Chwech o Brifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ yn cael eu penodi’n Uwch Arweinwyr Ymchwil Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
Mae chwe ymchwilydd ym maes iechyd a gofal cymunedol ym Mhrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ wedi'u penodi’n Uwch Arweinwyr Ymchwil- Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Mae’r chwech ymysg 18 sydd wedi‘u penodi yn sgil proses gystadleuol ac asesiad gan banel annibynnol o uwch arbenigwyr iechyd a gofal cymdeithasol y DU.
Y farn oedd eu bod ymhlith ymchwilwyr mwyaf blaenllaw Cymru o’r dystiolaeth y gwnaethon nhw ei darparu i fodloni’r meini prawf dethol a ganlyn:
• Ansawdd a swm eu hymchwil ryngwladol ragorol
• Effaith eu harweinyddiaeth mewn ymchwil
• Hanes gyrfa da o ran hyfforddi a datblygu ymchwilwyr
• Effaith eu hymchwil ar wella iechyd neu ofal cymdeithasol, a chynhyrchu cyfoeth
• Perthnasedd ymchwil i gleifion, defnyddwyr gwasanaeth a’r cyhoedd
• Ymrwymiad eglur i gynnwys y cyhoedd ac ymgysylltu â'r cyhoedd
• Tystiolaeth o gyfraniad personol at Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
Bydd Uwch Arweinwyr Ymchwil Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n ymgymryd â nifer o weithgareddau yn eu rôl. Byddant yn llysgenhadon ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a chwarae rôl arweiniol mewn cynyddu proffil ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru i lefel genedlaethol a rhyngwladol.
Bydd yr Uwch Arweinwyr Ymchwil yn cefnogi’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr addawol yng Nghymru trwy Gynllun Mentora Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Bydd cyfnod peilot y cynllun hwn, a fydd yn cael ei lansio cyn bo hir, yn canolbwyntio ar baru Uwch Arweinwyr Ymchwil â myfyrwyr a chymrodyr y mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n eu hariannu, mewn perthynas fentora ddatblygiadol.
Y rhai sydd wedi’u penodi ar gyfer 2016-2019 o Brifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ yw:
Rhiannon Tudor Edwards – Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau () Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ (BIHMR)
Dyfrig Hughes[EE1] – Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau (E) Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ (BIHMR)
Peter Huxley – Ganolfan ar gyfer Iechyd Meddwl a Chymdeithas () a’r Ysgol Gwyddorau Cymdeithas
Richard Neal – Ganolfan Ymchwil Gofal Sylfaenol Gogledd Cymru, Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ (R)
Jo Rycroft-Malone – Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ ()
Bob Woods – Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ ()
Dyddiad cyhoeddi: 25 Mawrth 2016