Gr诺p o Brifysgol 香港六合彩挂牌资料 i ymchwilio i salwch pen mynydd mewn taith i Fynyddoedd yr Himalaia
Yr wythnos hon, bydd academyddion o Brifysgol 香港六合彩挂牌资料 yn arwain taith i Fynyddoedd yr Himalaia fel rhan o broject ymchwil fydd yn edrych ar salwch cysylltiedig 芒 bod ar ben mynyddoedd uchel. Bydd yr ymchwilwyr Dr Samuel Oliver a Dr Jamie Macdonald, Gabriella Rossetti sy'n fyfyriwr PhD, a James Pollard sy'n fyfyriwr israddedig Gwyddorau Chwaraeon - i gyd o Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 - yn rhan o d卯m o 55 o bobl a fydd yn cynnwys meddygon, gwyddonwyr ac achubwyr mynydd. Bydd y t卯m yn dechrau'r daith ar 20 Mawrth ac yn dychwelyd ar 25 Ebrill.
Bydd y daith, a drefnir gan Medical Expeditions (MEDEX), yn dilyn llwybr o amgylch mynydd Manaslu sydd ar uchder o 8000m, a chyrraedd y gwersyll fydd ar uchder o 5000 m lle bydd y t卯m yn gosod labordai a gaiff eu rhedeg gan ynni'r haul a'r gwynt i ymchwilio i chwe phroject ymchwil. Bydd y projectau hyn yn cynnwys 'ffynonellau straen a strategaethau ymdopi cysylltiedig wrth weithio ar uchder' a 'phrofi'r berthynas rhwng ffitrwydd a llwyddiant taith: a yw bod yn fwy ffit yn gysylltiedig 芒 llai o salwch, mwy o fwynhad a pherfformiad gwell?'
Meddai'r darlithydd ffisioleg, Dr Samuel Oliver, sy'n rhan o'r gr诺p Ymchwil Eithafion yn yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer: "Y rheswm yr ydym yn gwneud y daith hon yw ffurfio ymchwil a fydd yn ein galluogi ni i addysgu mynyddwyr, cerddwyr a'u meddygon am natur salwch pen mynydd a sut i'w osgoi."
Wrth baratoi ar gyfer y daith mae'r t卯m eisoes wedi cwblhau nifer o brofion sylfaenol mewn labordai yn Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Prifysgol 香港六合彩挂牌资料, yn cynnwys profion gorffwys ac ymarfer ar y galon, yr ysgyfaint a'r ymennydd yn ogystal 芒 phrofi patrymau cysgu'r cyfranogwyr.
Mae MEDEX wedi bod yn gwneud y math yma o deithiau ymchwil ers 1994. Bu Dr Jamie Macdonald a Dr Samuel Oliver yn gysylltiedig 芒 MEDEX o'r blaen pan aethant ar daith i Fynyddoedd yr Himalaia a Nepal yn 2008.
Caiff unrhyw newyddion diweddaraf am y daith eu rhannu ar Twitter .
Dyddiad cyhoeddi: 19 Mawrth 2015