Ffisiotherapyddion Cyntaf Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 yn cyrraedd y gweithle
Mae’r myfyrwyr ffisiotherapi cyntaf i astudio ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料 wedi graddio ac maent ar fin dechrau gweithio fel ffisiotherapyddion gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) ac mewn mannau eraill yn y Gwasanaeth Iechyd.
Nodwyd bod angen buddsoddi yn y gweithlu ffisiotherapi yn y gogledd ac yn 2019 llwyddodd Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 i sicrhau’r comisiwn dros hyfforddi myfyrwyr Ffisiotherapi ar y Diploma Ôl-radd mewn Ffisiotherapi. Gradd garlam yw hon ac mae'n cywasgu’r hyfforddiant hanfodol hwn yn ddwy flynedd galendr.
Dyma garreg filltir bwysig i weithlu’r Gwasanaeth Iechyd yn y rhanbarth. Yn ogystal, mae’n golygu nad yw darpar fyfyrwyr o'r rhanbarth yn gorfod teithio at ddarparwyr hyfforddiant eraill i ddysgu ac o‘r herwydd maent yn aros yn y gymuned ac yn rhan annatod ohoni.
Trwy gydol eu hyfforddiant mae'r myfyrwyr yn treulio dros 1000 o oriau mewn lleoliadau gofal iechyd lleol ar brofiad gwaith.
Mae'r berthynas gref sydd rhwng y Brifysgol a’r Bwrdd Iechyd yn allweddol i lwyddiant yr hyfforddiant. Dywedodd Cathy Wynne, rheolwr gwasanaeth yn y Bwrdd Iechyd:
“Mae’n bleser gennyf groesawu’r graddedigion cyntaf i’r bwrdd iechyd o gwrs Ffisiotherapi Prifysgol 香港六合彩挂牌资料. Bydd yn bleser gweld y myfyrwyr yn troi’n genhedlaeth newydd o ffisiotherapyddion. Buom yn aros am y diwrnod hwn ers blynyddoedd lawer, gan weithio mewn partneriaeth â’r Brifysgol i ddatblygu cwrs hyfforddi lleol ar gyfer y gogledd orllewin.”
Dywedodd yr Athro Nichola Callow, Dirprwy Is-Ganghellor Addysgu a Dysgu, Prifysgol 香港六合彩挂牌资料:
“Roedd yn wych gweld y rhaglen hon yn datblygu dros y ddwy flynedd ddiwethaf, a’r Arholwr Allanol yn canmol y rhaglen yn fawr, yn enwedig o ran rhagoriaeth y staff a’r diddordeb mawr ymhlith y myfyrwyr. Dymunaf y gorau i’r holl fyfyrwyr yn eu gyrfaoedd newydd, ac edrychaf ymlaen at lwyddiant parhaus y rhaglen er mwyn iechyd a lles ein poblogaeth.”
Dywedodd Dr Lynne Williams, Pennaeth yr Ysgol Gwyddorau Iechyd:
“Rydym yn falch iawn o’r garfan gyntaf hon o fyfyrwyr ffisiotherapi ac edrychwn ymlaen at ddilyn eu gyrfaoedd mewn ffisiotherapi yn rhanbarthol ac ymhellach i ffwrdd. Rydym wrth ein bodd o gael ein comisiynu gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru i gynnig rhaglen newydd a gwych, a hoffwn ddiolch i’r tîm academaidd, o dan arweiniad Jonathan Flynn a’n partneriaid yn y Bwrdd Iechyd a darparwyr gofal eraill am y cydweithio parhaus a fu’n fodd i sicrhau llwyddiant y rhaglen a rhoi profiad dysgu rhagorol i’r myfyrwyr.”
Dywedodd Gareth Evans, Cyfarwyddwr Clinigol, Gwasanaethau Therapi yn y Bwrdd Iechyd:
“Braf oedd gweithio mewn partneriaeth â Phrifysgol 香港六合彩挂牌资料 i gefnogi uchelgais hirsefydlog i gynyddu addysg ar gyfer y Proffesiynau Perthynol i Iechyd yn y gogledd. Rhaid llongyfarch Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 am wireddu’r uchelgais honno. Mae darparu hyfforddiant ffisiotherapi yn y gogledd yn gam mawr ymlaen i wella datblygiad y gweithlu at y dyfodol, a chaniatáu i bobl fyw a hyfforddi yng Ngogledd Cymru. Llongyfarchiadau i’r holl raddedigion newydd sy’n cychwyn ar eu gyrfaoedd, dymunaf bob llwyddiant iddynt ac edrychaf ymlaen at gwrdd â’r rhai sy’n ymuno â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.”
Dywedodd Sam Wynne, o Lanbedr, a fydd yn dechrau yn ei swydd gyda Betsi Cadwalader, Gorllewin: - “Mae’n fraint cael cymhwyso fel ffisiotherapydd yn fy Mhrifysgol gartref a chael fy nysgu gan ddarlithwyr anhygoel. Rwy’n edrych ymlaen at ddefnyddio’r sgiliau niferus a ddysgais yn ymarferol yn y maes.”
Dywedodd Llawen Rossell-Smith o Gricieth sy’n dechrau ar swydd gyda Betsi Cadwaladr, Gorllewin:
“Trwy gyflwyno’r cwrs yma perodd Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 a’r staff imi wireddu fy mhotensial. Rwyf wedi magu hyder aruthrol diolch i gefnogaeth y darlithwyr a’r tiwtoriaid. Rhoddodd y Brifysgol gyfle imi ganolbwyntio ar wella fy Nghymraeg a chynigiodd arweiniad i gyflwyno aseiniadau yn Gymraeg er mwyn imi allu cyflawni nodau personol o ran cwblhau’r rheini. Rwy’n teimlo’n falch iawn ’mod i’n dod o Ogledd Cymru, ac yn freintiedig o gael astudio diploma ôl-radd yma, ac rwy’n teimlo’n hynod ffodus y byddaf yn gweithio yn y gogledd yn fy swydd ddelfrydol.”
Dywedodd Dan Curran o Fangor sy’n dechrau swydd gyda Betsi Cadwaladr, Gorllewin:
“Mae’n hwyr gen i ddechrau ar fy ngyrfa fel ffisiotherapydd yn yr ardal hyfryd lle ces i fy magu! Diolch i Brifysgol 香港六合彩挂牌资料 ac arweinwyr y cwrs am roi’r cyfle imi.”
Dyddiad cyhoeddi: 25 Chwefror 2022