Buddsoddiad gwerth dros 3 miliwn mewn unedau ymchwil iechyd ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料
Caiff gwerth dros 拢3 miliwn ei fuddsoddi mewn ymchwil i ofal iechyd integredig ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料 dros y tair blynedd nesaf.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi rhodd o gyllid gwerth 拢2.3 miliwn i ariannu dau grant i'r brifysgol, a bydd y brifysgol ei hun yn buddsoddi arian cyfatebol yn un ohonynt.
Bydd y cyllid yn cyfrannu at Sefydliad Hap-dreialon Iechyd Gogledd Cymru (NWORTH) a Gwasanaeth Cymorth Economeg Iechyd Cymru, sy'n rhan o'r Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME) ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料.
Bydd y cyllid, trwy gronfa Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yn fodd i鈥檙 unedau ddenu mwy o dreialon mawr o ansawdd uchel, a gyllidir yn allanol, i helpu'r unedau i dyfu, buddsoddi mewn arbenigedd a darparu tystiolaeth ymchwil o dreialon o fewn amserlenni clir.
Mae Canolfan Cymorth Economeg Iechyd Cymru yn cynorthwyo'r unedau treialon gydag arbenigedd economeg iechyd, sy'n elfen hollbwysig wrth wneud cais am gyllid gan gyllidwyr treialon clinigol mawr yn y DU.
Meddai鈥檙 Athro Nicky Callow, Deon y brifysgol:
鈥淩ydym yn falch dros ben bod Llywodraeth Cymru wedi dewis ariannu cyfranwyr yr at Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Mae gan Brifysgol 香港六合彩挂牌资料 enw rhagorol am ei gwaith ymchwil ym maes iechyd, ac rydym yn falch o gynnal ymchwil sy'n cyfrannu at iechyd a gofal yng Nghymru a thu hwnt.鈥
Mae Hap-dreialon Iechyd Gogledd Cymru ) yn un o dair uned dreialon clinigol yng Nghymru sydd yn gofrestredig gyda'r "UK Clinical Research Collaboration" (UKRCR). Mae treialon clinigol yn hanfodol i ddatblygu ymarfer clinigol a gofal iechyd effeithlon ar sail tystiolaeth. Mae NWORTH yn darparu cefnogaeth fethodolegol ac ystadegol, isadeiledd TG a sicrwydd o ansawdd, wrth gynnal ei hymchwil ei hun mewn ystod eang o feysydd clinigol.
Meddai cyfarwyddwr NWORTH, yr Athro Paul Brocklehurst:
鈥淢ae ein staff yn gweithio gyda chlinigwyr ymchwil o nifer o gyrff ledled y DU er mwyn sicrhau bod eu gwaith ymchwil clinigol yn drylwyr ac yn gallu gwrthsefyll archwiliad. Mae鈥檙 gwaith yn cynnwys unrhyw beth, gan gynnwys cydweithio ag ymchwilwyr yngl欧n 芒 sut i sefydlu projectau ymchwil cymhleth, rheoli鈥檙 broses ymchwil a gwerthuso鈥檙 wybodaeth a gynhyrchir gan dreialon. Rydym hefyd yn gwneud ein hymchwil ein hunain, ac mae ein diddordebau ymchwil yn cynnwys amrywiaeth o bynciau megis gwerthuso effeithiolrwydd gwasanaethau gofal dementia, adferiad a chyflyrau cyhyrysgerbydol. Mae'r arian gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn cael ei gyfateb gan Brifysgol 香港六合彩挂牌资料 ac mae'n ein galluogi i barhau 芒'n gwaith hollbwysig am dair blynedd arall. Rydym hefyd yn bwriadu ymestyn ein portffolio i gynnwys meysydd megis iechyd cyhoeddus a sicrhau bod llais cleifion yn ganolog i'r broses ymchwil ac i bopeth rydym yn ei wneud.鈥
Dywedodd yr Athro Rhiannon Tudor Edwards, Cyd-gyfarwyddwr y (CHEME), Prifysgol 香港六合彩挂牌资料, "fel cyfarwyddwr y Gwasanaeth Cymorth Economeg Iechyd Cymru (WHESS), sy'n darparu arbenigedd ym maes economeg iechyd i ymchwil feddygol a gwasanaethau iechyd cymunedol ledled Cymru, rwy'n falch dros ben ein bod wedi ennill y grantiau hyn. Cyllidir WHESS gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru (HCRW), ac mae'n wasanaeth ar y cyd rhwng economegwyr iechyd ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料 a Phrifysgol Abertawe. Mae economeg iechyd yn ymwneud 芒 sut rydym yn defnyddio adnoddau iechyd prin i fodloni ein hanghenion, ac yn fwyfwy mae hyn hefyd yn ymwneud ag anghenion gofal cymdeithasol yn y gymdeithas. Mae economeg iechyd yn rhan annatod o ymchwil meddygol, iechyd a gofal ledled Cymru. Rydym yn cyfrannu at ymchwil o safon ryngwladol sydd yn deillio o Gymru, yn cefnogi pobl gyda syniadau ymchwil ym myrddau iechyd y GIG ac awdurdodau lleol a allai arwain at wella effeithlonrwydd neu gost-effeithiolrwydd gofal cleifion ac rydym yn meithrin ac yn mentora鈥檙 genhedlaeth nesaf o economegwyr iechyd yng Nghymru. Bydd y 拢1.2 miliwn ar draws Cymru yn ein galluogi i ddarparu cefnogaeth economeg iechyd ar lefel cenedlaethol am y tair blynedd nesaf, gan gydweithio鈥檔 agos 芒鈥檙 tair uned dreialon clinigol ac fel rhan o鈥檙 Gwasanaeth Cynllunio a Chynnal Ymchwil.鈥
Mae'r cyllid hwn yn ychwanegu at y cyllid y mae'r brifysgol eisoes yn ei gael gan Lywodraeth Cymru am gyfraniad ei hymchwil at Uned Ymchwil Arennol Cymru, Canolfan Ymchwil Canser Cymru, Canolfan Cymru ar gyfer Ymchwil Gofal Sylfaenol a Gofal Brys a'r Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia ac wrth gyfrannu hefyd at Uned BRAIN Cymru a'r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl yng Nghaerdydd, mae Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 yn cyfrannu'n sylweddol at ymchwil iechyd yng Nghymru.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Medi 2015