G锚m newydd i helpu pobl i yfed llai
Mae'r flwyddyn newydd yn adeg pan fyddwn yn ystyried gwneud newidiadau i'n ffordd o fyw. Ar 么l mwynhau gormodedd dros yr 诺yl, mae yfed llai o alcohol yn aml yn uchel ar y rhestr hon, ond gall grym ein hewyllys elwa o gael hwb bach i'n helpu i wneud y newidiadau hyn. Dengys ymchwil bod g锚m newydd ar ff么n symudol gan is-gwmni Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 Attention Retraining Technologies (ART) yn gallu gwneud hyn.
Mae , sy'n seiliedig ar ymchwil gwreiddiol gan yr Athro Miles Cox o'r uchel ei pharch ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料, yn g锚m newydd ddifyr sy'n helpu pobl i yfed llai.
Dangosodd ymchwil gwyddonol cynnar gan yr Athro Miles Cox yn Ysgol Seicoleg y brifysgol bod pobl sy'n yfed fwy o alcohol na'r lefelau a argymhellir yn rheolaidd, yn rhoi llawer mwy o sylw i ddelweddau sy'n gysylltiedig ag alcohol. Er enghraifft, pan fyddwch yn cerdded i lawr y Stryd Fawr bydd arwyddion siopau neu hysbysebion cysylltiedig ag alcohol yn tynnu eich sylw yn amlach. Mae'r "gogwydd sylw" hyn yn arwain at yfed yn gynharach ac felly'n bwydo'r cylch yfed.
Datblygodd yr Athro Miles Cox a'i fyfyriwr PhD yr adeg honno, Dr Javad Fadardi, ddull labordy sy'n effeithiol o ran torri'r cylch hwn drwy ailhyfforddi i dynnu sylw oddi wrth luniau cysylltiedig ag alcohol. Sylweddolodd cydweithiwr yr Athro Cox, yr Athro James Intriligator, y gallai troi'r dull labordy hwn i fod yn g锚m ar ff么n symudol arwain at welliant sylweddol yn iechyd y cyhoedd yn y DU. Ei gynllun oedd datblygu rhywbeth y gellid ei gyflwyno fel ymyriad cynnar i bobl nad ydynt angen triniaeth dadwenwyno ond byddent yn cael budd o yfed llai o alcohol.
Enillodd yr Athro Intriligator, a'i d卯m ddau gontract Menter Ymchwil Busnesau Bach gyda'r Adran Iechyd i weld pa mor ymarferol yw'r g锚m ar ddyfeisiau symudol ac i ddatblygu fersiwn fyddai'n barod i'r farchnad. Dangosodd y canlyniadau bod y g锚m symudol mor effeithiol 芒'r rhaglen driniaeth yn y labordy i leihau faint a yfir yn ogystal 芒 lleihau effeithiau negyddol eraill fel absenoldeb, salwch a diffyg cynhyrchiant yn y gwaith. Yn ddiddorol iawn, roedd y chwaraewyr hefyd yn dweud eu bod yn mwynhau diod alcoholig yn fwy pan oeddent yn cael un.
"Roedd canlyniadau'r arbrawf yn gadarnhaol iawn," meddai'r Athro Intriligator. "O ganlyniad, rydym wedi datblygu'r g锚m ymhellach ac wedi ychwanegu ychydig o nodweddion eraill i helpu pobl i yfed llai ac mae'r g锚m ar gael yn awr i'r cyhoedd ar iOS a siopau ap Android. Y cam nesaf yw bod y g锚m ar gael i feddygon ac awdurdodau iechyd roi cod am ddim, fel y gall cleifion sydd eisiau yfed llai gael mynediad at y g锚m drwy'r GIG".
Yn ogystal 芒'r nod o sicrhau bod Chimp Shop ar gael i gymaint o bobl ag y bo modd, mae ART yn awr yn edrych ar fuddion posibl ailhyfforddi sylw i feysydd eraill sy'n achosi pryder o ran iechyd y cyhoedd fel ysmygu a cholli pwysau.
Eglurodd yr Athro Intriligator, "Nid yw Chimp Shop yn ateb syml ond mae'n ffordd sydd wedi ei brofi o roi hwb i rym ewyllys - yn wir efallai mai dyma'r ffordd fwyaf difyr erioed o yfed llai!"
Am fwy o wybodaeth neu i gael cysylltiadau i lawrlwytho Chimp Shop, ewch i http://www.chimp-shop.com
Dyddiad cyhoeddi: 5 Ionawr 2015