Edrych tuag at y dyfodol: Dementia a Dychymyg yn Ffair Utopia
Bydd , project cyffrous dan arweiniad Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 sy'n rhoi cyfle i bobl 芒 dementia gymryd rhan mewn gweithgareddau celf, yn cynnal stondin yn yn Somerset House.
Mae UTOPIA 2016 yn broject ar y cyd rhwng tri chymydog yn Llundain: Somerset House, King's College, Llundain a Sefydliad ac Oriel Courtauld, mewn partneriaeth 芒'r Llyfrgell Brydeinig, yr AHRC, y Cyngor Prydeinig, y London School of Economics and Political Science, M-Museum yn Leuven, Guardian Live a Verso.
Bydd ymwelwyr 芒 stondin Dementia a Dychymyg yn gallu cymryd rhan mewn sesiynau gydag artistiaid, gan helpu i ddychmygu dyfodol cymunedau a fydd yn gefnogol i ddementia. Mae hyn yn dilyn gweithdai Dementia a Dychymyg llwyddiannus yn Newcastle a Chesterfield yn Lloegr a'r Rhyl a Rhuthun yng Ngogledd Cymru.
Daeth plant ysgol a phobl sy'n byw gyda dementia, staff gofal, gweithwyr iechyd proffesiynol ac ymchwilwyr ynghyd yn y gweithdai i ystyried sut y gellir dychmygu a chreu cymunedau sy'n gefnogol i ddementia trwy gyfrwng y celfyddydau. Arweiniwyd pob gweithdy gan artistiaid proffesiynol o un o'r tri sefydliad celfyddydau sy'n bartneriaid ymchwil: Gwasanaeth Celfyddydau Cyngor Sir Ddinbych, Equal Arts ac artistiaid cyswllt o Nottingham Contemporary.
Mae Dementia a Dychymyg yn y digwyddiad fel rhan o bartneriaeth gyda Chyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC) a'r rhaglen Cymunedau Cysylltiedig. Amcanion y rhaglen Cymunedau Cysylltiedig yw meithrin cydweithio cadarn rhwng ymchwilwyr a chymunedau i gynhyrchu gwybodaeth ymchwil bwysig ar y newidiadau yn swyddogaeth cymunedau o ran cynnal a chyfoethogi ansawdd ein bywydau, rhywbeth a fydd o werth i ymchwil yn y dyfodol ac i gymunedau yn gyffredinol. Arweinir y rhaglen gan yr AHRC mewn partneriaeth 芒 chynghorau ymchwil eraill ac ystod o sefydliadau eraill.
Mae Dementia a Dychymyg yn rhan o astudiaeth ymchwil dan arweiniad Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 sy'n gweithio mewn partneriaeth 芒 nifer o brifysgolion a sefydliadau. Mae'r ymchwil yn edrych ar sut y gall celf helpu pobl sy'n byw gyda dementia, eu perthnasau, gofalwyr a chymunedau. I wneud hyn, mae'r ymchwil yn edrych ar fudd cymdeithasol, ymarferol ac economaidd celf. Cewch fwy o wybodaeth am yr ymchwil ar y wefan: dementiaandimagination.org.uk ac ar Twitter: @dem_imag
Cynhelir Ffair Utopia yn yr Edmond J. Safra Fountain Court yn Somerset House. Mae鈥檙 digwyddiad hwn am ddim. Bydd y Ffair ar agor o 24 i 26 Mehefin ar yr adegau a ganlyn: Dydd Gwener, 24: 5pm - 10pm; Dydd Sadwrn 25: 10am - 6pm; Dydd Sul, 26: 10am - 5pm.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Mehefin 2016