Efallai fod mwy o ffactorau nag a dybiech yn dylanwadu ar eich dygnwch wrth ymarfer
Yn awr fod mis Chwefror wedi cyrraedd, a ydych yn cael anhawster i gadw at gynllun ymarfer eich adduned Flwyddyn Newydd? Gall fod mwy i鈥檆h llwyddiant neu鈥檆h methiant nag sy鈥檔 amlwg.
Yn 么l canfyddiadau ymchwilwyr o Brifysgol 香港六合彩挂牌资料 a Phrifysgol Caint, roedd gweld delweddau cadarnhaol neu negyddol yn isganfyddol, neu am gyn lleied o amser fel na wyddoch eich bod wedi鈥檜 gweld, yn cael effaith ar yr adeg yr oedd unigolion yn gorflino wrth ymarfer.
Yn yr ymchwil, a oedd yn defnyddio 13 o unigolion corfforol egn茂ol dan gyfarwyddyd i seiclo mor hir ag oedd bosibl, cafodd yr ymchwilwyr fod y cyfranogwyr wedi parhau am dair munud yn fwy cyn gorflino pan oeddent yn gweld wynebau hapus yn isganfyddol, yn hytrach nag wynebau trist.
Cafwyd yr un canlyniad unwaith eto, ond gyda geiriau yn lle鈥檙 delweddau. Unwaith eto, cymerodd y cyfranogwyr fwy o amser i flino鈥檔 l芒n pan welent eiriau cysylltiedig 芒 gweithgarwch, megis 鈥淢YND鈥 yn hytrach na geiriau segur megis 鈥淪EFYLL鈥.
Mae鈥檙 ymchwil hon, a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn Frontiers in Human Neuroscience, yn dangos y graddau y gall y meddwl a ffactorau seicolegol effeithio ar berfformiad unigolyn mewn ymarfer.
Dyma oedd gan Dr Anthony Blanchfield i鈥檞 ddweud wrth roi sylwadau ar yr ymchwil a wnaethpwyd yn yr ym Mangor:
鈥淢ae鈥檙 rhain yn ganlyniadau gwych. Mae ein canfyddiadau ni, ar ben yr ymchwil i鈥檙 effaith a gaiff awgrymiadau anymwybodol ar ymddygiad, yn ychwanegu at y dystiolaeth sy鈥檔 dod i law yngl欧n 芒鈥檙 dylanwad a gaiff y meddwl ar ddygnwch. Cyn belled ag y mae ein hastudiaeth yn y cwestiwn, un ffordd o ddeall y canlyniadau hyn yw bod yr ysgogwyr fel pe baent yn lleihau鈥檙 ymdrech a oedd yn ofynnol, yn 么l tyb y cyfranogwyr, a hynny yn ei dro yn golygu y gallent barhau am fwy o amser.
鈥淓r mai canfyddiadau cychwynnol yw鈥檙 rhain, un goblygiad penodol, o bosibl, yw y gallai fod yn syniad da i鈥檙 rhai sy鈥檔 cael anhawster i gadw at gynlluniau Blwyddyn Newydd ar gyfer ymarfer geisio cwmni pobl hapus a geiriau sy鈥檔 awgrymu gweithgarwch, er mwyn elwa ar fanteision ymarfer corff.鈥
鈥淵r hyn sy鈥檔 fwy diddorol fyth o鈥檔 hastudiaeth oedd nad oedd hyd yn oed angen i bobl fod yn ymwybodol o鈥檙 dylanwadau hyn er mwyn iddynt gael effaith.鈥
Meddai鈥檙 cyd-awdur, James Hardy o Brifysgol 香港六合彩挂牌资料: 鈥淵n draddodiadol, nid yw gwyddonwyr wedi cydnabod yn llwyr bosibiliadau鈥檙 meddwl o ran estyn neu danseilio perfformiad. Mae鈥檙 ddwy astudiaeth hyn yn rhan o PhD ar y mater hwn, un sy鈥檔 edrych ar swyddogaeth ymdrech wrth i bobl eu datgysylltu eu hunain oddi wrth ymarfer.鈥
鈥淵 sialens nesaf yw deall y rheswm am y canfyddiadau hyn. Rydym yn awyddus i ganfod p鈥檜n ai鈥檙 delweddau hapus a鈥檙 geiriau sy鈥檔 awgrymu gweithredu oedd yn arwain at welliant mewn gwirionedd, ynteu鈥檙 delweddau trist a鈥檙 geiriau鈥檔 awgrymu segurdod oedd yn gyfrifol am danseilio perfformiad. Ar hyn o bryd, yr unig beth a wyddom yw bod gwahaniaeth rhwng y ddau ysgogydd hyn, yn hytrach na pha un sy鈥檔 鈥済yrru鈥檙鈥 canlyniad; efallai y bydd gwybod hynny鈥檔 gymorth inni ymyrryd mewn modd mwy penodol.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 6 Chwefror 2015