Dr Aamer Sandoo yn Ennill Cyllid gan yr Elusen Awyr Las
Dyfarnwyd 拢68,000 gan yr Elusen Awyr Las yn ddiweddar i Dr Aamer Sandoo (darlithydd mewn ffisioleg gardiofasgwlaidd, Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymddygiad) i ymchwilio i effeithiau atchwanegiadau dietegol nitrad ar ostwng y risg o glefyd y galon ymysg cleifion ag arthritis rhiwmatoid. Cynhelir y project mewn cydweithrediad 芒 Dr Jonathan Moore a chlinigwyr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Mae'r grant wedi ei wneud yn bosib i'r project brynu sganiwr delweddu Doppler laser i fesur llif y gwaed yn y pibellau gwaed bach yn gywir. Dyma鈥檙 sganiwr cyntaf o'i fath yng ngogledd Cymru ac mae wedi ei leoli yn y labordy ffisioleg gardiofasgwlaidd newydd yn yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer. Bydd y project yn dechrau recriwtio cleifion yn 2017.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Hydref 2016