mewn ymarfer corff, er bod nifer o ddylanwadwyr, hyfforddwyr a chyfranogwyr yn rhannu eu cynghorion a'u buddugoliaethau ar amrywiol lwyfannau'r cyfryngau cymdeithasol. A allai'r cyfryngau cymdeithasol fod yn ddylanwad cadarnhaol hefyd, ac annog rhai i gymryd rhan mewn ymarfer corff neu i ffurfio delwedd iachach o'u cyrff?
Mae ymchwilwyr yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Gwyddorau Iechyd ac Ymarfer yn apelio ar bobl gorfforol egn茂ol o bob oed ac o unrhyw leoliad, sydd hefyd yn ymwneud 芒'r cyfryngau cymdeithasol, ymateb i'w holiadur. Mae'r holiadur ar gael ar-lein:
Roedd hwn yn bwnc ymchwil delfrydol ar gyfer myfyriwr ymchwil Meistr Gwyddor Chwaraeon, Sara Denny. Roedd gan Sara a鈥檙 darlithydd Eleri Jones ddiddordeb archwilio effaith y cyfryngau cymdeithasol ar ymarfer corff ac felly aethant ati i ddyfeisio'r pwnc Ymchwil Meistr gyda鈥檌 gilydd. Mae Sara wrthi'n casglu data ac yn gobeithio cwblhau ei chwrs yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf.
Mae holiadur Sara'n gofyn i bobl ynghylch eu defnydd o'r cyfryngau cymdeithasol. Mae hi'n chwilio am atebion ynghylch dylanwad y cyfryngau cymdeithasol ar arferion pobl lle mae ymarfer corff yn y cwestiwn, eu cymhellion, a sut maen nhw'n teimlo am ymarfer corff a'u cyrff.
Dywedodd Sarah: 鈥淢ae'n faes enfawr, ac rydym yn ceisio dilyn ambell i drywydd. Byddai'n ddiddorol darganfod a yw'r cyfryngau cymdeithasol yn ein hannog i ymarfer mwy neu'n galetach, ynteu ai 'pregethu i'r cadwedig' y maen nhw'. Byddai'n dda gwybod pa fathau o gyfrifon neu lwyfannau sydd 芒'r dylanwad mwyaf, a sut y gall y cyfrifon hynny effeithio ar ddelwedd pobl ohonyn nhw eu hunain er gwell neu er gwaeth: a yw'r bobl hynny'n gwneud ymarfer corff i deimlo'n well, i wella eu ffitrwydd neu i wella eu canfyddiad o sut mae eu corff yn edrych?鈥
Ychwanegodd goruchwyliwr Gradd Meistr Sara a'r Darlithydd Seicoleg Chwaraeon, Eleri Jones:
鈥淕wyddom fod y genhedlaeth 'Filflwyddol' wedi tyfu i fyny gyda'r cyfryngau cymdeithasol, ac felly cwestiwn arall yw a oes gwahaniaeth yn y ffordd y mae gwahanol grwpiau oedran yn defnyddio neu'n cael eu dylanwadu gan gyfrifon a dylanwadwyr y cyfryngau cymdeithasol. A yw'r genhedlaeth 'Filflwyddol' y mae'r cyfryngau cymdeithasol yn rhan annatod o'u bywydau o dan ddylanwad y cyfryngau cymdeithasol i raddau mwy na defnyddwyr h欧n?
鈥淒oes dim llawer o ymchwil wedi ei wneud yn y maes yma, ac felly o ystyried yr adroddiadau diweddar bod pobl ifanc yn eu harddegau yn treulio gormod o amser ar y cyfryngau cymdeithasol a dim digon o amser yn gwneud ymarfer corff, byddai'n dda gweld a yw'r cyfryngau cymdeithasol yn offeryn effeithiol i annog mwy o ymarfer corff, ac os felly, beth yw'r ffordd orau o dargedu'r wybodaeth honno at wahanol grwpiau oedran a diddordebau yn y dyfodol.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 20 Awst 2019