Cymdeithas Alzheimer yn ymrwymo bron i 拢2filiwn i chwyldroi ymchwil i ofal dementia
Mae Cymdeithas Alzheimer wedi cyhoeddi ar 20fed Mehefin ei bod wedi ymrwymo bron i 拢2filiwn i gr诺p o brifysgolion a sefydliadau yn y Deyrnas Unedig, gan gynnwys Prifysgol 香港六合彩挂牌资料, fel rhan o'i buddsoddiad unigol mwyaf erioed mewn ymchwil gofal dementia. Arweinir y cynllun gan Brifysgol Caerwysg.
Buddsoddir y grant ymchwil dros bum mlynedd gan alluogi ymchwilwyr arbenigol ym Mhrifysgol Caerwysg i greu 'Canolfan Rhagoriaeth'. Bydd y Ganolfan yn canolbwyntio ar wella ansawdd bywyd i bobl 芒 dementia a rhoi hwb i nifer o ymchwilwyr sy'n gweithio ym maes gofal dementia.
Dywedodd Colin Capper, Pennaeth Datblygu Ymchwil y Gymdeithas Alzheimer: "Mae鈥檔 debygol mai dementia fydd y lladdwr mwyaf yn yr unfed ganrif ar hugain ac ar hyn o bryd does dim gwella iddo. Gyda 850,000 o bobl yn byw gyda dementia, a disgwyl i鈥檙 nifer yma godi, mae brys mawr i ddarparu gofal da ar gyfer pobl 芒 dementia. Fodd bynnag, nid yw鈥檙 gofal presennol bob amser o鈥檙 safon y mae pobl 芒 dementia yn ei haeddu, gyda rhai gwaetha鈥檙 modd yn cael bywyd o ansawdd gwael.鈥
"Heddiw rydym yn gosod y sylfeini ar gyfer adeiladu rhwydweithiau o ymchwilwyr rhyngwladol cydnabyddedig mewn gofal dementia yn y DU. Rydym yn gwneud buddsoddiadau mawr a fydd yn cyfrannu鈥檔 helaeth tuag at wella gofal a chymorth i bobl yr effeithir arnynt gan ddementia."
Bydd grant ymchwil Prifysgol Caerwysg yn ariannu ail gam astudiaeth genedlaethol ar raddfa fawr o鈥檙 enw Improving the Experience of Dementia and Enhancing an Active Life (IDEAL). Mae鈥檔 gweithredu er 2014 a鈥檌 nod yw deall sut i helpu pobl i fyw yn dda gyda dementia gan ystyried profiadau pobl sydd 芒 dementia, a'u gofalwyr, dros gyfnod o chwe blynedd.
Mae鈥檙 astudiaeth yn cynnwys ymchwilydd o Fangor, Dr John Hindle, ac mae鈥檔 gynllun ar y cyd dan arweiniad Caerwysg gyda phrifysgolion Caerdydd, Brunel, Newcastle a Sussex, King鈥檚 College Llundain, Ysgol Economeg Llundain, y Ganolfan RICE yng Nghaerfaddon ac Innovations in Dementia CIC.
Mae'n cynnwys 1,570 o bobl 芒 dementia ysgafn i gymedrol a 1,300 o ofalwyr. Cafodd y cyfranogwyr eu cyfweld gan ymchwilwyr arbenigol yn eu cartrefi i ddechrau rhwng 2014 a 2016 ac yna drachefn ar 么l 12 mis a 24 mis.
Ynghyd 芒 galluogi鈥檙 astudiaeth i barhau am dair blynedd bellach, bydd y cyllid yn caniat谩u i ymchwilwyr ychwanegu profiadau pobl o gefndiroedd du a lleiafrifoedd ethnig a phobl gyda dementia dwys. Ar ddiwedd yr astudiaeth, bydd yr ymchwilwyr yn defnyddio eu canfyddiadau i osod canllawiau ar sut i helpu pobl yr effeithir arnynt gan ddementia i gael bywyd o鈥檙 ansawdd gorau posibl.
Dywedodd yr Athro Linda Clare o Brifysgol Caerwysg a chyn academydd o Fangor, sy'n arwain y rhaglen ymchwil: "Mae'r cyllid hwn yn caniat谩u inni arwain cynllun cydweithredol cenedlaethol i wella ansawdd bywyd i bobl 芒 dementia. Mae'n hanfodol bwysig bod pobl 芒 dementia yn gallu byw mor dda 芒 phosibl. Bydd y Ganolfan Ragoriaeth yn cefnogi'r flaenoriaeth frys, a bydd ein gwaith ymchwil sylweddol yn gwella ein dealltwriaeth o ba ffactorau sy'n dylanwadu ar bobl sydd 芒 dementia o ran cael bywyd o ansawdd da fel mae鈥檙 cyflwr yn gwaethygu. Bydd hyn yn ein helpu i ddatblygu strategaethau a mentrau a fydd yn gwneud gwelliannau go iawn i bobl sy'n byw 芒 dementia ar gamau gwahanol o'u cyflwr."
Dywedodd yr Athro Bob Woods, Cyfarwyddwr y ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料: "Rydym yn croesawu'r buddsoddiad hwn mewn ymchwil gan Gymdeithas Alzheimer i鈥檙 hyn sy鈥檔 helpu pobl sydd 芒 dementia a'u cefnogwyr i gael profi gwell ansawdd bywyd. Rydym yn edrych ymlaen at barhau i gydweithio gyda鈥檔 cyn-gydweithiwr, yr Athro Linda Clare, a鈥檙 t卯m yng Nghaerwysg i fynd 芒鈥檙 gwaith pwysig hwn ymlaen."
Roedd Keith Oliver, o Gaint, yn brifathro llwyddiannus pan gafodd ddiagnosis o dementia sy'n dechrau'n gynnar pan oedd ond yn 54 oed. Mae wedi rhoi'r gorau i weithio erbyn hyn, ac wedi mabwysiadu ystod o strategaethau, megis cadw dyddiadur manwl i gefnogi ei amserlen brysur o waith i godi ymwybyddiaeth o faterion dementia. Dywedodd Keith, sy鈥檔 aelod ar Fwrdd Cynghori IDEAL: "Mae cael ymchwil ar raddfa fawr, tymor hir, mor bwysig i ddyfodol gofal dementia. Rwy鈥檔 hyderus y bydd yn cynhyrchu gwybodaeth ardderchog a fydd yn bwydo i mewn i gynlluniau gofal pobl pan fyddant yn cael diagnosis o ddementia. Dim ond trwy ddod i wybod mwy am ddementia y gallwn gefnogi pobl i gael bywyd da gyda dementia."
Bydd buddsoddiad unigryw Cymdeithas Alzheimer yn caniat谩u i fwy o ymchwilwyr fynd i'r afael 芒 rhai o'r problemau mwyaf dybryd mewn ymchwil gofal dementia a sicrhau bod y DU ar y trywydd iawn i fod yn arweinydd byd mewn darparu鈥檙 gofal gorau posibl i bobl 芒 dementia.
Meddai Colin Capper ymhellach: 鈥淢ae meddwl am botensial y Canolfannau Rhagoriaeth i wella gofal yn gyffrous iawn ac rydym yn gobeithio sefydlu canolfannau pellach dros y blynyddoedd i ddod.
Mae鈥檙 canolfannau hyn yn enghraifft ragorol o鈥檙 ffordd y gall gweithio鈥檔 unedig yn erbyn dementia, a gwrando ar y rhai y mae鈥檔 effeithio arnynt, ynghyd ag ymchwil o鈥檙 radd flaenaf, beri newidiadau gwirioneddol a pharhaol. Mae hwn yn gyfle unigryw i gydweithio gyda darparwyr gofal iechyd a chymdeithasol a gwneuthurwyr polisi.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 29 Mehefin 2017