Dr Coetzer ar restr fer Llyfr y Flwyddyn BPS 2016
Mae gan Dr Coetzer swydd ar y cyd gyda Phrifysgol 香港六合彩挂牌资料 a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac mae ei lyfr 鈥漌orking with Brain Injury鈥 wedi ei roi ar restr fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn Cymdeithas Seicolegol Prydain (BPS) am 2016.
Mae Working with Brain Injury yn anelu at greu adnodd hunan-astudio ar gyfer ymarfer adlewyrchol ar sgiliau ymarferol yn ogystal 芒 gweithredu fel adnodd addysgu. Mae'r llyfr wedi ei ysgrifennu mewn arddull sgwrsio bron a ddarlunnir yn dda yn y dyfyniad hwn gan yr awduron "Mae niwroseicoleg glinigol yn greadur rhyfedd, yn wyddoniaeth ac yn gelfyddyd i'r un graddau 芒'i gilydd." Cafodd y llyfr lawer o adolygiadau ffafriol a chafodd ei ddisgrifio fel "...profiad darllen cryno ond cynhwysfawr aphleserus, sy'n paratoi'r darllenydd ar gyfer y dasg o weithio gyda chleifion sy'n dioddef gan anafiadau yn yr ymennydd," a gan adolygydd arall fel y "...canllaw mae'n rhaid wrtho ar hanfodion gweithio fel niwroseicolegydd mewn unrhyw leoliad..."
Wrth drafod cael ei roi ar y rhestr fer dywedodd Dr Coetzer, "Roeddwn wrth fy modd yn clywed bod 'Working with Brain Injury' wedi ei roi ar restr fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn Cymdeithas Seicolegol Prydain am 2016, yn y categori Ymarferwr. Mae鈥檙 llyfr yn distyllu'r wybodaeth academaidd hanfodol sydd ei hangen i hysbysu gofal niwroseicolegol da i gleifion sydd wedi cael niwed i'r ymennydd, gan gydnabod nad yw'r adnoddau sydd angen i gyflawni hyn bron byth yn ddihysbydd. Mae gwaith ymchwil rhagorol yn hysbysu ymarfer clinigol, ac mae ymarfer clinigol safon aur yn ei dro yn dibynnu ar addysgu ac ymchwilio rhagorol. Felly i mi'n bersonol, ni fyddai ysgrifennu llyfr fel hwn wedi bod yn bosibl heb flynyddoedd lawer o'r gefnogaeth, ysgogiad deallusol, anogaeth a chyfleoedd i gydweithio a geir yn fy nau 'gartref' - Gwasanaeth Anafiadau i'r Ymennydd Gogledd Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr GIG Cymru, a'r Ysgol Seicoleg ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料. 鈥
Ceir rhestr lawn o'r enwebiadau a chyhoeddir enwau'r enillwyr yn yr hydref.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Awst 2016