Cwmn茂au fferyllol yn gwneud elw ar afiechydon prin
Mae ymchwil newydd dan arweiniad Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 yn dangos fod cwmn茂au fferyllol yn ymelwa ar gymhellion a fwriadwyd i ddatblygu rhagor o driniaethau ar gyfer afiechydon prin er mwyn rhoi hwb i'w helw.
Elw cwmn茂au
Mae ymchwilwyr wedi darganfod fod cwmn茂au sy'n gwerthu cyffuriau ar gyfer afiechydon prin (a elwir yn gyffuriau amddifad) 5 gwaith yn fwy proffidiol a bod eu gwerth ar y farchnad 15% yn uwch na chwmn茂au cyffuriau eraill.
Aeth yr astudiaeth, a wnaed gan arbenigwyr o Brifysgol 香港六合彩挂牌资料 a Phrifysgol Lerpwl, ati i archwilio perfformiad 86 o gwmn茂au, sydd wedi eu rhestru'n gyhoeddus, sy'n cynhyrchu bron i 200 o gyffuriau amddifad. Gwnaed hynny drwy gymharu 芒 258 o gwmn茂au a barwyd fel rheolyddion nad ydynt yn cynhyrchu cyffuriau amddifad.
Dywedodd yr Ymchwilydd Arweiniol, Dyfrig Hughes, Athro Ffarmacoeconomeg, , Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd, Prifysgol 香港六合彩挂牌资料: "Mae ein canfyddiadau'n cadarnhau pryderon blaenorol fod cwmn茂au'n elwa'n ormodol, ac yn gwneud hynny trwy godi prisiau uchel iawn am driniaethau ar gyfer afiechydon prin."
Afiechydon prin
Ystyrir bod afiechydon sy'n effeithio ar lai na 5 mewn poblogaeth o 10,000 yn brin. Heb gymhellion, ni fyddai cwmn茂au yn ystyried bod buddsoddi mewn triniaethau newydd yn werth chweil yn fasnachol. Mae rheoliadau sydd yn eu lle ers y flwyddyn 2000, wedi golygu fod 122 o gyffuriau amddifad wedi cael eu hawdurdodi er budd cleifion sy'n dioddef o afiechydon prin.
Costau uchel
Ond gall cyffuriau ar gyfer afiechydon arbenigol fod 芒 phrisiau uchel iawn. Codir pris o 拢14,000 y claf y mis am Kalydeco (ivacaftor), cyffur ar gyfer ffibrosis cystig. Yn wir, mae pob un o 10 cyffur drytaf y byd yn gyffuriau amddifad, a'r drytaf ohonynt yw Soliris (exlizumab) sy'n costio 拢340,000 y claf y flwyddyn. Er bod y rhain yn cael eu rhoi ar bresgripsiwn i lai o gleifion gall y prisiau uchel olygu refeniw sy'n gyfwerth 芒 blocbystyr traddodiadol. Mewn gwirionedd mae bron i draean o'r cyffuriau ar gyfer afiechydon prin 芒 gwerthiant blynyddol o fwy nag 拢1 biliwn. Mae disgwyl y bydd y farchnad cyffuriau amddifad yn fyd-eang yn cyrraedd 拢144 biliwn erbyn 2020, ac yn cyfri am 19% o gyfanswm gwerthiant cyffuriau presgripsiwn wedi eu brandio.
"Mae prisiau cynyddol cyffuriau amddifad yn duedd sy'n peri gofid ac mae'r GIG yn ei chael yn anodd rheoli'r sefyllfa," meddai'r Athro Hughes.
"Tra bo prisiau uwch i'w disgwyl, mae ein tystiolaeth ni yn dangos fod cwmn茂au yn gweld cyffuriau amddifad fel cyfle i wneud elw. Mae buddsoddwyr o'r un farn, ac mae gwerth marchnad uchel cwmn茂au cyffuriau amddifad yn dangos hynny."
Mae'r canfyddiadau'n cefnogi barn y diwydiant fferyllol. Dyma ddywedodd cyn brif weithredwr cwmni cyffuriau Shire, Angus Russel, wrth y Wall Street Journal, 鈥渓arge pharmaceutical firms watched smaller drug-makers develop drugs for orphan diseases that reached hundreds of millions or even billions in sales and followed suit.鈥
Newid polisi
Mae awduron yr astudiaeth yn argymell gwneud newidiadau polisi a fyddai'n arwain at driniaethau mwy fforddiadwy ar gyfer afiechydon prin. Mae'r cyntaf yn ymwneud 芒 sut y caiff cyffuriau amddifad eu diffinio. Tra gwneir cyffuriau amddifad ar gyfer afiechydon prin sy'n ddifrifol neu o bosibl yn peryglu bywyd, dylid gwahaniaethu rhwng cyffuriau gyda defnydd penodol ar gyfer un cyflwr (sydd fel arfer yn afiechydon etifeddol prin iawn), a'r rhai hynny a ddefnyddir ar gyfer sawl cyflwr.
Gellir cynllunio'r cymhellion - sy'n cynnwys cyfnod o 10 mlynedd fel yr unig gyffur o'i fath ar y farchnad - yn well, a'u cysylltu 芒 faint o refeniw y mae pob cyffur yn ei wneud. Dylid hefyd ad-dalu cwmn茂au yn defnyddio prisiau sy'n adlewyrchu'r well beth yw gwerth y feddyginiaeth.
Yn olaf, mae'n glir fod lle i elfennau anfasnachol, o ran bod yn rhan o鈥檙 gwaith datblygu ac o ran perchnogaeth, er mwyn annog cymhellion cymdeithasol ar gyfer datblygu cyffuriau amddifad.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Hydref 2016