Darlith yn canolbwyntio ar ymyriad cynnar yng ngofal plant
Bydd Graham Allen, ymgyrchydd blaenllaw dros sefydlu鈥檙 Early Intervention Foundation, yn traddodi darlith dan y teitl 鈥Early Intervention - why leave it so late?鈥 nos Fawrth 6 Chwefror 2018 am 6pm yn Narlithfa Eric Sunderland (Prif Ddarlithfa鈥檙 Celfyddydau), Prifysgol 香港六合彩挂牌资料. Hon yw Darlith Goffa Flynyddol Anne Marie Jones 2018 a drefnir eleni gan Ymddiriedolaeth Ymyrraeth Gynnar Plant, a leolir ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料. Mae鈥檔 ddarlith gyhoeddus sy鈥檔 rhad ac am ddim ac yn agored i bawb.
Bu Graham Allen yn Aelod Seneddol am 30 o flynyddoedd rhwng 1987-2017 dros etholaeth hynod ddifreintiedig Nottingham North, lle鈥檌 ganed.
Meddai鈥檙 Athro Judy Hutchings o Ganolfan Ymyrraeth Gynnar ar Sail Tystiolaeth Ysgol Seicoleg y Brifysgol:
鈥淩ydym yn ffodus iawn o gael Graham i siarad ar drothwy ein Cynhadledd Flynyddol am ei arddeliad dros ymyriad cynnar a鈥檙 heriau rydym yn eu hwynebu wrth sicrhau cydraddoldeb cyfle i鈥檔 holl blant. Ef oedd y llais mwyaf dylanwadol dros ymyriad cynnar i blant difreintiedig yn gymdeithasol dros lawer o鈥檌 gyfnod yn y Senedd. Roedd yn Aelod Seneddol gweithgar dros ei etholaeth a thros ymyriad cynnar i roi cefnogaeth i deuluoedd, a throdd hynny鈥檔 brif thema ei ymgyrchu ymroddedig, a chyfrannodd yn hael o鈥檌 amser i hyrwyddo ymyriad cynnar yn genedlaethol.鈥
Fel yr esbonia Graham Allen:
鈥淐afodd ymyriad cynnar ei ddatblygu fel syniad ym maes babanod, plant a phobl ifanc鈥. Mae ymyriad cynnar yn cynnwys amrediad o bolis茂au鈥檔 ymdrin 芒鈥檙 cylch oedran o 0 at 18. Bwriad y polis茂au hyn yw torri鈥檙 continwwm o amddifadedd, tan-gyrhaeddiad a thlodi dyhead o un genhedlaeth i鈥檙 llall. Sylfaen y dull yw hybu medrau cymdeithasol ac emosiynol ymysg babanod, plant a phobl ifanc. Dim ond gyda鈥檙 sylfaen gadarn hon y byddant yn mynd ymlaen i ddatblygu ymhellach ar eu sgiliau ieithyddol a鈥檜 cyrhaeddiad academaidd ac yn meithrin y gallu i fagu teuluoedd gwych eu hunain.鈥
Daeth Graham yn Gadeirydd Gweithredol Partneriaeth Strategaeth Leol Nottingham yn 2005 a lansio One Nottingham, 鈥楧inas Ymyriad Cynnar鈥 gyntaf Prydain. Yn 2007 ysgrifennodd, gydag Iain Duncan-Smith, 鈥Early Intervention: good parents, great kids, better citizens鈥, a fu鈥檔 hynod ddylanwadol ac a danlinellai ei arddeliad dros gyflawni pethau drwy weithio鈥檔 drawsbleidiol.
Ym Mehefin 2010, mewn ymateb i gais gan y Prif Weinidog, David Cameron, cynhaliodd Adolygiad Annibynnol o Ymyriad Cynnar i Lywodraeth ei Mawrhydi, gan lunio dau adroddiad dylanwadol, 鈥Early Intervention: the next steps鈥 (Ionawr 2011) ac 鈥Early Intervention: Smart Investment, Massive Savings鈥, (Gorffennaf 2011). Cyfrannodd yr Athro Hutchings i鈥檙 adroddiadau hyn a rhoddwyd cydnabyddiaeth i waith ymyriad cynnar Prifysgol 香港六合彩挂牌资料.
Arweiniodd yr adroddiadau at sefydlu ac ariannu鈥檙 Early Intervention Foundation fel corff cenedlaethol a lansiwyd yn Chwefror 2013 gyda Graham Allen yn gadeirydd arno.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Ionawr 2018