Catrin yn ennill cystadleuaeth '1000 o fywydau'
Mae Catrin Pink, o Lanon, Ceredigion, myfyrwraig radiograffeg ar gampws yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd yn Wrecsam, newydd fod ar daith i gynhadledd ryngwladol yn Sweden yn wobr a enillodd ar 么l cynnig mewn cystadleuaeth gan GIG Cymru yn yr ymgyrch '1000 o fywydau'.
Roedd y gystadleuaeth 鈥楬oli un Cwestiwn i Wella Profiad Cleifion' yn rhoi her i'r myfyrwyr ddefnyddio cwestiwn cyffredinol i gefnogi gwrando a dysgu ar y llinell flaen yn y gwasanaethau iechyd.
Dywedodd Elizabeth Carver, Arweinydd Clinigol BSc (Anrhydedd) Radiograffeg yn yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd:
鈥榊n amlwg rydym yn falch iawn o Catrin, yn enwedig gan iddi gystadlu pan oedd ar ei lleoliad profiad clinigol cyntaf un yn ystod ei chwrs prifysgol. Mae'r gwasanaeth gwella 1000 o fywydau yn sefydliad gwerthfawr iawn y mae'r Ysgol wrthi yn ei hyrwyddo."
Darllenwch adroddiad Catrin
Dyddiad cyhoeddi: 21 Mehefin 2016