Gall cyffuriau newydd fod yn well i atal str么c
Mae cyffuriau gwrth-geulo, a gymeradwywyd gan NICE, o leiaf mor effeithiol 芒'r cyffur poblogaidd warfarin i atal str么c mewn pobl gyda ffibriliad atriaidd, a gallant fod yn fwy effeithiol hyd yn oed. Gall y darganfyddiad hwn, a gyhoeddwyd yn Clinical Pharmacology & Therapeutics (DOI: 10.1038/CLPT.2013.83) helpu i wneud penderfyniadau ynghylch opsiynau triniaeth i wahanol gleifion sydd mewn perygl o gael str么c.
Mae'r galon yn curo'n afreolaidd mewn pobl sy'n dioddef oddi wrth ffibriliad atriaidd ac mae hynny'n cynyddu'r perygl iddynt gael str么c, a than yn ddiweddar, warfarin oedd yr unig fath o driniaeth wrth-geulo a oedd ar gael. Nid yw effeithiolrwydd cymharol y cyffuriau gwrth-geulo newydd sy'n gweithio drwy fecanweithiau gwahanol yn hysbys ac, ar hyn o bryd, nid oes unrhyw gynlluniau i gynnal profion i gymharu'r cyffuriau hyn.
Fel canllawiau i ddewis triniaeth, fe wnaeth Dyfrig Hughes a chydweithwyr o'r wneud cymhariaeth anuniongyrchol. Fe wnaethant ddefnyddio canfyddiadau profion blaenorol a'u haddasu ar gyfer gwahaniaethau mewn cynlluniau profion, poblogaethau, a'u heffeithiau posibl ar effeithiolrwydd cymharol tybiedig. Mae'r canlyniadau'n awgrymu mai apixaban yw'r cyffur gwrth-geulo mwyaf effeithiol a gymerir drwy'r geg, ac yna dabigatran, rivaroxaban a warfarin yn y drefn yna. Mae'r awduron yn awgrymu bod y gwahaniaethau wedi'u seilio'n bennaf ar gyfraddau str么c ac achosion o waedu mawr, a oedd yn is yn achos yr holl gyffuriau newydd o'u cymharu 芒 warfarin.
Mae'r t卯m yn pwysleisio na all y cymariaethau anuniongyrchol hyn gymryd lle tystiolaeth o brofion ar hap dan reolaeth. Fodd bynnag, mae'r cyffuriau gwrth-geulo newydd hyn yn rhoi mwy o opsiynau triniaeth, a gallant fod yn ddewisiadau gwell, o ystyried bod warfarin yn cynyddu perygl gwaedu, yn rhyngweithio 芒 llawer o gyffuriau, ac angen ei fonitro'n ofalus oherwydd yr amrywiaeth yn ymateb cleifion iddo.
Cyllidwyd yr astudiaeth gan y Cyngor Ymchwil Meddygol, fel rhan o'r North West Hub for Trial Methodological Research (NWHTMR).
Dyddiad cyhoeddi: 26 Ebrill 2013