Darlithoedd difyr ym Methesda
O zombies y Mabinogi i鈥檙 Gymraeg ar Facebook; o faes seicoleg plant i l锚n Cymry Llundain ac o sinema鈥檙 Eidal i ddyfnderoedd y Titanic, bydd rhai o darlithwyr mwyaf dawnus Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 yn ymweld 芒 Neuadd Ogwen, Bethesda, yn ystod y chwech wythnos nesaf i drafod ystod eang o bynciau.
Mae Cyfres 6 yn gyfres newydd o ddarlithoedd cyhoeddus cyfrwng Cymraeg sy鈥檔 cynnig cipolwg ar feysydd cwbl amrywiol dan ofal arbenigwyr cenedlaethol yn eu meysydd.
Gan gychwyn ar nos Iau, 6 Tachwedd, gyda Dr Aled Llion Jones o Ysgol y Gymraeg yn trafod 鈥榋ombies Gwyddelig, Moch yr Apocalyps a phroblemau eraill Cymry鈥檙 Mabinogi鈥 gallwch weld nad darlithoedd sych mo rhain! Defnydd o鈥檙 Gymraeg ar Facebook yw testun yr ail ddarlith gan Dr Cynog Prys o Ysgol Gwyddorau Cymdeithas. Bydd y gyfres yn parhau gyda darlithoedd wythnosol ar seicoleg plant, sinema鈥檙 Eidal, hanes yr achosion llys a gafwyd wedi llongddrylliad y Titanic a bydd y ddarlith olaf yn trafod ll锚n Cymry Llundain.
Meddai Rhodri Evans, Swyddog Project yn swyddfa鈥檙 Dirprwy Is-ganghellor, Yr Athro Jerry Hunter, a threfnydd y gyfres newydd:
鈥淵 bwriad yw creu cyfres o ddarlithoedd cyhoeddus a fydd yn apelio at gynulleidfa amrywiol a hynny mewn canolfan newydd a chyffrous ar y Stryd Fawr. Mae cyswllt hanesyddol hysbys rhwng y Brifysgol ac ardal Dyffryn Ogwen a鈥檙 gobaith yw y bydd y gyfres newydd hon yn parhau ac yn ychwanegu at y cyswllt hwnnw.鈥
Cyfres 6 (pob darlith ar nosweithiau Iau rhwng 7 a 9 o鈥檙 gloch)
Tachwedd 6: 鈥樷, Dr Aled Llion Jones, Ysgol y Gymraeg.
Tachwedd 13: 鈥樷, Dr Cynog Prys, Ysgol Gwyddorau Cymdeithas
Tachwedd 20: 鈥樷, Dr Nia Griffith, Ysgol Seicoleg
Tachwedd 27: 鈥樷, Dr Gerwyn Owen, Ysgol Diwydiannau Creadigol a鈥檙 Cyfryngau
Rhagfyr 4: 鈥樷, Dr Hayley Roberts, Ysgol y Gyfraith
Rhagfyr 11: 鈥樷, Dr Tomos Owen, Ysgol Saesneg.
Mynediad am ddim a chroeso i bawb ond bydd angen archebu eich tocynnau o flaen llaw drwy e-bostio: cyfres6@bangor.ac.uk neu drwy ymweld 芒 siop Neuadd Ogwen ar y Stryd Fawr ym Methesda. Gallwch hefyd ddilyn ffrwd Twitter y gyfres: @cyfres6PB
Dyddiad cyhoeddi: 28 Hydref 2014