Cymryd bath poeth yn helpu T卯m Cymru i baratoi ar gyfer gwres Gemau'r Gymanwlad yn Awstralia
Mae'n debyg y bydd y tymheredd yn uwch na 30掳C ar yr Arfordir Aur yn Awstralia a bydd y gwres yn rhoi straen sylweddol ar yr athletwyr sy'n cystadlu yn Gemau'r Gymanwlad.
Er mwyn paratoi at y gwres, mae athletwyr T卯m Cymru wedi bod yn neidio i mewn i fath poeth ar 么l eu sesiynau hyfforddi. Meddai Rob Condliffe, sy'n ffisiolegydd yn Athrofa Chwaraeon Cymru ac sy'n helpu i baratoi athletwyr T卯m Cymru at Gemau'r Gymanwlad, "Mae'r bath poeth yn ddull ymarferol iawn sy'n seiliedig ar dystiolaeth o ddod i arfer 芒 gwres".
Mae hwn yn ddull effeithiol o ddod i arfer 芒 gwres a chafodd ei ddatblygu gan yr Athro Neil Walsh a'i gydweithwyr ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料. Dangosodd yr ymchwil gwreiddiol bod cymryd bath poeth ar 么l ymarfer mewn tywydd oer am chwe diwrnod yn gostwng tymheredd y corff wrth orffwys ac wrth ymarfer ac yn gwella perfformiad wrth redeg yn y gwres. Un o gryfderau'r dechneg hon yw ei bod yn fwy ymarferol na strategaethau confensiynol o ddod i arfer 芒 gwres lle mae'n rhaid i'r athletwyr naill ai hyfforddi mewn gwres mewn siambr amgylcheddol neu deithio i wlad boeth i hyfforddi yn y gwres.
Meddai Dr Sam Oliver, un o gydweithwyr yr Athro Walsh yn Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer y Brifysgol, "Y manteision perfformiad sylweddol sydd i'w cael yn y gwres a symlrwydd y dull yma wnaeth fy annog i rannu'r strategaeth bath poeth efo Chwaraeon Cymru yn fy r么l fel Ymgynghorydd Ffisioleg Amgylcheddol Sefydliad Gwyddorau Perfformiad Cymru".
Dywedodd Bethan Davies, sy'n gerddwraig rasio yn Nh卯m Cymru ac sydd wedi bod yn defnyddio'r bath poeth wrth hyfforddi:
"Mae'n ddull anarferol a 'chydig yn rhyfedd o baratoi, ond mae'n hwyl, yn enwedig gan ei bod hi wedi bod yn oer y tu allan.
"Ro'n i'n poeni braidd pa mor boeth fyddai'r bath ar 么l i rywun ddweud y byddai'n 40 gradd ond a dweud y gwir mae'n ddigon hawdd dygymod efo'r gwres. Mi wnes i ddechrau trwy wneud 15 munud ac yna wneud 5 munud yn fwy bob tro - dwi hyd yn oed wedi trio'r dechneg yn Sbaen. Mae'n llawer haws na defnyddio siambr wres ac mi fedra i hyfforddi yn 么l yr arfer ac wedyn defnyddio'r bath yn lle gorfod defnyddio melin draed wrth hyfforddi sy'n gallu effeithio ar dechneg rhywun."
Llun: Bethan Davies, cerddwraig rasio gyda T卯m Cymru yn mwynhau bath poeth yn dilyn sesiwn hyfforddi
Dyddiad cyhoeddi: 26 Mawrth 2018