Arloesi mewn hyfforddi'r lluoedd arfog
Tynnwyd sylw at broject sydd wedi trawsnewid hyfforddi recriwtiaid yn y Fyddin Brydeinig ac wedi arwain at newidiadau yn y ffordd y darperir yr hyfforddiant yn y tri llu arfog, ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料 yn ddiweddar pan enillodd un o wobrau Menter ac Effaith cyntaf y brifysgol.
Mae dros ddeng mlynedd o ymchwil a gweithredu, mewn partneriaeth ag Is-adran Recriwtio a Hyfforddi'r Fyddin Brydeinig, wedi arwain at newidiadau yn yr hyfforddiant a ddarperir ar draws y tri llu arfog. Ffurfiwyd sefydliad hyfforddi newydd, ynghyd 芒 chorff monitro a hyfforddi i'r tri llu, gwelwyd iechyd meddwl gwell ymysg recriwtiaid i'r gwasanaeth milwrol, a gostyngiad sylweddol yn y cyfraddau ymadael (hyd at 15%). Arweiniwyd y gwaith arloesol gan yr Athro Hardy a'i d卯m yn Sefydliad Seicoleg Perfformiad Elit yr .
Mae model 香港六合彩挂牌资料, a ddatblygwyd gan yr ymchwil hon, wedi cael ei ymestyn ar draws M么r yr Iwerydd gan ei fod yn cael ei ddefnyddio hefyd gan luoedd arfog Canada a'r Unol Daleithiau. Roedd y project yn ymdrin 芒'r ganran uchel o recriwtiaid sy'n gadael neu'n methu, rhywbeth sydd wedi bod yn broblem oesol i'r lluoedd arfog oherwydd y safonau uchel o berfformio sydd eu hangen. Roedd model a ddatblygwyd ac a hyrwyddwyd yn yr Is-adran Recriwtio a Hyfforddi yn gostwng y nifer oedd yn gadael trwy ddefnyddio arferion hyfforddi gwell. Roedd yr ymchwil dan nawdd y Weinyddiaeth Amddiffyn yn canolbwyntio ar fanteision hyfforddi swyddogion heb gomisiwn sy'n ymwneud 芒 hyfforddi recriwtiaid, mewn sgiliau arwain trawsffurfiannol a hyfforddi.
"Yn wir, mae鈥檙 dull hwn wedi dod yn rhan bwysig o hyfforddiant yn y fyddin," esboniodd yr Athro Hardy.
Maent wedi bod yn cyflwyno'r theor茂au diweddaraf o faes seicoleg trefniadaeth a seicoleg chwaraeon i wella hyfforddiant i recriwtiaid newydd a swyddogion heb gomisiwn (NCOs) gan ddarparu gwell sgiliau hyfforddi ac arweinyddiaeth i'r rhai sy鈥檔 hyfforddi鈥檙 adrannau hynny.
"Rydym wedi cydweithio'n agos gyda rhannau o'r fyddin i'w cynorthwyo i ddiffinio'u hamcanion ac yna b没m yn datblygu rhaglenni i鈥檞 galluogi i gyflawni鈥檙 amcanion hynny. Roedd yn eithaf pwysig ein bod yn gweithio'n agos gyda鈥檙 fyddin i ddatblygu rhaglen y gallai'r lluoedd arfog eu darparu eu hunain. Gwnaethom helpu staff y fyddin i gael y sgiliau a'r wybodaeth i ddarparu'r hyfforddiant - roeddem yn gwybod na fyddai gennym yr hygrededd yng ngolwg y milwyr i ddarparu'r hyfforddiant ein hunain."
"Nid yw'r fyddin a'r lluoedd arfog eraill wedi mynd yn 'feddal' yn eu hagwedd at hyfforddiant. Er enghraifft, prif amcanion hyfforddi'r fyddin yw trawsnewid recriwtiaid newydd sydd gan amlaf yn llanciau ifanc o gefndiroedd anodd, i fod yn filwyr sy'n feddyliol wydn ac yn gallu perfformio o dan y pwysau mwyaf dwys y gellir ei ddychmygu, lle gall camgymeriad arwain at eu marwolaeth, marwolaeth y sawl sydd wrth eu hochr, neu farwolaeth pob un ohonynt - nid dim ond colli g锚m cynghrair. Oherwydd hyn mae'n hanfodol bwysig bod y recriwtiaid yn dysgu ymdopi 芒 phwysau fel rhan o'u hyfforddiant. Gwneir anghymwynas 芒 hwy os na ch芒nt eu hyfforddi i ymdopi dan straen. Felly mae hyfforddiant caled yn y fyddin yn hanfodol, ond mae angen ei reoli'n gywir.鈥
Mae ystadegau'r Athro Hardy yn dangos bod y fyddin wedi gallu cofrestru mwy o filwyr heb ostwng safon ei recriwtiaid, trwy allu hyfforddi mwy o'r recriwtiaid i gyrraedd y safon ofynnol. Roedd y rhaglen yn cynnwys dod 芒 sgiliau a gwybodaeth o鈥檙 brifysgol ynghyd 芒 sgiliau a gwybodaeth y fyddin, er mwyn gwneud y newidiadau oedd y fyddin eu heisiau. Mae hefyd wedi galluogi'r fyddin i barhau gyda鈥檙 broses ei hun.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Tachwedd 2013