Cost profiadau niweidiol yn ystod plentyndod i econom茂au Ewrop
Gwireb yr athronydd Groegaidd Aristotle: Mae’r wireb 'rhowch blentyn i mi nes y bydd yn 7 oed a byddaf yn dangos y dyn i chi' yn dod i’r amlwg wrth i ymchwil newydd ddangos amcangyfrif o gostau profiadau niweidiol yn ystod plentyndod i'r oedolion dan sylw ac i gymdeithas yn 28 o wledydd Ewrop.
Mae profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn cynnwys dioddef camdriniaeth, bod yn dyst i drais yn y cartref neu'r gymuned, a byw gydag anawsterau teuluol fel rhieni’n cam-drin sylweddau. Mae gorfod dioddef straen o'r fath yn gysylltiedig ag iechyd a lles gwaeth trwy gydol oes, gan ddylanwadu ar ddatblygiad niwrolegol, biolegol a chymdeithasol plant. Mae'n cynyddu eu tueddiad i ddioddef anawsterau cymdeithasol fel cyrhaeddiad addysgol isel, ymddygiad niweidiol fel ysmygu, a salwch meddwl a chorfforol. Er bod llawer o bobl sydd wedi dioddef profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn mynd ymlaen i fyw bywydau iach, hapus a chynhyrchiol, mae'r rhai sydd wedi dioddef mwy o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn fwy tebygol o ddioddef afiechyd, cyrhaeddiad addysgol is ac amddifadedd cymdeithasol.
Mae pob un o'r rhain yn arwain at gostau cymdeithasol ac economaidd mawr. Mae meta-ddadansoddiad newydd o'r astudiaethau sydd ar gael, a gyhoeddwyd yn The Lancet Public Health (Vol 6 November 2021 ), gan ymchwilwyr iechyd cyhoeddus ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料 ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn darparu tystiolaeth glir i lunwyr polisi ledled Ewrop ei hystyried wrth bennu blaenoriaethau i’r cyfnod ôl-COVID.
Mae'r astudiaeth newydd yn amcangyfrif cost profiadau niweidiol yn ystod plentyndod i 28 o wledydd Ewrop, yn seiliedig ar ddadansoddiad o’r nifer cynyddol o astudiaethau ymchwil ar y pwnc yn ddiweddar. Ym mhob un o'r 28 gwlad, roedd costau y gellir eu priodoli i brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn fwy na 1% o'r cynhyrchion domestig gros cenedlaethol, gyda'r gyfran ganolrifol yn 2.6%.
Meddai’r Athro Athro Karen Hughes o’r WHO Collaborating Centre on Investment for Health and Well-being yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac awdur cyntaf yr astudiaeth:
“Mae’n hanfodol bod costau economaidd tymor hir profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn cael eu hystyried pan fydd gwledydd yn dod allan o’r pandemig.”
Efallai bod y pandemig wedi cynyddu cysylltiad plant â’r profiadau niweidiol hyn. Mae’r cyfyngiadau a osodwyd i reoli'r pandemig wedi cadw plant a theuluoedd yn eu cartrefi, wedi cau rhwydweithiau cymdeithasol hanfodol a strwythurau cefnogaeth, ac wedi cynyddu ffactorau risg profiadau niweidiol yn ystod plentyndod fel diweithdra a straen rhieni."
Meddai Dr Kat Ford, Swyddog Ymchwil yn yr Uned Cydweithredu Iechyd Cyhoeddus yn
Ysgol Gwyddorau Meddygol ac Iechyd y brifysgol:
“Mae ein hadolygiadau systematig blaenorol wedi edrych ar y cysylltiadau rhwng profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a chanlyniadau iechyd ac wedi amcangyfrif costau iechyd ac ariannol profiadau niweidiol yn ystod plentyndod ar lefel gyfandirol. Roedd hyn yn mesur costau ariannol profiadau niweidiol yn ystod plentyndod ar draws deg risg iechyd ac roedd cost achosion afiechyd yn UD $581 biliwn yn Ewrop a $748 biliwn yng ngogledd America; sy'n cyfateb i 2.7% o gynhyrchion domestig gros rhanbarthol Ewrop a 3.5% o gynhyrchion domestig gros gogledd America."
Meddai’r Athro Mark Bellis o Brifysgol 香港六合彩挂牌资料 a chyd-awdur y gwaith:
“Gall pobl sydd wedi dioddef profiadau niweidiol yn ystod plentyndod hefyd fod mewn mwy o berygl o achosi i’w plant eu hunain ddioddef profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, gan greu cylch rhwng cenedlaethau o adfyd plentyndod gyda chostau sylweddol parhaus i unigolion a chymdeithas.
Ond gellir atal profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a'u canlyniadau, ac osgoi eu costau trwy fuddsoddi mewn cefnogaeth blynyddoedd cynnar seiliedig ar dystiolaeth i deuluoedd a buddsoddi mewn gwasanaethau sy'n deall anghenion y rhai y mae profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn effeithio arnynt.
O ganlyniad i'r pandemig mae llawer o elfennau’r sector cyhoeddus eisoes dan bwysau ychwanegol. Ond er mwyn ceisio sicrhau dyfodol cynaliadwy, mae'n hanfodol bod ein cynlluniau adfer yn blaenoriaethu buddsoddi mewn plentyndod heb brofiadau niweidiol sy'n galluogi unigolion i fynd ymlaen i fyw bywyd iach a llewyrchus a fydd hefyd yn eu gwneud yn fwy gwydn yn gorfforol ac yn feddyliol i ymdopi ag unrhyw bandemig yn y dyfodol."
Dyddiad cyhoeddi: 9 Tachwedd 2021