Enwi darlithfa ar 么l darlithydd ysbrydoledig
Bu Alun Waddon yn ddarlithydd yn yr Ysgol Seicoleg o 1970-2005. Ar 么l ei farwolaeth yn ddiweddar penderfynodd yr Ysgol gydnabod ei gyfraniad pwysig mewn Seicoleg ym Mangor drwy enwi Darlithfa 1 ar ei 么l. Roedd yn ddarlithydd ysbrydoledig a oedd bob amser yn barod i fynd yr ail filltir i gynorthwyo ei fyfyrwyr. Roedd ganddo鈥檙 funud ychwanegol honno i ateb cwestiynau ac agorodd ddrysau i鈥檞 fyfyrwyr, yn llythrennol a ffigurol. Cafodd Darlithfa 1 ei henwi鈥檔 Ddarlithfa Alun Waddon gan wraig Alun, Dr Michelle Aldridge-Waddon, a 2 o鈥檌 3 phlentyn, mewn seremoni a gynhaliwyd ar 27 Hydref, gyda chydweithwyr a chyfeillion Alun yn bresennol.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Tachwedd 2011