Astudiaeth newydd i rhoi鈥檙 dechrau gorau i blant ag awtistiaeth
Mae astudiaeth arloesol wedi ei lansio er mwyn deall sut y gellir cefnogi teuluoedd a effeithir gan awtistiaeth yn syth wedi iddynt dderbyn diagnosis.
Bydd y treial, a gyllidir gan elusen ymchwil awtistiaeth, , yn ceisio canfod os yw cynnig y rhaglen gefnogaeth Blynyddoedd Rhyfeddol (Incredible Years庐) i deuluoedd yn fuan wedi deiagnosis eu plentyn 芒 buddiannau hirdymor posib.
Mae rhaglenni鈥檙 Blynyddoedd Rhyfeddol () eisoes yn cael eu defnyddio鈥檔 helaeth gan ysgolion, meithrinfeydd a rhieni ledled Cymru ac yn rhyngwladol. Mae rhaglenni鈥檙 Blynyddoedd Rhyfeddol yn datblygu dealltwriaeth gymdeithasol ac emosiynol plant ifanc ac yn sicrhau bod y plant yn barod i elwa o鈥檜 profiadau yn yr ysgol, y feithrinfa neu鈥檙 cartref.
Mae addasiad o鈥檙 rhaglenni wedi cael ei ddatblygu yn unswydd i gefnogi rhieni plant gydag awtistiaeth neu oediad ieithyddol. Yn dilyn treial bychan yng Ngwynedd, y cyntaf i鈥檞 gynnal y tu allan i鈥檙 UDA, mae鈥檙 treial newydd yma yn fwy sylweddol na鈥檙 rhai blaenorol a bydd yn cael ei , gynnal ar draws Cymru, i brofi pa mor effeithiol yw鈥檙 rhaglen mewn cyd-destun Cymreig, gan adolygu cost-effeithiolrwydd y rhaglen dros amser.
Os yw鈥檙 treialon yn llwyddiannus, gall raglen newydd i rieni plant ifanc gydag awtistiaeth fod ar gael yng Nghymru ac ar draws y DU.
Fel yr esbonia鈥檙 Athro Judy Hutchings, o Brifysgol 香港六合彩挂牌资料, a fydd yn arwain yr ymchwil:
鈥淵n aml mae gan blant sydd ag Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth (ASD) anawsterau cysylltiedig yn cynnwys gorfywiogrwydd, gorbryder a gorsensitifrwydd i seiniau a deunyddiau, anawsterau cysgu, ac anawsterau deall a rheoli eu hemosiynau. Mae bod yn rhiant i blentyn gydag awtistiaeth yn heriol, ond gall yr heriau ymddygiadol a ddaw yn anuniongyrchol o鈥檙 awtistiaeth achosi pryder a phroblemau iechyd meddwl i鈥檙 un sy鈥檔 gofalu am y plentyn, yn ychwanegol at y rhai a achosir yn uniongyrchol gan yr ASD.
Yn ogystal 芒 chyfrannu at rianta mwy llyfn, sydd yn ei sgil yn lleihau鈥檙 straen ar y rhiant a鈥檙 plentyn, mae gwella sgiliau rhianta rhieni plant gyda ASD yn hanfodol oherwydd pwysigrwydd y blynyddoedd cynnar i ddatblygiad.鈥
Mae鈥檙 Athro Hutchings o鈥檙 Ganolfan Ymyrraeth Cynnar ar Sail Tystiolaeth yn yr Ysgol Seicoleg, wedi bod yn allweddol yn y gwaith o gyflwyno a phrofi effeithiolrwydd rhaglenni鈥檙 Blynyddoedd Rhyfeddol yng Nghymru, a hi yw awdur y llyfr 鈥淟lawlyfr Bach Rhieni鈥.
Bydd 72 o deuluoedd yn cymryd rhan yn yr ymchwil newydd, fydd yn dechrau gweithio gyda rhieni yn y misoedd nesaf. Bydd un gr诺p yn derbyn y rhaglen ar y cychwyn, e ac yn cael eu cymharu yn erbyn y gweddill a fydd yn derbyn y gefnogaeth ar ddiwedd y project.
Roedd y rhieni a gymerodd ran mewn rhaglen beilot gynharach yn ei ystyried yn brofiad buddiol, nid yn unig am eu bod yn teimlo鈥檔 llai ynysig ac yn cael cyfle i rannu eu profiadau gyda rhieni eraill mewn sefyllfaoedd tebyg, ond hefyd gan eu bod wedi dysgu mwy am awtistiaeth ac wedi dysgu ffyrdd newydd o ymdrin 芒鈥檜 plant a dal eu sylw.
Meddai Claire Golding, rhiant o Gricieth a gymerodd ran yn y cwrs peilot:
鈥淒rwy鈥檙 cwrs llwyddais i addasu fy sgiliau rhianta i gyd-fynd ag anghenion penodol fy mhlentyn, ac mae hyn wedi cael effaith cadarnhaol arnom fel teulu.鈥
"Buaswn yn argymell y cwrs i bob rhiant sydd 芒 phlentyn ar y sbectrwm awtistiaeth.鈥
Meddai Jon Spiers, Prif Weithredwr Autistica:
鈥淢ae cyfathrebu ac ymyrraeth gynnar yn ymhlith y blaenoriaethau mwyaf sydd wrth wraidd ymchwil y gymuned awtistiaeth, ac felly rydym yn falch iawn o allu cyllido project blaengar sydd yn cefnogi teuluoedd yn ystod un o gyfnodau mwyaf anodd eu profiad ag awtistiaeth.
Mae鈥檙 project hwn yn un gwerthfawr mewn dwy ffordd: fel project ymchwil, bydd yn darparu gwybodaeth i therap茂au鈥檙 dyfodol, ond gyda鈥檙 fantais ychwanegol o fod o fudd i deuluoedd r诺an hyn. Rydym yn edrych ymlaen at weld y canlyniadau, ac os bydd yn llwyddiannus, byddwn yn ymgyrchu i ledaenu鈥檙 gwasanaeth yn genedlaethol fel y gall pawb sydd ei angen cael budd ohono.鈥
Dywedodd yr Athro Richard Hastings, Centre for Educational Development Appraisal & Research (CEDAR), ym Mhrifysgol Warwick, sydd hefyd yn rhan o鈥檙 t卯m ymchwil:
鈥淣od ein hymchwil yw gwella sawl agwedd ar ansawdd bywyd plant ac oedolion gydag awtistiaeth, eu teuluoedd a鈥檜 gofalwyr ac felly rydym yn awyddus i weld os fydd y rhaglen yma yn cynnig dull cost-effeithiol o roi cymorth i鈥檙 teuluoedd ifanc hyn.鈥
Meddai Dr Sue Evans, Seicolegydd Plant Ymgynghorol gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys:
鈥淩ydym yn falch iawn o fod yn rhan o鈥檙 ymchwil hwn. Mae gennym strategaeth Blynyddoedd Cynnar (IY) aml-asiantaeth gref ym Mhowys a bydd y rhaglen awtistiaeth yn integreiddio鈥檔 dda efo hyn, ac yn ychwanegu cefnogaeth i rieni plant ifanc gydag awtistiaeth. Hyd yn hyn, rydym wedi cynnal dau gr诺p peilot. Rydym yn edrych ymlaen at fod yn bartneriaid yn yr ymchwil, rhedeg grwpiau ychwanegol i rieni a chyfrannu tystiolaeth am effeithiolrwydd y rhaglen.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 20 Hydref 2016