Bwrsariaethau Cymraeg cyntaf Ysgol Seicoleg yn arwain at swyddi lleol
A hithau鈥檙 Brifysgol gyntaf i gyflwyno cymhwyster MSc mewn Dadansoddi Ymddygiad Cymhwysol (ABA) yn 2003, mae myfyrwraig sy'n astudio'r Cwrs Meistr ABA yn wedi dod y fyfyrwraig cwrs Meistr gyntaf yn yr Ysgol y gyflwyno鈥檌 thraethawd ymchwil Meistr yn y Gymraeg. Mae Dadansoddi Ymddygiad Cynhwysol yn canolbwyntio ar ddefnyddio egwyddorion dysgu sylfaenol i ddatblygu newid ymddygiad er y gwell ar gyfer unigolion, grwpiau o bobol, a cymdeithas yn ei chyfanrwydd.
Yn aml mae ymarferwyr ABA yn gweithio efo plant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol ac maent yn gweithio mewn lleoliadau fel ysgolion prif ffrwd a sefydliadau addysgol arbennig. Prif amcan y Bwrsariaeth ABA yw cyfrannu at datblygu dadansoddwyr ymddygiad hyfedr sydd yn medru gweithio鈥檔 lleol gan weithio drwy鈥檙 Gymraeg.
Mae鈥檙 gallu i ymarfer yn glinigol yn y ddwy iaith yn hanfodol bwysig yng Ngogledd Orllewin Cymru lle mae鈥檙 ffigyrau cyfrifiad (2011) yn dangos bod 66% o鈥檙 boblogaeth yn siarad Cymraeg. Yn ogystal, mae 98% o ysgolion Gwynedd yn darparu addysg ddwyieithog.
Roedd Dawn Owen, sydd yn rhugl ei Chymraeg lafar, eisio datblygu ei Chymraeg ysgrifenedig a鈥檌 gallu i drafod ei phwnc yn y Gymraeg. Roedd Aimee Anthony, sydd wedi dysgu Cymraeg, hithau eisio datblygu ei sgiliau llafar a鈥檌 hyder wrth drin a thrafod ei phwnc yn Gymraeg. Yn ogystal 芒鈥檙 dosbarthiadau ac aseiniadau arferol, disgwyliwyd i鈥檙 ddwy fynychu seminarau yn Gymraeg a chyflwyno鈥檜 projectau ymchwil yn Gymraeg i鈥檙 Bedwaredd Gynhadledd ABA ym Mangor. Mynychodd Dawn Owens y modiwl: Ymdrin 芒鈥檆h pwnc drwy gyfrwng y Gymraeg, a ddarperir gan Ganolfan Bedwyr y Brifysgol ac ysgrifennodd ei thraethawd Ymchwil Meistr yn Gymraeg.
Meddai Dawn: 鈥淩oedd y bwrsari Cymraeg yn gyfle i mi wella fy Nghymraeg ysgrifenedig a llafar. Roedd yr elfen bwrsari yn waith caled, ond yn hynod werthfawr. Rwy鈥檔 falch mod i wedi cael y cyfle i ysgrifennu a chwblhau'r thesis yn Gymraeg. Rhaid pwysleisio鈥檙 gwaith caled a wnaethpwyd gan ddarlithwyr y Brifysgol. Rwyf erbyn hyn yn gweithio fel therapydd ABA yn Ysgol Syr Hugh Owen yng Nghaernarfon.''
Mynychodd Aimee Anthony dosbarthiadau i ddysgwyr i ddatblygu ei sgiliau llafar. Meddai: 鈥淩oedd yn galed gyda'r gwaith ychwanegol, ond roedd werth yr ymdrech gyda'r holl gefnogaeth a gefais. Ni fyddwn 芒鈥檙 hyder i ymgeisio am swydd ABA gan nad oeddwn yn teimlo fod fy Nghymraeg yn ddigon da, ond erbyn hyn, rwyf yn gweithio gan ddefnyddio ABA mewn cynradd lleol; Ysgol y Garnedd ym Mangor. Ni fyddai hyn wedi bod yn bosib oni bai am y bwrsari.鈥
Meddai Dr Carl Hughes, Cyfarwyddwr y cwrs ABA 鈥 Er bod myfyrwyr ledled Ewrop a thu hwnt yn mynychu ein cwrs, rydym wedi cadw ffocws amlwg ar ddatblygu cydweithredu lleol, ac yn benodol yn cefnogi projectau mewn lleoliadau cyfrwng Cymraeg. Un o鈥檔 hamcanion yw rhoi cefnogaeth i wasanaethau lleol sydd yn cael effaith ar bobol leol. Mae鈥檔 dda gweld talent leol yn cael ei ddatblygu sydd nid yn unig yn dilyn y r ymarfer diweddaraf sy鈥檔 seiliedig ar dystiolaeth ond sydd hefyd yn gwneud hyn dryw鈥檙 Gymraeg.鈥
Meddai Dr Elin Walker Jones, a sefydlodd y rhaglen diwtora drwy鈥檙 Gymraeg ar y cwrs ABA, 鈥 Mae medru cefnogi鈥檔 myfyrwyr iddynt gynyddu鈥檜 hyder yn y Gymraeg yn gyrhaeddiad pwysig i鈥檙 cwrs ABA. Daw 么l-effeithiau pwysig yn ei sgil ar gyfer cynyddu galluoedd y gweithlu lleol, gan gynhyrchu gweithwyr sydd yn ddadansoddwyr ymddygiad medrus, sydd yn gymwys i weithio efo plant, pobol ifanc ac oedolion drwy gyfrwng Cymraeg a Saesneg.鈥
Mae'r Cynllun Bwrsariaeth Cymraeg ar gyfer y MSc ABA yn gydweithrediad rhwng, a chafodd ei hysbrydoli gan weledigaeth y Coleg Cenedlaethol Cymraeg i ymestyn addysg cyfrwng Cymraeg sy'n cyfrannu at wella sgiliau a galluogi pobl leol i weithio ar lefel uchel drwy gyfrwng y Gymraeg.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Rhagfyr 2012