Cydnabod Cyfraniad Oes
Derbyniodd Gwerfyl Roberts, Uwch-Ddarlithydd yn yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd, Wobr Cyfraniad Oes yn ystod Llywodraeth Cymru yn ddiweddar.
Mae Digwyddiad Dathlu Mwy na Geiriau yn cydnabod ac yn dathlu pwysigrwydd darparu
Gwasanaethau cyfrwng Cymraeg yn y maes iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol, a鈥檙 gwaith eithriadol sy鈥檔 cael ei gyflawni gan unigolion a thimau.
Yn ogystal 芒鈥檙 gwobrwyon a ddyfarnwyd a鈥檙 gydnabyddiaeth a roddwyd i unigolion a th卯mau o fewn gofal iechyd yng Nghymru, dyfarnwyd un Wobr Cyfraniad Oes.
Wrth ddyfarnu鈥檙 wobr i Gwerfyl, dywedodd Andrew Goodall, Prif Weithredwr y GIG yng Nghymru:
鈥淢ae鈥檔 fraint gen i gyflwyno gwobr cyrhaeddiad oes i unigolyn sydd wedi bod yn ysbrydoliaeth ac sydd wedi gweithio鈥檔 ddi-flino er mwyn gwella ansawdd darpariaeth gofal iechyd dwyieithog ers blynyddoedd. Mae wedi cyhoeddi gwaith arloesol ar sawl pwnc, gan amlinellu鈥檙 profiad Cymreig a gosod y cyd-destyn rhyngwladol. Mae hi hefyd wedi cyfrannu at waith sawl Bwrdd a gweithlu, yn aml yn cynghori Llywodraeth Cymru, ac mae ei phrofiad wedi gwneud gwahaniaeth ac wedi cael dylanwad positif ar bolisi cyhoeddus yng Ngghymru.鈥
Dywedodd Llywydd y Gynhadledd, Angharad Mair:
鈥淟longyfarchiadau mawr i Gwerfyl, sy鈥檔 llawn haeddu鈥檙 wobr yma am ei chyfraniad dros y blynyddoedd ac am ysbrydoli eraill. Dyma enghraifft dda o rywun sydd wedi arwain a gwneud gwahaniaeth y tu 么l i鈥檙 llenni.鈥
Dyma oedd ymateb Gwerfyl:
鈥淏raint ac anrhydedd o鈥檙 mwyaf yw derbyn y wobr hon. Wrth edrych n么l ar fy ngyrfa, dwi鈥檔 teimlo鈥檔 hynod ffodus fy mod i wedi gallu cyfuno dau faes gwaith sydd mor agos at fy nghalon, sef hyrwyddo鈥檙 Gymraeg a gofal iechyd.鈥
Un arall i longyfarch Gwerfyl ar ei gwobr oedd Yr Athro Chris Burton, Pennaeth yr Ysgol, a ddywedodd:
鈥淕all iaith fod yn beth neilltuol o bwysig ym maes gofal iechyd; yn aml iawn rydym yn gofyn am wybodaeth bersonol iawn gan bobl, ac mewn nifer o achlysuron gall yr unigolyn deimlo鈥檔 ddigon bregus. Mae darparu gwasanaethau sy鈥檔 cydnabod anghenion ieithyddol cleifion a defnyddwyr yn greiddiol er mwyn ateb gofynion eu gofal 芒 pharch ac urddas. Mae Gwerfyl wedi bod wrth wraidd y gwelliannau i wasanaethau cyfrwng Cymraeg ar hyd a lled Cymru ac mae ei gwaith caled a鈥檌 hymroddiad wedi arwain at wella鈥檙 gwasanaeth y mae nifer fawr o bobl yn ei dderbyn gan y GIG yng Nghymru 鈥 o blant bach uniaith Gymraeg hyd at oedolion 芒 dementia neu gyflyrau eraill sy鈥檔 tarfu ar eu gallu i gyfathrebu mewn iaith tu hwnt i鈥檞 mamiaith. Ar ben hyn, mae鈥檙 datblygiadau hyn wedi cael eu mabwysiadu gan nifer o ranbarthau dwyieithog eraill ar hyd a lled y byd, megis Canada a Gwlad y Basg.鈥
Fis nesaf, bydd Gwerfyl yn teithio i Ottawa i rannu ei harbenigedd. Yn gyntaf, bydd yn cymryd rhan mewn cynhadledd ryngwladol y Soci茅t茅 Sant茅 en Fran莽ais ac yna鈥檔 cyd-gadeirio pwyllgor y Canada鈥檚 Health Standards Organisation (HSO) Technical Committee for Communication in Health Services . Tasg presennol y Pwyllgor yw dylunio, ar y cyd, safonau ar sail tystiolaeth er mwyn gwella mynediad at wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol sy鈥檔 ddiogel ac o safon uchel ar gyfer pobl o gr诺piau ieithoedd lleiafrifol swyddogol Canada.
Mae prif ddiddordeb ymchwil Gwerfyl yn canolbwyntio ar weithredu a chryfhau鈥檙 sylfaen dystiolaeth ar gyfer ymarfer priodol o ran iaith mewn iechyd a gofal cymdeithasol. Mae wedi cael ei chomisiynu gan Lywodraeth Cymru i arwain LLAIS, gwasanaeth cefnogi methodoleg ymwybyddiaeth o鈥檙 iaith Gymraeg i鈥檙 Sefydliad Cenedlaethol Ymchwil Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (NISCHR). Mae Gwerfyl yn aelod o Dasglu Llywodraeth Cymru dros y Gymraeg yn y Gwasanaeth Iechyd ac o鈥檙 Gr诺p Llywio Gweinidogaethol ar gyfer Fframwaith Strategol 2012-2015 i Wasanaethau Cymraeg mewn Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol. Mae鈥檔 ffigwr amlwg ym maes darparu addysg nyrsio cyfrwng Cymraeg, ac mae hefyd yn cynrychioli鈥檙 disgyblaethau iechyd ar fwrdd academaidd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a sefydlwyd yn 2011.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Hydref 2017