Ffisiotherapyddion cyntaf Cymru i gael rhoi presgripsiwn
Mae pedwar ffisiotherapydd sy'n gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi dod y rhai cyntaf ymysg eu proffesiwn yng Nghymru i gael rhoi moddion ar bresgripsiwn i'w cleifion, yn union fel y byddai meddyg teulu'n ei wneud.
Hyd at ddiwedd 2013 dim ond fel 'presgribwyr atodol' y gallai ffisiotherapyddion, podiatryddion a radiograffwyr weithredu ym Mhrydain, a oedd yn golygu bod rhaid cyfeirio eu cleifion at feddyg i gael presgripsiwn ac y gallai'r meddyg ei newid os oedd angen.
Rob Caine, Maddy Nicholson, Ann Harpum a Cathy Wynne yw'r ffisiotherapyddion cyntaf i gymhwyso ar 么l cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料.
Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 oedd yr unig brifysgol yng Nghymru a gafodd ei dilysu gan y Cyngor Proffesiynau Gofal Iechyd (HCPC) yn Nhachwedd 2013 i gynnal cwrs i alluogi presgribwyr atodol i ddod yn bresgribwyr annibynnol, a chwrs presgribio annibynnol llawn i rai wedi'u cofrestru 芒'r HCPC. Mae'r ddeddfwriaeth yng Nghymru'n awr wedi ei diwygio i alluogi'r ffisiotherapyddion hyn i weithredu fel presgribwyr annibynnol yng Nghymru gan ddod 芒'r sefyllfa'r un fath ag y mae yn Lloegr.
Cafodd yr elfen academaidd ei dysgu a'i hasesu gan Prifysgol 香港六合彩挂牌资料, gyda'r cymwyseddau clinigol yn cael eu hasesu gan ymarferwyr meddygol penodedig ar lefel ymgynghorydd o fewn y gwasanaeth iechyd. Mae cyd-arweinwyr y cwrs, Mrs Karen Vipond a Mrs Cherie Weightman, wedi bod yn gweithio'n agos 芒'r Cyngor Proffesiynol Gofal Iechyd, y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth a'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol, ac mae'r tri chorff rheolaethol hyn wedi dilysu'r cwrs hwn i gael ei gyflwyno ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料. Mae'r cwrs wedi cael ei ddatblygu gan bresgribwyr ar gyfer presgribwyr ac mae'n hyfforddi nyrsys, fferyllwyr, podiatryddion, radiograffwyr, yn ogystal 芒 ffisiotherapyddion, i ddod yn bresgribwyr annibynnol.
Meddai Jan Fereday Smith, pennaeth Ffisiotherapi ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr:
"Dwi'n hynod falch mai Cathy, Ann, Rob a Maddy ydi'r pedwar ffisiotherapydd cyntaf yng Nghymru i gymhwyso'n bresgribwyr annibynnol - mae'n anrhydedd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae hyn yn rhoi cyfleoedd gwych i ffisiotherapyddion gymryd rhan flaenllaw mewn cynlluniau gofalu am gleifion."
Meddai'r Athro Jo Rycroft-Malone, Pennaeth yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd:
"Mae'r Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd yn falch o fod wedi cefnogi'r ffisiotherapyddion cyntaf yng Nghymru i ddod yn bresgribwyr annibynnol. Wrth i swyddogaethau a chyfrifoldebau gofal iechyd newid mewn ymateb i ofynion y system gofal iechyd bresennol, mae'r Ysgol wedi bod yn chwarae rhan allweddol mewn addysgu ymarferwyr iechyd, fel Cathy, Ann, Maddy a Rob i ddatblygu yn eu swyddi er budd cleifion. Ar ran t卯m y cwrs yn yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd, hoffwn ddiolch i'r ymgynghorwyr: Dr Yasmeen Ahmed, Dr Dilesh Thaker, Dr Vanessa Poeppinghaus, a Dr William Whitehead am eu cefnogaeth gyson i'r cwrs yma."
Meddai Ann Harpum, sy'n gweithio mewn adran frys: "Mae'r cymhwyster yma'n mynd i gynyddu amrywiaeth y cyffuriau allweddol y gallaf eu rhoi i gleifion, yn cynnwys moddion analgesia rhag llid a gwrthfiotigau i drin briwiau."
Meddai Rob Caine, Arbenigwr Clinigol mewn Rhewmatoleg, sy'n gweithio yn Llandudno, 香港六合彩挂牌资料 ac ar draws ardal orllewinol yr Ymddiriedolaeth: "Bydd y cwrs yn ein galluogi i roi gwell gwasanaeth i gleifion - er enghraifft, ni fydd rhaid iddynt ddod yn 么l a gweld meddyg os gallwn ni roi'r moddion iddynt ar bresgripsiwn. Bydd yn arbed amser gan ein galluogi i weithredu'n fwy effeithiol."
Teimla Cathy Wynne, uwch ymarferwr mewn gofal sylfaenol mewn practis meddyg teulu, y bydd y newid "yn gwella'r llwybr gofal i gleifion - dim ond dod i'm gweld i fydd raid iddyn nhw i gael presgripsiwn nawr, fydd dim rhaid iddyn nhw fynd at y meddyg teulu."
Mae Maddy Nicholson yn gweithio yn y t卯m rheoli poen yn Ysbyty Abergele ac mae hi'n teimlo y bydd y wybodaeth y mae wedi'i chael drwy'r cwrs yn ei galluogi i gyfrannu at yr adolygiadau achos amlddisgyblaethol yn ymwneud 芒 chleifion.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Medi 2014