Gofalwr penderfynol yn graddio am yr ail dro gyda balchder
Mae gofalu am berthynas mewn oed wrth weithio'n rhan-amser yn dipyn o dasg, ond mae gwneud hyn wrth astudio am radd yr un pryd yn go arbennig. Mae myfyriwr o Brifysgol 香港六合彩挂牌资料 wedi llwyddo, er gwaethaf pob disgwyl, i weithio, gofalu ac astudio, ac mae'n graddio'r wythnos hon.
Mae Emyr Williams, 50, o ogledd Cymru, wedi graddio gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf , ac mae eisoes wedi cael y swydd yr oedd arno'i heisiau. Mae Emyr yn awr yn gweithio fel Nyrs Seiciatrig Gymunedol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ac mae wedi'i leoli gyda Th卯m Iechyd Meddwl Conwy i bobl h欧n yn Llandudno.
Ar 么l graddio gyda gradd BA mewn Gweinyddu o'r Coleg Normal yn 1986, ymunodd Emyr 芒 Chyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Clwyd fel Swyddog Gwybodaeth. Ar 么l aildrefnu cynghorau lleol yn 1997, trosglwyddodd i Gyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych. Daeth yn Uwch Swyddog Datblygu yno hyd nes iddo dderbyn diswyddiad gwirfoddol ym mis Ionawr 2012.
Dechreuodd Emyr ymddiddori mewn materion iechyd meddwl aeth ei fam yn s芒l ar 么l marwolaeth sydyn ei dad. Yn dilyn hyn penderfynodd ei fod am fynd yn ymarferwr iechyd meddwl er mwyn gallu helpu pobl fel ei fam i wella.
Wrth raddio a chan gyfeirio at ei brofiad myfyriwr ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料, dywedodd Emyr:
"Mae'n anrhydedd mawr graddio ym Mangor unwaith eto. Y mae'n union 29 mlynedd ers i mi raddio am y tro cyntaf o'r Coleg Normal. Cynhaliwyd fy seremoni graddio cyntaf yn Neuadd Prichard Jones hefyd, felly bydd yn brofiad rhyfedd bod yn 么l ar 么l cymaint o flynyddoedd.
"Mi wnes i weithio llawer wrth astudio, doedd yna ddim dewis. Er y bu i mi fod yn ddigon ffodus cael bwrsariaeth, a helpodd, roedd arna'i angen talu'r biliau o hyd. Mi wnes i weithio, yn yr hynny o oriau rhydd oedd gen i, fel Gweithiwr Cefnogi Gofal Iechyd yn Ysbyty Cymunedol Bae Colwyn a Gwasanaeth Pobl Ifanc Gogledd Cymru (NWAS) yn Abergele.
"Nid yw bod yn ofalwr byth yn waith hawdd. Ar y dechrau roedd fy mam yn dal i fod gartref pan ddechreuais fy nghwrs, wedyn treuliodd gyfnodau hir yn yr ysbyty. Yn aml, byddwn yn gwneud teithiau tua 120 o filltiroedd yn 么l a blaen, sawl gwaith yr wythnos, fel y gallwn fynd i ddarlithoedd a/neu leoliadau, ac ymweld 芒 hi'n rheolaidd yn yr ysbyty. Fodd bynnag, nid oedd hyn yn fy mhoeni, gan fy mod yn benderfynol o lwyddo a chyflawni fy nod o ddod yn nyrs iechyd meddwl."
"Un o uchafbwyntiau oedd y cwrs ei hun, a'r cyfleoedd y bu iddo'u rhoi i mi weithio mewn cymaint o leoliadau clinigol gwahanol, a hefyd cwrdd 芒 chymaint o bobl ysbrydoledig ac ymroddedig. Uchafbwynt arall oedd fy nghyd-fyfyrwyr - roeddent i gyd yn anhygoel a gwn fy mod i wedi gwneud ffrindiau oes. Roedd yr holl staff yn yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd yn gyfeillgar a chefnogol. Fodd bynnag, y llwyddiant personol mwyaf i mi oedd cael fy ngradd anrhydedd dosbarth cyntaf. Mae'n rhaid i mi wirioneddol ddiolch i Denise Aspinall, sef Arweinydd y Rhaglen a Darlithydd mewn Nyrsio Iechyd Meddwl yn y Brifysgol, a'm Tiwtor Personol i, am ei harweiniad a'i chefnogaeth hael drwy gydol fy nghwrs. Mi wnaeth fy ngalluogi i gyflawni'r gorau y gallwn, yn aml o dan amgylchiadau anodd, llawn straen.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Gorffennaf 2015