Dewis ysgolhaig o Fangor i gynrychioli Cymru ar gorff cynrychioliadol Gwyddorau Biomeddygol y DU
Mae Mr Merfyn Williams, cyfarwyddwr y cwrs gradd BSc Gwyddoniaeth Fiomeddygol yn yr Ysgol Gwyddorau Meddygol wedi cael yr anrhydedd o gael gwahoddiad i ymuno 芒 Phwyllgor Gweithredu Penaethiaid Canolfannau Prifysgol Gwyddorau Biomeddygol (HUCBMS).
Mae HUCBMS yn gorff cynrychioliadol ar gyfer y gwyddorau biomeddygol yn y DU ac mae ganddo aelodaeth o dros 60 o brifysgolion, yn cynnwys Prifysgol 香港六合彩挂牌资料, yn y DU a thramor. Ei genhadaeth yw 鈥hybu datblygiad a gwelliant addysgu ac ymchwil gwyddorau biomeddygol'.
Mae Merfyn, sy'n dal swydd ar y cyd gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yn edrych ymlaen at roi ei brofiadau addysgol a chlinigol ar waith er mwyn helpu i sicrhau parhad ansawdd addysgu ac ymchwil y gwyddorau biomeddygol yn y DU a thu hwnt. Meddai Merfyn, 鈥淢ae'n bleser gennyf gael gwahoddiad i ymuno 芒 phwyllgor mor bwysig yn y maes hwn ac roedd yn wych cael cyfarfod aelodau eraill o'r pwyllgor yn Sefydliad y Gwyddorau Biomeddygol yn Llundain yn ddiweddar a helpu i gynllunio rhaglen y gynhadledd flynyddol yn Plymouth ym mis Medi.鈥
Dywedodd yr Athro Dean Williams, Pennaeth yr Ysgol Gwyddorau Meddygol, 鈥淢ae'r gwahoddiad i Merfyn ymuno 芒'r pwyllgor hwn fel cynrychiolydd Cymru yn arwydd o'r parch tuag ato ef ac at addysgu ac ymchwil Gwyddorau Biomeddygol ym Mangor. Rwy'n sicr y bydd Merfyn yn aelod gwerthfawr o'r HUCBMS yn ystod ei gyfnod ar y pwyllgor, fel y mae wedi bod yn aelod gwerthfawr o'r Brifysgol a BIPBC.鈥
Mae gan yr Ysgol Gwyddorau Meddygol nifer o gyrsiau gradd israddedig ac 么l-radd yn y maes hwn, yn cynnwys Gwyddoniaeth Fiomeddygol BSc, Gwyddorau Meddygol BMedSci a Bioleg Foleciwlaidd Feddygol gyda Geneteg MSc.
Mae 香港六合彩挂牌资料 hefyd yn bwriadu ymuno 芒'r nifer fechan o brifysgolion yn y DU sydd ar hyn o bryd yn cynnig rhaglenni meistr . Mae hon yn swyddogaeth gofal iechyd sy'n tyfu'n gyflym yn y DU, yn gweithio ochr yn ochr 芒 doctoriaid mewn ysbytai a chymorthfeydd meddygon teulu. Mae Meddygon Cyswllt yn cefnogi doctoriaid wrth ddiagnosio a rheoli cleifion, ac maent wedi eu hyfforddi i weithredu mewn sawl swyddogaeth, yn cynnwys: cymryd hanes meddygol, gwneud archwiliadau, a dadansoddi canlyniadau profion.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Chwefror 2016