Argymhellion newydd Sefydliad Iechyd y Byd: Gwneud y defnydd gorau o weithwyr iechyd trwy ailddosbarthu tasgau
Bwriad argymhellion Sefydliad Iechyd y Byd ynghylch gwneud y defnydd gorau o weithwyr iechyd yw mynd i'r afael 芒 phrinder dybryd yn y gweithlu iechyd sy'n ei rwystro rhag cyrraedd Nodau Datblygu鈥檙 Mileniwm ym maes iechyd. Byddai ailddosbarthu tasgau a chyfrifoldebau鈥檔 fwy synhwyrol ymysg carfanau gweithwyr iechyd yn sicrhau bod triniaethau ar gael yn llawer haws ac yn llawer mwy cost effeithiol - gellid er enghraifft hyfforddi a galluogi gweithwyr iechyd 'lefel ganol' a 'lleyg' i gyflawni tasgau penodol sydd fel arall yn cael eu gwneud gan garfanau sydd wedi cael hyfforddiant hirach (ac weithiau hyfforddiant mwy arbenigol).
Datblygwyd yr argymhellion trwy broses drefnus gan gynnwys adolygiad llawn o鈥檙 dystiolaeth oedd ar gael. Cynhaliwyd adolygiad systematig cymhleth o鈥檙 dystiolaeth gan d卯m rhyngwladol o arbenigwyr, gan gynnwys yr Athro Jane Noyes, arbenigwr mewn cyfuno tystiolaeth o y brifysgol.
Meddai鈥檙 Athro Jane Noyes: 鈥渞oedd yn anrhydedd bod yn rhan o鈥檙 t卯m rhyngwladol blaenllaw hwn. Buom yn datblygu ffyrdd newydd sbon o drefnu a gwneud synnwyr o dystiolaeth gymhleth a chyflwynwyd y dystiolaeth mewn ffordd y gellid ei throsi鈥檔 argymhellion i wella iechyd a lles merched beichiog a phlant trwy鈥檙 byd.鈥
Credir y bydd yr argymhellion hyn yn berthnasol i wneuthurwyr polisi iechyd, rheolwyr a budd-ddeiliaid eraill yn rhanbarthol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Gobaith Sefydliad Iechyd y Byd yw y bydd gwledydd yn eu haddasu a'u gweithredu er mwyn cwrdd ag anghenion lleol. Datblygwyd yr argymhellion trwy broses ffurfiol drefnus gan gynnwys adolygiad trylwyr o'r dystiolaeth sydd ar gael. Disgrifir y broses a'r argymhellion yn y dogfennau cysylltiedig.
Gellir gweld y dogfennau yn
Gellir gweld ffilm yn amlinellu鈥檙 argymhellion:
Dyddiad cyhoeddi: 18 Rhagfyr 2012