Cyn-fyfyrwyr PhD Ysgol Gwyddorau Chwaraeon yn sicrhau r么l ym mhrosiect CALIN
Llongyfarchiadau i Sophie Harrison a Matt Boulter sydd, ar ôl cwblhau eu PhD dros y 4 blynedd diwethaf yn yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer, wedi'i recriwtio i ddychwelyd i'r Brifysgol i weithio gyda staff yn yr adran Seicoleg ar y prosiect rhyngwladol cyffrous CALIN sy'n canolbwyntio ar gwyddorau bywyd. O'r 2il Mehefin bydd Matt yn gweithio ochr yn ochr â Dr Caroline Bowman ar ei phrosiect CALIN. Pwrpas prosiect CALIN yw helpu i ddatblygu cynhyrchion, gwasanaethau ac arferion sy'n seiliedig ar ymchwil gyda ffocws cysylltiedig â busnes. Yn benodol, bydd y prosiect yn edrych ar ddatblygu ffyrdd o hyrwyddo ffyrdd iach o fyw sy'n cynnwys ymyriadau iechyd meddwl a hyfforddiant sgiliau cyfathrebu, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt.
Pan ofynnwyd iddynt am y prosiect, dywedodd Sophie "Yn dilyn ymlaen o fy PhD yn SHES, rwy'n gyffrous i ddefnyddio'r sgiliau rydw i wedi'u datblygu i gynnal ymchwil gyda busnesau yng Nghymru ac Iwerddon yn fy rôl newydd fel Swyddog Arloesi Ymchwil a Datblygu ar brosiect CALIN" tra nododd Matt “Rwy’n gobeithio cael effaith gadarnhaol ar y prosiect gyda fy arbenigedd ym maes personoliaeth, arweinyddiaeth, a dynameg gr诺p yr wyf wedi’u datblygu yn yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer yn ystod fy PhD."
Dyma enghraifft wych o sut y gellir cymhwyso'r sgiliau trosglwyddadwy a ddatblygwyd trwy gydol cwrs gradd Prifysgol mewn sawl disgyblaeth ac mae'n tynnu sylw at y cysylltiadau agos rhwng meysydd ymchwil yn yr ysgol Seicoleg a’r Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer.
Mae CALIN yn weithrediad Interreg rhwng Cymru ac Iwerddon a sefydlwyd i gefnogi gwaith ymchwil a datblygu ym maes busnesau gwyddorau bywyd bach a chanolig yng Ngorllewin Cymru a Dwyrain a De Iwerddon. Mae'r fenter traws-ffiniau hon dod â phrifysgol o Gymru a phrifysgol o'r Iwerddon ynghyd â busnes bach i ganolig er mwyn creu datblygiadau ym maes y gwyddorau bywyd.
Ers i CALIN gael ei sefydlu yn 2016, mae'r chwe prifysgol arall sy'n bartneriaid ynddo – Prifysgol Abertawe, Prifysgol 香港六合彩挂牌资料, Coleg Prifysgol Dulyn, Sefydliad Tyndall, Prifysgol Genedlaethol Iwerddon (Galway) a Phrifysgol Caerdydd – wedi helpu mwy na 150 o gwmnïau ac wedi sefydlu 40 o brosiectau cydweithredol byrdymor a thymor canolig.
Mae 香港六合彩挂牌资料 yn arwain ar y thema newydd iechyd a lles ar gyfer rhan dau o'r project. Y prif ymchwilwyr yn y Brifysgol yw John Parkinson, Deon Coleg y Gwyddorau Dynol, Lynne Williams, Pennaeth Ysgol Gwyddorau Iechyd, Jamie Macdonald, Pennaeth yr Ysgol Chwaraeon, Iechyd a Gwyddorau Ymarfer Corff a Caroline Bowman, Pennaeth yr Ysgol Seicoleg. Byddent yn gweithio gyda chwmnïau bach a chanolig ar projectau megis lles o fewn y sefydliad, hyrwyddo iechyd a dylunio ac arloesi gwasanaethau.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Mai 2021