Beth ydi鈥檙 ffordd orau o helpu plant gyda chlefyd siwgr i edrych ar 么l eu hunain?
Mae astudiaeth newydd sy鈥檔 cael ei harwain ar y cyd gan Brifysgolion 香港六合彩挂牌资料 a Chaerdydd, gyda th卯m o arbenigwyr o bob rhan o wledydd Prydain, yn ceisio gweld beth yw鈥檙 ffordd orau o gyflwyno gwybodaeth i helpu plant a phobl ifanc gyda chlefyd siwgr math 1 i edrych ar 么l eu hunain.
Bydd yr astudiaeth `Evidence into practice: evaluating a child-centred intervention for diabetes medicine management鈥, sy鈥檔 cael ei hadnabod yn gyffredinol erbyn hyn fel EPIC (Evidence into Practice: Information Counts), yn gofyn i blant a phobl ifanc gyda chlefyd siwgr math 1 beth sydd orau ganddynt o ran cael gwybodaeth a鈥檙 penderfyniadau y maent yn eu gwneud ynghylch sut i edrych ar 么l eu hunain. Arweinir y t卯m gan yr Athrawon Jane Noyes ac Anne Williams.
Meddai Llinos Spencer, y Swyddog Ymchwil ar gyfer EPIC yng Nghanolfan 香港六合彩挂牌资料 ar gyfer Ymchwil Gysylltiedig ag Iechyd: 鈥滿ae鈥檙 t卯m eisiau siarad yn benodol efo plant a phobl ifanc efo clefyd siwgr math 1 sy鈥檔 byw oddi wrth eu teuluoedd am gyfnodau byr, canolig neu hir 鈥 er enghraifft, wrth fynd i wersylloedd haf a gwersylloedd chwaraeon, ysgolion preswyl, rhai sy鈥檔 byw gyda theuluoedd maeth, ar leoliadau neu gyrsiau gwaith/addysg, ar wyliau gyda ffrindiau, neu rai sy鈥檔 byw mewn canolfannau i droseddwyr ifanc.
鈥淏yddem yn falch iawn o glywed gan rieni/gwarcheidwaid, a phlant/pobl ifanc rhwng 6 a 18 oed sydd wedi edrych ar 么l eu clefyd siwgr math 1 tra oeddent i ffwrdd oddi wrth eu teuluoedd am gyfnod.鈥
Meddai Dr Lesley Lowes, Uwch Ddarlithydd/Nyrs Arbenigol Clefyd Siwgr mewn Plant, sy鈥檔 gyd-ymchwilydd ar y project: 鈥淢ae plant sydd efo clefyd siwgr math 1 angen gwybodaeth arbenigol, ac mae鈥檙 ffordd y caiff y wybodaeth yma ei chyflwyno鈥檔 dibynnu llawer iawn ar oed y plentyn a lle maen nhw鈥檔 byw o ddydd i ddydd. Felly, mae angen datblygu adnoddau gwybodaeth addas i wahanol oedrannau sydd wedi cael eu datblygu efo help plant a phobl ifanc.鈥
Cyllidir y project gan raglen y National Institute of Health Research Service Delivery and Organisation (NIHR-SDO) a chaiff ei gynnal mewn nifer o wahanol fannau yng Nghymru a Lloegr.
Os hoffech gynorthwyo鈥檙 project EPIC, cysylltwch 芒 Llinos Spencer ar 07973 116 474 neu L.Spencer@bangor.ac.uk Mae gwybodaeth bellach ar gael yn: www.epicproject.info.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Chwefror 2011