Gall egwyddorion seicolegol egluro methiannau o bwys mewn gofal iechyd
Mae papur yn y BMJ yn torri tir newydd drwy ddefnyddio dulliau gweithredu seicolegol i adolygu argyfyngau iechyd mawr o fewn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
Er gwaethaf nifer o ymholiadau cymhleth ac amlwg i fethiannau o bwys mewn gofal iechyd yn y GIG, mae'r un camgymeriadau'n codi eu pennau'n gyson a methiannau mewn sicrhau diogelwch cleifion yn parhau. Tra bo ymchwiliadau'n disgrifio'r hyn a aeth o'i le ym mhob achos, mae cwestiynau ynghylch sut a pham y digwyddodd methiannau o'r fath yn aros heb eu hateb.
Yn y papur ymchwil, mae Dr Michelle Rydon-Grange, sydd newydd gymhwyso fel yn y Brifysgol, yn defnyddio theori seicolegol i ganfod dealltwriaethau newydd o'r achosion sy'n arwain at fethiannau enbydus mewn lleoliadau gofal iechyd. Mae'n egluro mai'r agwedd a esgeulisir yn aml mewn ymchwiliadau yw'r rhan y mae ymddygiad dynol yn ei chwarae o ran cyfrannu at y methiannau hyn, a gobeithia y gallai defnyddio damcaniaethau seicolegol eu hatal rhag ailddigwydd yn y dyfodol.
Mae gwerth theori seicolegol mewn diwydiannau lle mae diogelwch yn hollbwysig, megis hedfan a ph诺er niwclear, wedi ei gydnabod ers tro ac mae wedi ei seilio ar y syniad bod angen ymddygiad arbennig gan aelodau staff er mwyn sicrhau diogelwch. Fodd bynnag, nid yw hynny'n wir eto am ofal iechyd.
Er nad oes tebygrwydd amlwg efallai rhwng gwahanol sgandalau gofal iechyd sydd wedi digwydd mewn gwahanol feysydd meddygaeth yn ystod yr ychydig ddegawdau diwethaf, eto yn 么l Rydon-Grange mae tebygrwydd trawiadol i'w weld yn yr amodau lle digwyddodd yr argyfyngau hyn.
Mae Dr Rydon-Grange yn dadlau bod yna dri ffactor sy'n cyfrannu at yr holl argyfyngau hyn: diwylliant o ofn, beio a gwneud i bobl gywilyddio; cadarnhau agweddau negyddol; a mor芒l isel.
Yn ddiarwybod fe wnaeth setiau neilltuol o amgylchiadau greu diwylliannau a arweiniodd at i ofalwyr proffesiynol ymddwyn mewn ffordd lai gofalgar. Dadleua Rydon-Grange y gall damcaniaethau ymddygiadol, cymdeithasol a gwybyddol o faes seicoleg oleuo dealltwriaeth bellach o'r pethau hynny sy'n arwain at ofal gwael.
Mae gan seicoleg gyfraniad clir i'w wneud i ddeall yn well y diwylliant a'r ymddygiadau a arweiniodd at yr argyfyngau hyn. Y cam cyntaf i helpu i atal argyfyngau yn y dyfodol yw sylweddoli bod angen ymddygiadau arbennig gan staff, wedi eu gwreiddio mewn diwylliant o onestrwydd a dysg, er mwyn sicrhau diogelwch cleifion yn ein hysbytai. Trwy ddefnyddio theori seicolegol, gall ddod yn haws deall a delio ag ymddygiadau a all ymddangos yn anodd eu deall. Unwaith y bo'r ddealltwriaeth yma wedi'i sefydlu, yna rydym mewn gwell sefyllfa i ddechrau meddwl am atal argyfyngau yn y dyfodol.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Hydref 2015