Bydwragedd yn cipio gwobrau
Mae dwy aelod staff Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ wedi cipio gwobrau yng Ngwobrau Ymddiriedolaeth Bydwreigiaeth Iolanthe 2013 yn ddiweddar.
Mae Sheila Brown, ddarlithydd rhan amser yn yr ac sydd yn Fydwraig Cymuned sy’n gweithio yn Wrecsam, wedi ennill Gwobr Tricia Anderson am drefnu ‘Cwrs Tystiolaeth a Sgiliau ar gyfer Esgor a Genedigaethau Arferol’ i 40 bydwraig.
2013 yw blwyddyn olaf y wobr hon a roddwyd er cof am y fydwraig Tricia Anderson a fu farw ym mis Hydref 2007. Roedd Tricia’n gweithio yn Bournemouth fel bydwraig annibynnol ac roedd yn eiriolydd brwdfrydig dros ferched a’u hawl i ddewis sut roeddent yn geni eu babi. Mae’r Gwobrau’n cefnogi unigolion neu grwpiau sy’n dymuno cynnal gweithgareddau sy’n adlewyrchu angerdd Tricia, ei hagwedd arloesol, ei hysgolheictod a’i hymrwymiad i les mamau a bydwragedd.
Defnyddiodd Sheila yr arian a enillodd i dalu i arbenigwr bydwreigiaeth mewn Genedigaethau Arferol – Denis Walsh – ddod i siarad yn y diwrnod astudio i Fydwragedd yn y Ramada Plaza yn Wrecsam.
Ar ben hynny, enillodd Sheila wobr arall hefyd, sef Gwobr y Fonesig Rosalind Paget. Rhoddir hwn gan Ymddiriedolaeth y Fonesig Rosalind Paget a sefydlwyd yn 1919. Cofiwn am Rosalind Paget fel un o aelodau gwreiddiol Sefydliad y Bydwragedd (a ddaeth yn Goleg Brenhinol y Bydwragedd) ac am ei gwaith i wella statws bydwragedd. Dyfernir y Wobr yn flynyddol i gydnabod bydwragedd sy’n gwella arferion drwy ofal holistaidd i ferched a theuluoedd.
Fe gafodd Mary Longworth, Cyfarwyddwr Addysg Bydwreigiaeth yn yr Ysgol Gwyddorau Meddygol, hefyd wobr ariannol gan Ymddiriedolaeth Bydwreigiaeth Iolanthe i gefnogi ei hastudiaethau i fod yn feddyg drwy Brifysgol Manceinion sy’n ymchwilio i ddylanwad tadau ar benderfyniadau merched.
Ffynhonnell:
Dyddiad cyhoeddi: 22 Tachwedd 2013