Cydweithio i ddatblygu a gweithredu Rhaglen Nyrs Gyswllt newydd i Atal Heintiau
Sefydlwyd project newydd ar y cyd rhwng Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ddatblygu rhaglen newydd i hyrwyddo arfer gorau mewn atal heintiau. Mae staff o'r t卯m Atal Heintiau Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a staff a myfyrwyr o'r Ysgol wedi cydweithio i ddatblygu rhaglen bwrpasol i nyrsys cyswllt mewn lleoliadau ysbytai cymunedol.
Bwriad y rhaglen yw cefnogi staff yn eu swyddogaeth newydd a rhoi cyfleoedd iddynt adfyfyrio a dysgu, ac mae'n cynnwys cwrs ar-lein newydd a gynlluniwyd gan d卯m y project. Bydd y cwrs yn cynnwys canolbwyntio ar gynyddu gwybodaeth a sgiliau am atal heintiau, a hefyd hyrwyddo dysgu am newid ymddygiad mewn sgiliau ymarfer ac arwain, ac yn cynnig cyfleoedd strwythuredig i adfyfyrio am arfer orau wrth ofalu am gleifion. Mae cyswllt rhwng pob cwrs 芒 bwrdd trafod ar-lein i hyrwyddo rhwydweithio a chefnogi, y gall nyrsys cyswllt fynd iddo ar adeg pan fydd yn gyfleus iddynt. Caiff y rhaglen ei gwerthuso yn 2017.
Dywed Dr Lynne Williams o'r Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd:
鈥淩ydym wrth ein bodd o fod yn gweithio gyda'r t卯m Atal Heintiau ar y fenter gyffrous hon. Nid yw rhaglenni nyrs gyswllt yn rhywbeth newydd mewn nyrsio, ond nid oes llawer o dystiolaeth i ddangos yn union eu cyfraniad at hyrwyddo arfer gorau. Rydym wedi cydweithio i ddatblygu rhaglen gynhwysfawr sy'n annog adfyfyrio ar ymarfer, a chynnig cyfle i nyrsys cyswllt oedi a meddwl am faterion, a hyrwyddo eu datblygiad eu hunain fel arweinwyr yn y maes ymarfer hynod o bwysig hwn."
Dyddiad cyhoeddi: 17 Ionawr 2017