Galw am arbenigedd Seicoleg Chwaraeon 香港六合彩挂牌资料 ym Malaysia
Mae'r Athro Nicky Callow wedi cael ei gwahodd i (UM) yn Kuala Lumpur fel rhan o'u cynllun cadair wadd lle mae academyddion o bob rhan o'r byd yn cyflwyno gweithdai a seminarau yn y brifysgol. Mae UM ar frig y rhestr o brifysgolion ym Malaysia ac yn 么l rhestr QS o brifysgolion y byd mae yn y 150 uchaf (safle 29 yn Asia).
Bydd ymweliad yr Athro Callow yn dechrau ar 29 Chwefror ac fe'i gynhelir gan a oedd y cyntaf ym Malaysia i gynnig gradd Baglor mewn Gwyddorau Chwaraeon ac mae'n arwain y gad o ran astudiaethau academaidd mewn chwaraeon yn y wlad. Yn ystod ei chadair wadd bydd Nicky yn gweithio gyda myfyrwyr y gyfadran a myfyrwyr 么l-radd ar bynciau ym maes seicoleg chwaraeon yn ogystal 芒 chynorthwyo gyda methodoleg ymchwil fel cynllunio holiaduron a darlithio ar ddelweddau i ddosbarth o israddedigion Seicoleg. Bydd yn treulio rhan o'r wythnos yn dadansoddi data a gasglwyd o broject PhD y mae'n ei oruchwylio ar y cyd gyda Dr Rizal Mohd.Razman o UM.
Efallai mai uchafbwynt yr wythnos fydd gweithdy rhyngweithiol "Mae dychymyg yn bwysicach na gwybodaeth" a fwriedir ar gyfer seicolegwyr chwaraeon, hyfforddwyr, athletwyr a myfyrwyr gwyddorau chwaraeon a fydd yn trafod canfyddiadau ymchwil diweddar mewn perthynas 芒 defnyddio delweddau (ymarfer meddyliol) gydag enghreifftiau ymarferol o ddarparu delweddau i ymarferwyr. Bydd y pynciau鈥檔 cynnwys: mathau o ddelweddau a ddefnyddir gan athletwyr, moddolder delweddau, gallu delweddau, ysgrifennu sgriptiau delweddau a strwythuro ymyriadau delweddau i sicrhau'r effeithiolrwydd mwyaf a bydd yr Athro Callow yn tynnu ar dros 20 mlynedd o brofiad ymchwil a chymhwysol ar lefel ryngwladol.
Meddai'r Athro Callow "Mae safon yr ymchwil yn UM yn ardderchog ac mae'n fraint i mi gael fy ngwahodd i chwarae rhan fach mewn helpu gyda chynnydd eu gweithgareddau ymchwil a dysgu. Hefyd rwy'n edrych ymlaen at gael y cyfle i gryfhau'r berthynas rhwng y ddwy brifysgol, boed trwy ymchwil ar y cyd neu gyfnewid staff a myfyrwyr.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Chwefror 2016