Gwirfoddolwr ChildLine yn graddio
Bydd cyn-ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Caerdydd yn graddio o Brifysgol 香港六合彩挂牌资料 yr wythnos hon, ar 么l manteisio ar yr holl gyfleoedd sydd ar gael.
Bydd Harri Tatnell, 21 oed o Penylan, Caerdydd yn graddio gyda gradd BMedSci Gwyddorau Meddygol ar 么l tair blynedd o ymroddiad a gwaith caled.
Dywedodd Harri: "Rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn at gael graddio. Er fy mod wedi mwynhau fy mhrofiad fel myfyriwr ym Mangor, mae鈥檙 cyfnod wedi mynd yn llawer rhy gyflym - byddwn wrth fy modd yn ei wneud unwaith eto! Yr wyf yn teimlo'n angerddol am brofiad prifysgol a'r cyfleoedd sydd ar gael ac rwy'n credu y dylai pawb ystyried addysg uwch.
"Fel myfyriwr Cymraeg, teimlais ei bod yn bwysig astudio yng Nghymru. Roeddwn eisiau symud o gartref ac ers dod i鈥檙 diwrnod agored ym Mangor am y tro cyntaf, roeddwn wedi rhyfeddu at y lleoliad a鈥檙 cyfleoedd anhygoel.
"Yn ystod fy astudiaethau gweithiais fel Cydlynydd Campws Byw yn y neuaddau preswyl. R么l y Cydlynydd Campws Byw a鈥檙 rhaglen Campws Byw yw sicrhau bod myfyrwyr yn mwynhau eu cyfnod yn y neuaddau a hyrwyddo cymuned breswyl gynhwysol. Yn y gwaith hwn cefais gyfle i gyfarfod a sgwrsio 芒 chymaint o wahanol bobl. Rwyf wedi mwynhau gweithio gyda鈥檙 Cydlynwyr Campws Byw eraill a鈥檙 T卯m Bywyd Preswyl, ac rwyf wedi dysgu nifer o sgiliau trosglwyddadwy gwerthfawr.
"Er bod 香港六合彩挂牌资料 yn ddinas gymharol fach, mae llawer o gyfleoedd gwaith ar gael. Roeddwn yn gweithio'n rheolaidd gydag Adran Farchnata鈥檙 Brifysgol, a helpu mewn nifer o ddiwrnodau agored a theithio ledled Cymru a Lloegr i helpu gyda ffeiriau addysg uwch UCAS. Mae'r r么l hon wedi fy helpu i wella fy hyder i siarad yn gyhoeddus, yn ogystal 芒 chwrdd 芒 llawer o bobl newydd ac yn bwysicach na dim, eu cael nhw i ystyried mynd i'r brifysgol.
"Rwy鈥檔 falch iawn fy mod wedi gwirfoddoli fel cwnselydd ChildLine yn ystod fy nghyfnod yn y brifysgol. Mae'r profiad hwn wedi cyfoethogi fy nysgu a fy natblygiad. Mae wedi fy ngwneud yn ymwybodol o'r angen i ymddwyn yn briodol, yn effeithiol ac adeiladol mewn sefyllfaoedd penodol. Mae'n rhaid cyfleu鈥檙 gefnogaeth hon mewn ffordd gydymdeimladol ac anfeirniadol, sy鈥檔 briodol i鈥檙 oedran penodol. Mae'r profiad wedi rhoi鈥檙 gallu i mi beidio 芒 theimlo tuedd bersonol pan fo鈥檔 briodol a hefyd i adnabod y teimladau a ddangosir gan y defnyddwyr gwasanaeth. Mae鈥檔 bwysig iawn gwrando a deall yr hyn y mae'r person ifanc yn ei ddweud. Beth bynnag a ddaw yn y dyfodol, bydd yr holl brofiadau a'r sgiliau newydd hyn yn bendant yn werthfawr iawn i mi."
Dyddiad cyhoeddi: 18 Gorffennaf 2017