Darlithydd Nyrs Anableddau Dysgu yn ennill Gwobr RCN Cymru 2019
Enillodd Dr Ruth Williams, darlithydd Nyrsio Anableddau Dysgu ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料 Wobr Addysg Nyrsio RCN Cymru 2019. Mae'r wobr yn cydnabod dwy elfen o waith Ruth yn benodol; ei harweinyddiaeth a'i hymrwymiad i addysg, a'i ffocws ar bobl ag anableddau dysgu a'r Gymraeg.
Mae Ruth wedi gwneud cyfraniad sylweddol i'r rhaglen baglor mewn nyrsio anableddau dysgu, ac i fyfyrwyr ar raglenni nyrsio eraill. Mae hi wedi cynllunio, gweithredu a gwerthuso dulliau arloesol i fyfyrwyr nyrsio oedolion i'w galluogi i ymwneud 芒 phobl ag anabledd dysgu. Mae ei hagwedd arloesol a chynhwysol tuag at addysgu i sicrhau y rhoddir yr hyn a ddysgir ar waith yn ymarferol ac ystyrlon yn amlwg yn ei hangerdd a'i brwdfrydedd.
Roedd Dr Williams yn awyddus i bwysleisio bod y wobr hon yn gynrychioliadol o'r t卯m Anableddau Dysgu cyfan sy'n rhan o raglen 香港六合彩挂牌资料 鈥淚 mi - mae'r wobr yn mynd i'r 't卯m', heb gyfraniad pobl ag anableddau dysgu a'u teuluoedd a'u gofalwyr, y myfyrwyr nyrsio, cydweithwyr bwrdd iechyd a'r darlithwyr anableddau dysgu, ni fyddai'n bosibl imi fod yn ddarlithydd nyrsio. Gobeithio y bydd derbyn gwobr sy'n cydnabod cyfraniad unigryw a hanfodol 'arbenigwyr trwy brofiad' i addysg nyrsio yn ysbrydoli darlithwyr a nyrsys eraill i gynnwys cyd-gynhyrchu gyda'r holl randdeiliaid yn eu gwaith o ddydd i ddydd."
Mae'r wobr hefyd yn cydnabod y cyfleoedd a roddir i fyfyrwyr nyrsio ym Mangor i gymryd rhan yn eu haddysg yn yr iaith o'u dewis, Cymraeg neu Saesneg, gan ysbrydoli myfyrwyr nyrsio i gynnig dewis iaith i'w cleifion hefyd.
Dywedodd Dr Lynne Williams, Pennaeth yr Ysgol Gwyddorau Iechyd 鈥淩wy鈥檔 falch iawn bod ymdrechion Ruth, ac ymdrechion y t卯m cyfan, wedi cael eu cydnabod gan y Wobr RCN hon. Mae hwn yn ddarlun rhagorol o ansawdd addysg Nyrsio ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料 ac yn taflu goleuni ar y gweithgarwch addysgu, ar ein campws ym Mangor a Wrecsam, sy'n hyfforddi nyrsys y dyfodol ar gyfer gogledd Cymru a thu hwnt.鈥
Mae rhestr lawn o enillwyr gwobrau RCN 2019 ar gael ar eu gwefan: - https://www.rcn.org.uk/wales/get-involved/awards/award-winners-2019.
Llun: Chwith-Dde: Helen Whyley, Cyfarwyddwr RCN Cymru, Dr Ruth Williams, Sarah Thornton, cyd-ddarlithydd ar Nyrsio Anableddau Dysgu sy'n gysylltiedig 芒 Mencap M么n ac sy'n cynrychioli noddwyr y wobr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Tachwedd 2019