Cydweithrediad a sut i'w feithrin yw thema allweddol sgwrs Bocs Sebon Gwyddoniaeth
Bydd Pippa Beston, sydd yn fyfyrwraig PhD yn Ysgol Seicoleg 香港六合彩挂牌资料, yn teithio i Abertawe i gymryd rhan mewn digwyddiad Bocs Sebon Gwyddoniaeth ar 8 Gorffennaf. Mae hi鈥檔 rhan o draddodiad hir yn Ysgol Seicoleg 香港六合彩挂牌资料 o gymryd rhan yn y digwyddiad hwn, gan ddilyn yn 么l troed yr Athro Emily Cross a Dr Kami Koldewyn.
Barn Pippa yw bod hygrededd gwyddoniaeth ac 'arbenigwyr' dan warchae yn yr hinsawdd wleidyddol sydd ohoni a chred ei bod yn bwysig iawn bod y cyhoedd yn dod wyneb yn wyneb 芒 gwyddoniaeth yn eu bywydau beunyddiol ac yn deall beth ydyw, sut mae'n gweithio a pham ei bod mor hanfodol i ddatblygiad cymdeithas. Dywedodd Pippa, "Mae bod yn rhan o ddigwyddiad megis y Bocs Sebon Gwyddoniaeth a chael annog pobl i ymddiddori mewn ymchwil wyddonol ac i feddwl yn yr un ffordd 芒 gwyddonwyr yn gyfle cyffrous. Dw i'n edrych ymlaen yn fawr at fy nghyfle cyntaf i estyn allan at y cyhoedd a siarad am seicoleg gymdeithasol a chydweithio."
Yn ei hymchwil, mae hi ar hyn o bryd yn edrych ar gydweithrediad a'r amodau lle gall ffynnu a dirywio. Tra bu'n gwneud ei PhD, bu'n edrych ar swyddogaeth cosbi fel rhan o gydweithredu, e.e. enwi a chywilyddio o gymharu 芒 dirwyon ariannol. Dywedodd Pippa, "Dw i hefyd wedi darganfod bod yr amgylchedd cymdeithasol lle mae'r rhyngweithiadau hyn yn digwydd yn gwneud gwahaniaeth o ran penderfyniadau pobl i gydweithredu, gan newid pa mor effeithiol yw gwahanol gosbau. Dw i'n edrych ymlaen yn fawr at ennyn diddordeb y cyhoedd wrth drafod yr ymchwil yma yngl欧n 芒 sut y gall seicoleg gynnig atebion i ni am sut i feithrin cydweithredu sefydlog rhwng unigolion a chymdeithasau."
Yr Athro Guillaume Thierry yw goruchwyliwr Pippa a nododd "Roeddwn i wedi gwirioni cael clywed y bydd Pippa yn rhoi sgwrs yn nigwyddiad Bocs Sebon Gwyddoniaeth Abertawe 2017. Mae Pippa yn fyfyrwraig PhD siriol a disglair ac mae ganddi lawer iawn o empathi ac ymwybyddiaeth gymdeithasol. Mae hi'n un o'r myfyrwyr prin hynny sy'n poeni, nid yn unig am ansawdd y wyddoniaeth y mae hi鈥檔 ymdrin 芒 hi, ond hefyd, am berthnasedd ei hymchwil i gymdeithas. Mae Pippa yn ysbrydoliaeth i'w chyd-fyfyrwyr ac mae cael rhoi'r sgwrs hon yn y digwyddiad bocs sebon yn gydnabyddiaeth o'i hysgogiad a'i hymrwymiad."
Dyddiad cyhoeddi: 29 Mawrth 2017