Arddangos celf boblogaidd yn seiliedig ar ddementia yn y Rhyl
Daw gweithgareddau Wythnos Ymwybyddiaeth Dementia Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ i ben gyda gosodiad doniol o gelf sy'n dod yn fyw wrth iddi nosi yn y Taste Academy yn y Rhyl.
Daw’r syniad am y gosodiad o’r astudiaeth ymchwil DU-gyfan, Dementia a Dychymyg. Mae Doris ac Ivor yn gymeriadau ffuglennol wedi eu hysbrydoli gan yr hiwmor a welodd yr artist ymchwil, Carol Hanson, mewn grwpiau celf Dementia a'r Dychymyg. Yn dilyn gosodiad llwyddiannus mewn ciosg ar flaen Pier Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Dementia, cynhelir arddangosfa ddiweddaraf Carol yn y Rhyl ar 21 Mai, a bydd ar gael i'w gweld tan 9 Mehefin.
Mae Carol yn ddylunydd ac animeiddiwr wedi'i lleoli yn Swydd Caer. Mae hi wedi bod yn arsylwi mewn rhai o'r sesiynau celf Dementia a'r Dychymyg gyda chyfranogwyr sy'n byw gyda dementia yng ngogledd Cymru. Mae Carol wedi defnyddio ei harddull esboniadol i greu nifer o osodiadau celf am y project. Y llynedd, trawsnewidiodd hen gar Daf 44 gyda labeli papur a décor a ymddangosodd yn yr Eisteddfod Ryngwladol yn Llangollen. Hefyd, fe greodd safle gwersylla cartŵn a deithiodd i Ŵyl y Dyn Gwyrdd.
Meddai Carol: “Bydd hwn yn osodiad cartŵn statig yn ystod oriau golau dydd ond daw yn fyw gydag animeiddio o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, o fachlud haul hyd 10pm. Gan gymryd ysbrydoliaeth o hiwmor a gwaith celf cyfranogwyr yr astudiaeth, caiff ei adeiladu o bapur a deunydd pacio yn gymysg â labeli, canfasau artistiaid ac animeiddio a bydd yn ffurfio 'byngalo' Doris ac Ivor, gan wahodd pobl i edrych ar eu byd drwy ddangos rhai â dementia mewn goleuni newydd."
Arweinir y project Dementia a'r Dychymyg gan Ganolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia Cymru, sydd wedi ei lleoli yn Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ. Mae’r gwaith ymchwil yn ceisio deall sut y gall celf helpu pobl sy'n byw â dementia, eu perthnasau, gofalwyr a chymunedau. Mae'r astudiaeth wedi gweithio'n lleol gyda Gwasanaeth Celfyddydau Cyngor Sir Ddinbych i gynnal grwpiau celf ar gyfer pobl sy'n byw â dementia sy'n dal i fyw yn eu cartref.
Dywedodd Dr Teri Howson, un o ymchwilwyr yr astudiaeth: "Mae’r gosodiad newydd hwn yn ffordd wych o rannu gwaith celf Carol gydag un o'r cymunedau a’i hysbrydolodd a lle mae pobl wedi cymryd rhan yn yr ymchwil. Rydym yn gobeithio y bydd yr arddangosfa yn ysgogi trafodaeth ac yn herio'r canfyddiadau o bobl sy'n byw gydag anawsterau cof."
Gwasanaeth Celfyddydau Sir Ddinbych fu’n cynnal y gweithdai Dementia a'r Dychymyg sy'n sail i waith Carol. Ar hyn o bryd, maent yn chwilio am aelodau newydd i ymuno â sesiynau ‘Ar goll mewn celf’ yn y Rhyl ar brynhawniau Iau. Cysylltwch â Sian Fitzgerald ar: sian.fitzgerald@denbighshire.gov.uk Ffôn: 01824 708216
Dyddiad cyhoeddi: 19 Mai 2016